Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6.4 Canfod y cymedr o dabl amlder

Yn aml caiff grwpiau mawr o ddata eu dangos fel tabl amlder, yn hytrach na rhestr hir. Mae hon yn ffordd llawer haws i’r defnyddiwr edrych ar set fawr o ddata. Edrychwch ar yr enghraifft isod lle ceir data ynghylch faint o weithiau mae cwsmeriaid yn defnyddio gwasanaeth garddio, dros flwyddyn.

Tabl 18
Nifer yr ymweliadau mewn blwyddyn Nifer y cwsmeriaid
1 6
2 10
3 11
4 16
5 4
6 3

Gallem ddewis ysgrifennu’r data hyn fel rhestr:

  • 1, 1, 1, 1, 1, 1, 2, 2, 2, 2, 2, 2, 2, 2, 2, 2, 3, 3, 3, 3, 3, 3, 3, 3, 3, 3, 3 ac ati

ond mae’n gliriach o lawer wedi’i nodi ar fformat tabl. Ond sut fyddech chi’n canfod cymedr y data hyn? Wel, cafodd 6 o gwsmeriaid 1 ymweliad gan y cwmni garddio, sef cyfanswm o 1 × 6 = 6 o ymweliadau. Yna cafodd 10 o gwsmeriaid 2 ymweliad, sef cyfanswm o 2 × 10 = 20 o ymweliadau. Gwnewch hyn ar gyfer pob rhes yn y tabl, fel y dangosir isod.

Tabl 19
Nifer yr ymweliadau mewn blwyddyn Nifer y cwsmeriaid Cyfanswm yr ymweliadau
1 6 1 × 6 = 6
2 10 2 × 10 = 20
3 11 3 × 11 = 33
4 16 4 × 16 = 64
5 4 5 × 4 = 20
6 3 6 × 3 = 18
HighlightedCyfanswm = 50 o gwsmeriaid HighlightedCyfanswm = 161 o ymweliadau

Yn olaf, gweithiwch allan cyfansymiau pob colofn (wedi’u hamlygu mewn lliw goleuach ar y tabl uchod).

Nawr mae gennych yr holl wybodaeth mae arnoch ei hangen i ganfod y cymedr; 161 yw cyfanswm nifer yr ymweliadau a 50 yw cyfanswm nifer y cwsmeriaid, felly rydych yn gwneud 161 ÷ 50 = 3.22 o ymweliadau y flwyddyn sef y cyfartaledd cymedrig.

Dyma rybudd! Mae llawer o bobl yn cael trafferth gyda’r rhain. Byddan nhw’n canfod cyfanswm nifer yr ymweliadau (161) ond yn hytrach na rhannu hwn â chyfanswm nifer y cwsmeriaid (50), byddant yn rhannu â nifer rhesi’r tabl (6 yn yr enghraifft hon).

Os ydych yn gwneud 161 ÷ 6 = 26.83, mae rhesymeg yn dweud wrthych chi na all y cyfartaledd cymedrig fod yn 26.83, gan mai 6 yw’r nifer fwyaf o ymweliadau a gafodd unrhyw gwsmer. Defnyddiwch eich synnwyr i wirio’ch ateb bob tro er mwyn sicrhau ei fod rhywle rhwng y gwerth isaf a’r gwerth uchaf ar y tabl. Yn yr enghraifft hon, rhaid bod unrhyw beth is nag 1 neu uwch na 6 yn anghywir!

Rhowch gynnig ar gwpl o’r rhain eich hun fel eich bod yn teimlo’n hyderus i ddefnyddio’r sgil hwn.

Gweithgaredd 13: Canfod y cymedr o dablau amlder

  1. Mae’r tabl isod yn dangos data ynghylch nifer y troeon y bu plant yn absennol o’r ysgol yn ystod tymor.

    Gweithiwch allan nifer gyfartalog gymedrig yr absenoldebau.

Tabl 20(a)
Nifer yr absenoldebau Nifer y plant
1 26
2 13
3 0
4 35
5 6

Ateb

  1. Yn gyntaf, gweithiwch allan cyfanswm nifer yr absenoldebau trwy luosi’r golofn absenoldebau â nifer y plant. Nesaf, gweithiwch allan cyfansymiau pob colofn.
Tabl 20(b)
Nifer yr absenoldebau Nifer y plant Cyfanswm nifer yr absenoldebau
1 26 1 × 26 = 26
2 13 2 × 13 = 26
3 0 3 × 0 = 0
4 35 4 × 35 = 140
5 6 5 × 6 = 30
  HighlightedCyfanswm = 80 HighlightedCyfanswm = 222
  • I ganfod y cymedr, gwnewch: 222 ÷ 80 = 2.775 yw’r cyfartaledd cymedrig.
  1. Rydych yn cynnal clwb ieuenctid i bobl ifanc rhwng 16 a 21 oed, ac eisiau gwybod beth yw oedran cyfartalog y rhai sy’n mynychu.

    Rydych yn casglu’r wybodaeth a ddangosir yn y tabl isod. Gweithiwch allan oedran cymedrig y rhai sy’n mynychu. Rhowch eich ateb wedi’i dalgrynnu i un lle degol.

Tabl 21(a)
Oed Nifer y bobl ifanc
16 3
17 8
18 5
19 12
20 6
21 1

Ateb

  1. Unwaith eto, yn gyntaf gweithiwch allan cyfansymiau pob rhes a cholofn.

Tabl 21(b)
Oedran Nifer y bobl ifanc Cyfanswm
16 3 16 × 3 = 48
17 8 17 × 8 = 136
18 5 18 × 5 = 90
19 12 19 × 12 = 228
20 6 20 × 6 = 120
21 1 21 × 1 = 21
HighlightedCyfanswm = 35 HighlightedCyfanswm = 643
  • I ganfod y cymedr, yna rydych yn gwneud:

    • 643 ÷ 35 = 18.4 oed (wedi’i dalgrynnu i un lle degol)

Os rhoddir yr holl ddata ichi mewn set a gofynnir ichi ganfod y cymedr, mae’n broses weddol syml.

Ar gyfer elfen Prawf Cadarnhau Sgiliau Hanfodol Cymru, disgwylir ichi gwblhau’r holl gyfrifiadau angenrheidiol heb ddefnyddio cyfrifiannell, felly cofiwch ddefnyddio dulliau eraill i wirio e.e. gwiriadau gwrthdro.