Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

10 Cymhwyso Camau 3 a 4 y model gwneud penderfyniadau i yswiriant

Nawr, parhewch â’r broses o gymhwyso’r model pedwar cam i yswiriant gyda Chamau 3 a 4.

Mae’r ffigur yn dangos y model pedwar cam ar gyfer gwneud penderfyniadau. Mae’r pedwar cam – ‘Asesu’, ‘Penderfynu’, ‘Gweithredu’ ac ‘Adolygu’ – yn cael eu dangos gyda saethau’n nodi (ar ffurf cylch) y drefn y cymerir y camau wrth wneud penderfyniadau.
Ffigur 7 Y model pedwar cam ar gyfer gwneud penderfyniadau

Mae Cam 3 yn ymwneud â gweithredu i roi’r cynllun yswiriant ar waith. Mae hyn yn golygu edrych ar fanylion polisïau a chymharu dyfynbrisiau i sicrhau eich bod yn cael y fargen orau.

Gan fod marchnad yswiriant y DU mor ddatblygedig, mae trefnu’r rhan fwyaf o fathau o yswiriant yn gymharol hawdd. Gellir prynu polisïau yswiriant naill ai:

  • yn uniongyrchol gan gwmni yswiriant
  • ar-lein, drwy wefannau cymharu prisiau
  • drwy drydydd parti, fel siopau ffonau symudol sy’n gwerthu yswiriant symudol, neu adwerthwyr trydanol sy’n gwerthu pecynnau ‘gwasanaethu ac atgyweirio’ ar eu nwyddau. Enghraifft arall yw cwmnïau awyrennau neu asiantau teithio sy’n gwerthu yswiriant gwyliau pan fyddwch yn archebu gyda nhw, neu
  • drwy gyfryngwr (a elwir fel arfer yn 'brocer') sy'n gallu defnyddio eu gwybodaeth am y farchnad yswiriant i ddewis y polisi gorau i chi o blith y rhai a gynigir gan y cwmnïau y mae'n gweithio gyda nhw. Yn gyffredinol, po fwyaf cymhleth yw'r yswiriant, y mwyaf y gall cyfryngwr eich helpu i asesu eich sefyllfa a'ch anghenion, argymell ac esbonio polisïau, a helpu os bydd hawliad yn cael ei wneud.

Pa bynnag lwybr a gymerwch i brynu eich polisi, treuliwch amser yn edrych yn ofalus ar delerau’r contract gyda’r yswiriwr a ddewiswyd gennych. Nid yw polisïau yswiriant yn union yr un fath â’i gilydd. Mae angen ichi sicrhau bod y polisi’n addas i chi.

Cam 4 yw sicrhau eich bod yn adolygu eich penderfyniadau’n rheolaidd. Pan fyddwch yn adolygu, gwnewch yn siŵr bod angen yr yswiriant arnoch o hyd – er enghraifft, os nad ydych yn debygol o fynd ar wyliau yn y flwyddyn nesaf, does dim pwynt talu am yswiriant teithio.

Dylech bob amser adolygu eich anghenion yswiriant pan fydd yn amser i bolisïau gael eu hadnewyddu a phan fydd amgylchiadau personol yn newid (er enghraifft, os byddwch wedi cael eich plentyn cyntaf, neu pan fydd eich plant i gyd wedi tyfu i fyny ac yn ariannol annibynnol).

Un o’r pethau gwaethaf y gallwch ei wneud mewn yswiriant yw adnewyddu gyda’r un darparwr yswiriant flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn hytrach na chymharu pob tro y bydd yn adeg adnewyddu i weld a allwch chi gael bargen ratach gyda darparwr arall.

Fel gydag unrhyw gynllun ariannol, mae angen i chi edrych o bryd i’w gilydd i weld sut mae pethau wedi gweithio yng ngoleuni profiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi gael gwared ar ‘yswirio dwbl’ – i wneud yn siŵr nad yw’r un risg wedi’i hyswirio ddwywaith (er enghraifft, os oes gennych chi ddarpariaeth ar gyfer costau cyfreithiol ar bolisi yswiriant eich car ac ar yswiriant eich cartref), a fyddai’n wariant diangen.

Gweithgaredd 10 Defnyddio’r model pedwar cam gyda chynnyrch yswiriant

Timing: Caniatewch tua 5 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

Ar ôl edrych ar sut y gellir defnyddio’r model pedwar cam i brynu yswiriant – ac ystyried sut yr ydych wedi gwneud pethau yn y gorffennol – a oes unrhyw newidiadau y byddwch yn eu gwneud yn awr i’r ffordd yr ydych yn prynu yswiriant?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Answer

Mae’n amlwg bod eich ymateb yn un personol. I lawer o bobl, y brif wers a ddysgwyd yw gwneud yr ymchwil angenrheidiol ar y cam ‘asesu’.

Ond mae llawer o bobl yn asesu’r opsiynau sydd ar gael ond wedyn yn methu penderfynu beth i’w wneud – efallai oherwydd y cymhlethdodau tybiedig o ddewis rhwng cynnyrch gwahanol.

Un methiant amlwg i lawer yw caniatáu i i inertia ennill a derbyn dyfynbris adnewyddu’r yswiriwr presennol – sy’n gallu bod yn opsiwn costus. Weithiau bydd pobl yn dod o hyd i well dyfynbris ond yn methu â ‘gweithredu’ arno. Gwnewch bob ymdrech i osgoi’r peryglon hyn.