7 Tebygolrwydd
Byddwch yn defnyddio tebygolrwydd yn rheolaidd yn eich bywyd pob dydd:
- Ddylech chi fynd ag ambarél gyda chi heddiw?
- Pa mor debyg yw hi y bydd y bws yn brydlon?
- Pa mor debyg yw hi y byddwch yn bodloni’r terfyn amser?
Mae tebygolrwydd yn ymwneud â pha mor debyg, neu annhebyg, yw hi y bydd rhywbeth yn digwydd. Er enghraifft, pan fyddwch yn taflu darn arian, mae’r siawns y bydd yn glanio ar y pen yn neu 50% neu 0.5 (ydych chi’n cofio’ch gwaith yn Sesiwn 1 ynghylch trosi ffracsiynau, degolion a chanrannau i’w gilydd?).
Efallai ei bod hi’n haws mynegi’r tebygolrwydd y bydd digwyddiad yn digwydd fel ffracsiwn i ddechrau. Yna, os ydych eisiau ei fynegi fel canran neu ddegolyn, gallwch ei drosi.
Dewch inni edrych ar enghraifft.
Enghraifft: Tebygolrwydd siocled
Mewn bocs o siocledi mae 15 darn o siocled llaeth, 5 darn o siocled tywyll a 10 darn o siocled gwyn. Os yw’r bocs yn llawn ac rydych yn dewis darn o siocled ar hap, beth yw’r tebygolrwydd y byddwch yn dewis darn o siocled tywyll?
Dull
Mae 5 darn o siocled tywyll yn y bocs. Mae cyfanswm o 15 + 5 + 10 = 30 o ddarnau o siocled yn y bocs.
Felly’r tebygolrwydd o ddewis darn o siocled tywyll yw:
=
Gellid gofyn hefyd beth yw’r tebygolrwydd o ddewis naill ai darn o siocled tywyll neu ddarn o siocled gwyn. Ar gyfer hyn mae angen cyfanswm y darnau tywyll a’r darnau gwyn:
5 + 10 = 15
Nid yw cyfanswm nifer y darnau o siocled yn y bocs yn newid, felly’r tebygolrwydd o ddewis naill ai darn o siocled tywyll neu ddarn o siocled gwyn yw:
=
Gellid hyd yn oed gofyn beth yw’r tebygolrwydd na fydd digwyddiad yn digwydd. Er enghraifft, y tebygolrwydd na fyddwch yn dewis darn o siocled gwyn. Yn yr achos hwn, cyfanswm nifer y darnau o siocled nad ydynt yn wyn yw 15 + 5 = 20.
Unwaith eto, nid yw cyfanswm nifer y darnau o siocled yn y bocs yn newid, felly’r tebygolrwydd o beidio â dewis darn o siocled gwyn yw:
=
Nawr rhowch gynnig arni trwy gwblhau’r gweithgaredd byr isod.
Gweithgaredd 17: Cyfrifo tebygolrwydd
Rydych yn prynu pecyn o falŵns aml-liw ar gyfer parti plant. Mae gennych 26 o falŵns coch, 34 o falŵns gwyrdd, 32 o falŵns melyn a 28 o falŵns glas.
Rydych yn tynnu balŵn o’r pecyn heb edrych. Beth yw’r tebygolrwydd y byddwch yn dewis balŵn gwyrdd?
Rhowch eich ateb fel ffracsiwn yn ei ffurf symlaf.
Gwerthwyd 350 o docynnau raffl yn ffair y pentref. Mae 20 o docynnau yn ennill gwobr. Beth yw’r tebygolrwydd na fyddwch yn ennill gwobr yn y raffl?
Rhowch eich ateb fel canran wedi’i thalgrynnu i ddau le degol.
Ateb
Mae 34 o falŵns gwyrdd. Cyfanswm nifer y balŵns yw 26 + 34 + 32 + 28 = 120.
Felly’r tebygolrwydd o ddewis balŵn gwyrdd yw:
= yn ei ffurf symlaf.
Os oes 20 o docynnau sy’n ennill gwobr, mae 350 − 20 = 330 o docynnau nad ydynt yn ennill gwobr.
Fel ffracsiwn:
Er mwyn trosi i ganran, rydych yn gwneud 330 ÷ 350 × 100 = 94.29% wedi’i thalgrynnu i ddau le degol.
Er mwyn trosi i ganran, rydych yn gwneud 330 ÷ 350 × 100 = 94.29% wedi’i thalgrynnu i ddau le degol.
Weithiau bydd angen ichi gyfrifo’r tebygolrwydd y bydd mwy nag un peth yn digwydd. Yn yr achos hwn, gallai’r digwyddiadau fod:
yn annibynnol – sy’n golygu nad yw canlyniad un digwyddiad yn effeithio ar y llall
yn ddibynnol – sy’n golygu bod canlyniad un digwyddiad yn effeithio ar y llall.
Yn y naill achos neu’r llall, gallwch ddefnyddio diagramau cangen neu dablau i’ch helpu i ddatrys y problemau hyn.
Enghraifft: Tebygolrwydd rhywedd
Os yw cwpl yn cael dau o blant, ni fydd rhywedd y plentyn cyntaf yn effeithio ar rywedd yr ail blentyn. Gellir dangos yr holl bosibiliadau ar ffurf tabl:
B = bachgen
M = merch
HighlightedPlentyn cyntaf | |||
---|---|---|---|
HighlightedB | HighlightedM | ||
Highlighted Ail blentyn |
HighlightedB | BB | MB |
HighlightedM | BM | MM |
Fel arall, gellir ei ddangos fel diagram cangen:
Mae’r tabl a’r diagram cangen yn dangos bod pedwar o bosibiliadau:
BB – bachgen yna bachgen arall
BM – bachgen yna merch
MB – merch yna bachgen
MM – merch yna merch arall
O’r holl bosibiliadau, mae siawns 1 mewn 4 neu (1 chwarter/25%) o gael dau fachgen neu ddwy ferch.
Mae siawns 2 mewn 4 (/1 hanner/50%) o gael un plentyn yr un o’r ddau rywedd.
Gweithgaredd 18: Defnyddio diagramau a thablau i gyfrifo tebygolrwydd
Cwblhewch y manylion sydd ar goll yn y diagram cangen canlynol:
Lluniadwch dabl yn dangos yr holl bosibiliadau pan deflir dau ddarn arian.
Beth yw’r tebygolrwydd o daflu dwy gynffon?
Ateb
a.PP
b.CP
c.CC
Dylai’ch tabl edrych fel yr un isod.
HighlightedDarn arian 1 | |||
---|---|---|---|
HighlightedP | HighlightedC | ||
Highlighted Darn arian 2 |
HighlightedP | PP | CP |
HighlightedC | PC | CC |
O’r holl bosibiliadau, mae siawns 1 mewn 4 neu (1 chwarter/25%) o gael 2 gynffon.
Pan fyddwch yn gwirio’ch atebion, cofiwch efallai eich bod wedi defnyddio dull gwahanol i ateb y cwestiwn. Mewn arholiad, mae’n bwysig dangos eich gwaith cyfrifo, gan y byddwch yn gallu ennill marciau hyd yn oed os na fydd eich ateb yn gywir.
Erbyn hyn rydych wedi cwblhau Sesiwn 4 o’ch cwrs. Llongyfarchiadau!
Crynodeb
Yn yr adran hon, rydych wedi dysgu:
- mai tebygolrwydd digwyddiad yw pa mor debygol neu annhebygol yw hi y bydd yn digwydd, a gellir mynegi hyn fel ffracsiwn, degolyn neu ganran.
- sut i ddefnyddio tabl neu ddiagram cangen i ddangos canlyniadau gwahanol dau ddigwyddiad neu fwy.