Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Sesiwn 4: Trin data

Cyflwyniad

Mae data’n rhan fawr o’n bywydau a gellir eu cynrychioli mewn llawer o ffyrdd gwahanol. Bydd y sesiwn hwn yn mynd â chi trwy nifer o’r cynrychioliadau hyn ac yn dangos ichi sut i ddehongli data i ganfod gwybodaeth benodol. Cyn ymhél â byd siartiau, graffiau a chyfartaleddau, mae’n bwysig gwahaniaethu rhwng y ddau fath gwahanol o ddata:

  • Data ansoddol – data nad yw’n rhifol e.e. lliw llygaid, hoff chwaraeon, modelau o geir.

  • Data meintiol – data rhifol sy’n perthyn i bethau y gellir eu cyfrif neu fesur e.e. tymereddau, prisiau tai, graddau TGAU. Gall data meintiol fod yn arwahanol neu’n ddi-dor.

Erbyn diwedd y sesiwn hwn, byddwch yn gallu:

  • adnabod gwahanol fathau o ddata
  • creu a defnyddio siartiau cyfrif, tablau amlder a thaflenni casglu data i gofnodi gwybodaeth
  • lluniadu a dehongli siartiau bar, siartiau cylch a graffiau llinell
  • deall bod gwahanol fathau o gyfartaledd a gallu cyfrifo pob math
  • deall bod tebygolrwydd yn ymwneud â pha mor debyg yw hi y bydd digwyddiad yn digwydd, a’r ffyrdd gwahanol o fynegi hyn.
Download this video clip.Video player: a70_data.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).