Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6.2 Cyfartaledd cymedrig

Nawr byddwch yn dysgu am:

  • ganfod y cymedr pan roddir set o ddata ichi
  • canfod y cymedr o dabl amlder

Mae’r cymedr yn ddull da i’w ddefnyddio pan fyddwch eisiau cymharu set fawr o ddata, er enghraifft:

  • y swm cyfartalog a wariwyd gan gwsmeriaid mewn siop
  • cost cyfartalog tŷ mewn ardal benodol
  • yr amser cyfartalog a gymerwyd i’r gwasanaeth atgyweirio ceir a ddewisoch gyrraedd eich car.

Gall y cyfartaledd cymedrig ein helpu ni i gymharu setiau o ddata sydd wedyn yn gallu eich helpu i wneud penderfyniad.