Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

11 Ffonau symudol ac yswiriant

Mae yna farchnad enfawr ar gyfer contractau ffôn, a gyda’r rhain daw’r cwestiwn a oes angen yswiriant ffôn arnoch chi.

Felly, drwy ddefnyddio’r dull pedwar cam, gallwch yn awr ystyried a yw’n gwneud synnwyr yswirio’ch ffôn.

Mae’r ffigur yn llun sy’n dangos tri pherson ifanc yn defnyddio eu ffonau symudol.
Ffigur 8 Sut gwnaethon ni ymdopi heb ffonau symudol?

Nid yw prynu yswiriant ar gyfer ffôn yn rhad. Mae’r gost fel arfer yn amrywio o £5 i £15 y mis.

Felly, wrth asesu a oes angen i chi yswirio eich ffôn, meddyliwch am y cwestiynau hyn:

  • Ar gyfer beth yn union ydych chi’n cael yswiriant?
  • A yw’r yswiriant a gewch yn cyfiawnhau’r gost?

Bydd yr yswiriant yn cynnwys eich ffôn yn cael ei golli, ei ddwyn neu fod eich ffôn yn torri. Gallai hefyd gynnwys yswiriant ar gyfer galwadau heb awdurdod, damweiniau ac ategolion ffôn fel clustffonau/ffôn clust cysylltiedig os cânt eu dwyn ynghyd â’r ffôn.

Ond bydd polisïau’n eithrio nifer o sefyllfaoedd lle na fyddwch yn cael eich gwarchod. Gelwir y rhain yn ‘eithriadau i’r yswiriant’. Gallent gynnwys difrod o ganlyniad i ddiofalwch, dwyn y ffôn pan gafodd ei adael heb neb i ofalu amdano neu ddifrod gan ddŵr. Mae'n bosib hefyd y bydd eithriadau'n berthnasol os bydd oedi cyn rhoi gwybod bod eich ffôn ar goll neu wedi'i ddwyn.

Felly, cyn i chi ‘benderfynu’ a ‘gweithredu’ ar y cwestiwn hwn ynghylch a ddylid yswirio ai peidio, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio beth sydd yn cael gwarchodaeth a beth sydd ddim.

Un peth i’w nodi yw nad yw cost yswiriant ffonau symudol, yn wahanol i’r rhan fwyaf o fathau eraill o yswiriant, yn seiliedig ar risg. Nid yw’r gost yn adlewyrchu eich nodweddion na’ch cofnod o hawliadau. Mae hyn yn rhywbeth arall i’w gofio wrth benderfynu a oes angen i chi yswirio eich ffôn.

Gweithgaredd 11 A ddylech chi brynu yswiriant ffôn?

Timing: Caniatewch tua 5 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

Beth ddylech chi feddwl amdano wrth benderfynu a ydych chi am brynu yswiriant?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Answer

Yn gyntaf, holwch i weld a oes gennych chi warchodaeth eisoes drwy bolisi yswiriant cynnwys cartref ar gyfer y cartref teuluol. Os oes gennych chi gyfrif banc, holwch yno hefyd. Mae rhai banciau a chymdeithasau adeiladu yn cynnig yswiriant ffôn i'w cwsmeriaid sydd â chyfrif banc y telir amdano.

Nesaf, os nad yw’r un o’r atebion hyn yn cynnwys eich ffôn, ewch drwy’r datganiadau hyn i weld a oes rhai yn berthnasol i chi:

  • Mae gennych hanes o golli neu dorri ffonau.
  • Rydych chi’n ddibynnol iawn ar y ffôn – a byddai angen i chi allu ei newid yn gyflym (yn yr achos hwn gwnewch yn siŵr bod y contract yswiriant yn cynnig gwasanaeth newydd yn gyflym).
  • Mae gennych chi ffôn clyfar drud iawn.
  • Allech chi ddim fforddio prynu ffôn newydd eich hun.

Ydych chi’n nes at benderfynu a ydych am gael yswiriant ai peidio? Po fwyaf o ddatganiadau sy’n berthnasol i chi, y mwyaf y byddai gwarchodaeth yswiriant yn gwneud synnwyr ar eich cyfer chi.

Gan nad yw cost yswiriant ffôn yn seiliedig ar risg, mae angen i chi ystyried eich record eich hun yn ofalus o ran anffawd i’ch ffôn. Os ydych chi’n colli’ch ffôn yn rheolaidd neu’n dueddol o achosi difrod iddo, mae prynu yswiriant yn debygol o wneud synnwyr ariannol da. Ar y llaw arall, os na fyddwch byth yn colli nac yn difrodi eich ffôn, mae yswiriant yn debygol o fod yn wastraff arian.