Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Beth yw cwrs â bathodyn?

Wrth astudio Academi Arian MSE mae gennych chi’r opsiwn o weithio tuag at ennill bathodyn digidol.

Mae cyrsiau bathodyn yn rhan allweddol o genhadaeth y Brifysgol Agored i hybu llesiant addysgol y gymuned. Mae'r cyrsiau hefyd yn ffordd arall o’ch helpu chi i symud ymlaen o ddysgu anffurfiol i ddysgu ffurfiol.

Mae’n cymryd tua 12 awr o amser astudio i gwblhau'r cwrs hwn. Fodd bynnag, gallwch chi astudio’r cwrs unrhyw bryd ac ar gyflymder sy’n addas i chi.

Mae cyrsiau bathodyn ar gael ar wefan OpenLearn [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] y Brifysgol Agored, a gallwch eu hastudio am ddim. Maen nhw’n wahanol i gyrsiau’r Brifysgol Agored oherwydd nid ydych yn cael cymorth gan diwtor, ond rydych chi’n cael adborth defnyddiol gan y cwisiau rhyngweithiol.

Beth yw bathodyn?

Ffordd newydd o ddangos eich bod wedi ennill sgil ar-lein yw bathodynnau digidol. Mae colegau a phrifysgolion yn gweithio gyda chyflogwyr a sefydliadau eraill i ddatblygu bathodynnau agored sy’n helpu dysgwyr i gael cydnabyddiaeth am eu sgiliau, ac yn helpu cyflogwyr i nodi'r ymgeiswyr gorau am swyddi.

Mae bathodynnau’n dangos eich gwaith a’r hyn rydych chi wedi'i gyflawni ar y cwrs. Gallwch chi rannu’ch cyflawniad gyda ffrindiau, teulu a chyflogwyr, ac ar gyfryngau cymdeithasol. Mae bathodynnau yn gymhelliant gwych i’ch helpu chi i gyrraedd diwedd y cwrs. Mae ennill bathodyn yn aml yn rhoi hwb i’ch hyder yn y sgiliau a’r galluoedd sy’n sail i astudiaethau llwyddiannus. Felly, gallai cwblhau'r cwrs eich annog chi i feddwl am astudio cyrsiau eraill.