Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1 Beth yw eich personoliaeth ariannol?

Cyn i chi ddechrau’r cwrs hwn ar reoli arian, bydd yn ddefnyddiol iawn i chi nodi a deall eich agwedd a’ch profiad presennol o ran eich sefyllfa ariannol bersonol. Bydd yr adolygiad hwn yn eich galluogi i bwyso a mesur eich ‘personoliaeth’ ariannol. Bydd hefyd yn eich helpu i ddeall lle mae angen i chi ddatblygu eich sgiliau ariannol ac efallai newid eich ymddygiad o ran rheoli arian.

Mae’r ddelwedd yn llun o ddyn ifanc yn dal llyfr nodiadau mawr a phensil wrth feddwl yn ddwfn.
Ffigur 1 Beth yw eich personoliaeth o ran materion ariannol?

Rhowch gynnig ar y gweithgaredd hwn ac yna dewiswch ‘Datgelu’r ateb’ i gael rhywfaint o adborth ar bob un o’r cwestiynau a chyfarwyddyd o ran ymhle yn y sesiynau eraill yn y cwrs mae rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar gael.

Gweithgaredd 1 Beth yw eich personoliaeth ariannol?

Timing: Caniatewch tua 10 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

Yn y blychau gwag yn y tabl, ychwanegwch eich atebion i’r cwestiynau.

Cwestiwn Ateb
O ran arian, ydych chi’n ystyried eich hun yn rhywun sy’n cymryd risg neu’n osgoi risg? Cymryd risg neu osgoi risg?
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Ydych chi’n fwy o wariwr neu’n fwy o gynilwr? Gwariwr ynteu cynilwr?
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Ydych chi’n creu cyllideb ar eich cyfer chi a/neu eich aelwyd ar hyn o bryd? Ydw neu Nac ydw
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Ydych chi’n gwirio eich cyfrifon banc a’ch cyfrifon cardiau credyd – naill ai ar-lein neu’r cyfriflenni papur? Ydw neu Nac ydw
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
O ran cyflenwyr (ee, nwy, trydan, rhyngrwyd) ydych chi’n ystyried eich hun yn ‘newidiwr’ neu’n ‘arhoswr’? Newidiwr neu arhoswr?
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Ydych chi bob amser yn chwilio am fargen well? Ydw neu Nac ydw
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Pa mor bell ymlaen ydych chi’n cynllunio eich arian? Hyd at 1 mis, hyd at flwyddyn neu y tu hwnt i flwyddyn?
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Ydych chi’n rheoli eich arian eich hun yn unig neu a ydych chi’n rheoli eich arian ar y cyd â phobl eraill? Yn unigol, ar y cyd neu gymysgedd o’r 2?
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Ateb

Cwestiwn Ateb
O ran arian, ydych chi’n ystyried eich hun yn rhywun sy’n cymryd risg neu’n osgoi risg? Mae adborth o gyrsiau blaenorol y Brifysgol Agored yn dangos bod y rhan fwyaf o bobl yn ystyried eu hunain yn wrth-risg. Efallai fod hyn oherwydd y byddai’n well gan bobl gadw’r hyn sydd ganddynt na pheryglu colli’r cyfan wrth chwilio am enillion uwch. Gallwch weld, fodd bynnag, yn y sesiynau ar fenthyca ac ar gynilo a buddsoddi y gall cymryd rhai risgiau mewn rheoli arian fod yn synhwyrol os caiff ei ystyried yn ofalus.
Ydych chi’n fwy o wariwr neu’n fwy o gynilwr? Efallai y bydd y dewis yma’n dweud llawer am eich amgylchiadau ariannol yn hytrach na’ch dyheadau. Nid oes gan lawer o bobl a hoffai gynilo mwy yr incwm sbâr i wneud hynny. Bydd y rhai sydd â mwy o arian yn ei chael yn haws cynilo. Yn y sesiwn ar gynilion a buddsoddiadau, gallwch edrych ar yr opsiynau ar gyfer cynilo arian ar gyfer y dyfodol a pha opsiynau sy'n addas i'ch amgylchiadau.
Ydych chi’n creu cyllideb ar eich cyfer chi a/neu eich aelwyd ar hyn o bryd? Mae rhedeg cyllideb sylfaenol hyd yn oed yn gwneud synnwyr ariannol enfawr gan fod gwir angen syniad da arnoch o’ch gwariant o’i gymharu ag incwm er mwyn osgoi mynd i drafferthion ariannol. Yn Sesiwn 2 byddwch yn dysgu pa mor hawdd yw cyllidebu’n effeithiol.
Ydych chi’n gwirio eich cyfrifon banc a’ch cyfrifon cardiau credyd – naill ai ar-lein neu’r cyfriflenni papur? Os nad ydych chi, fe ddylech chi! Mae angen i chi wneud hyn i sicrhau nad oes unrhyw drafodion anghywir neu dwyllodrus, gwybod pryd rydych chi’n agos at eich terfyn credyd a pha bryd y mae angen i chi ad-dalu. Mae rheoli eich cyfrifon yn cefnogi eich cyllidebu hefyd - gan roi gwybod i chi faint o arian sydd gennych yn y banc a pha bryd y mae'n rhaid i chi dalu biliau.
O ran cyflenwyr (ee, nwy, trydan, rhyngrwyd) ydych chi’n ystyried eich hun yn ‘newidiwr’ neu’n ‘arhoswr’? Y rheol gyffredinol yw bod y ‘newidwyr’ yn llawer mwy tebygol o gael y bargeinion gorau na’r rhai sy’n ‘aros’. Os ydych chi wedi aros gyda’r un cyflenwr ers blynyddoedd, mae’n bosib iawn eich bod chi’n talu gormod am y gwasanaeth maen nhw’n ei ddarparu. Byddwch yn edrych ar fanteision newid ar wahanol adegau yn y cwrs hwn.
Ydych chi bob amser yn chwilio am fargen well? Mae sganio’r marchnadoedd a newid i fargeinion rhatach fel arfer yn newyddion da i’ch sefyllfa ariannol. Cewch wybod sut i chwilio am y bargeinion gorau ar y cwrs hwn.
Pa mor bell ymlaen ydych chi’n cynllunio eich arian? Dylech bob amser gynllunio ymlaen cyn belled ag y bo modd – hyd yn oed os yw hyn yn cynnwys rhai amcangyfrifon am wariant ac incwm. Dylech gynllunio ymlaen am hyd at flwyddyn os gallwch chi. Gall gweithio o fis i fis arwain at sefyllfa lle rydych chi bob amser yn poeni am arian. Yn sicr, gall rheolaeth o fis i fis annog penderfyniadau aneffeithlon – er enghraifft drwy ddewis yr opsiwn taliadau misol ar gyfer gwasanaethau a brynir unwaith y flwyddyn (ee, yswiriant car).
Ydych chi’n rheoli eich arian eich hun yn unig neu a ydych chi’n rheoli eich arian ar y cyd â phobl eraill? Bydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Os ydych chi’n byw ar eich pen eich hun, yna rydych chi’n debygol iawn o fod yn rheolwr arian ‘unigol’. Os ydych chi mewn perthynas neu’n cyd-fyw, yna gellir rheoli o leiaf rhai materion ariannol ar y cyd hyd yn oed os ydych chi’n cadw cyfrifon banc ar wahân. Gall byw mewn llety a rennir olygu bod rhywfaint o arian yn cael ei gronni gydag eraill. Ond beth bynnag yw’r trefniadau, os ydych chi’n byw gyda rhywun arall, mae’n well cydlynu cyllid i ryw raddau er mwyn i bawb allu talu eu ffordd tuag at rannu biliau.