6.3 Canfod y cymedr o set o ddata
I ganfod cymedr set syml o ddata, y cyfan mae angen ichi ei wneud yw canfod cyfanswm yr holl eitemau gyda’i gilydd ac yna rhannu’r cyfanswm hwn â nifer yr eitemau o ddata sydd.
Llun | Mawrth | Mercher | Iau | Gwener | Sadwrn | Sul |
---|---|---|---|---|---|---|
56 kg | 60 kg | 58 kg | 62 kg | 65 kg | 49 kg | 58 kg |
Edrychwch eto ar bwysau’r afalau, mewn kg, y casglodd un gweithiwr bob dydd ar fferm afalau (a ddangosir uchod). Os ydych eisiau cyfrifo cyfartaledd cymedrig pwysau’r afalau a gasglwyd, yn gyntaf rhaid ichi ganfod cyfanswm pwysau’r afalau a gasglwyd yn ystod yr wythnos:
- 56 + 60 + 58 + 62 + 65 + 49 + 58 = 408 kg
Nesaf, rhannwch y cyfanswm hwn â nifer yr eitemau data, sef 7 yn yr achos hwn:
- 408 ÷ 7 = 58.3 kg (wedi’i dalgrynnu i un lle degol)
Mae’n bwysig nodi y gall y cymedr fod yn rhif degol hyd yn oed os gwnaethoch adio rhifau cyfan at ei gilydd.
Peth pwysig arall i’w nodi yw bod y ddau swm (yr adio ac yna’r rhannu) yn cael eu gwneud fel dau swm ar wahân. Pe baech yn ysgrifennu:
- 56 + 60 + 58 + 62 + 65 + 49 + 58 ÷ 7
ni fyddai’n gywir (ydych chi’n cofio CORLAT o Sesiwn 1?) Oni bai eich bod yn mynd i ddefnyddio cromfachau i ddangos pa swm mae angen ei wneud yn gyntaf (56 + 60 + 58 + 62 + 65 + 49 + 58) ÷ 7, mae’n gywir i ysgrifennu dau gyfrifiad ar wahân.
Rhowch gynnig ar gyfrifo’r cymedr drosoch eich hun trwy gwblhau’r gweithgaredd isod.
Gweithgaredd 12: Canfod y cymedr
- Mae’r tabl isod yn dangos pris gwerthu 10 o dai pâr 2 ystafell wely mewn tref yn Lerpwl.
1 | 2 | 3 | 4 | 5 | 6 | 7 | 8 | 9 | 10 |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
£70 000 | £65 950 | £66 500 | £71 200 | £68 000 | £62 995 | £70 500 | £68 750 | £59 950 | £67 900 |
- Beth yw’r pris tŷ cymedrig yn yr ardal?
Ateb
Yn gyntaf, canfyddwch gyfanswm prisiau’r tai:
£70 000 + £65 950 + £66 500 + £71 200 + £68 000 + £62 995 + £70 500 + £68 750 + £59 950 + £67 900 = £671 745
Nawr rhannwch y cyfanswm hwn â nifer y tai (10):
- £671 745 ÷ 10 = £67 174.50
- Mae’r tabl isod yn dangos yr unedau nwy a ddefnyddiwyd mewn cartref yn ystod 6 mis cyntaf y flwyddyn.
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill | Mai | Mehefin |
---|---|---|---|---|---|
1650 | 1875 | 1548 | 1206 | 654 | 234 |
- Cyfrifwch nifer gymedrig yr unedau nwy a ddefnyddiwyd yn fisol.
Ateb
Canfyddwch gyfanswm yr unedau a ddefnyddiwyd:
- 1650 + 1875 + 1548 + 1206 + 654 + 234 = 7167 o unedau
Nawr rhannwch y cyfanswm hwn â nifer y misoedd (6):
7167 ÷ 6 = 1194.5 o unedau
Mae’r dull hwn o ganfod y cymedr yn iawn os yw’ch set o ddata yn un cymharol fach. Beth os yw’ch set o ddata’n llawer mwy? Yn yr achos hwn, mae’n debyg na fyddai’r data wedi’u cyflwyno fel rhestr o rifau. Mae’n fwy tebygol y byddai’r data wedi’u cyflwyno mewn tabl amlder.
Yn y rhan nesaf o’r adran hon, byddwch yn dysgu sut i ganfod y cymedr pan gaiff data eu cyflwyno fel hyn.