12 Siopa ar-lein
Mae siopa ar-lein yn gadael i chi brynu’r pethau rydych chi eu hangen (neu eu heisiau) gan gwmnïau ledled y byd.
Mae siopa fel hyn yn eich galluogi i gymharu bargeinion (fel yswiriant) yn haws, gan gynyddu'r siawns y byddwch yn gallu dod o hyd i gynnig addas sy'n unol â’ch anghenion am bris y gallwch ei fforddio.
Fodd bynnag, gall hwylustod siopa ar-lein arwain at bobl yn gwario mwy nag y gallant ei fforddio. Gall defnyddwyr siopa ddydd a nos heb orfod gadael cysur eu cartref eu hunain ac efallai y byddant yn fwy tebygol o brynu’n fyrbwyll. Tynnwyd sylw at agwedd ar y risg hon mewn ymchwil a gyhoeddwyd yn 2016 a oedd yn dangos bod rhai pobl sydd ag iechyd meddwl dan fygythiad yn gallu ei chael hi’n anodd rheoli eu gwariant pan fyddant yn ddifrifol wael (MMHPI, 2016). Felly i rai pobl, yn ystod cyfnod bregus, mae argaeledd siopa ar-lein yn cynyddu’r risg o fynd i drafferthion ariannol.
Mae’r trawsnewid a ddaw i’n harferion siopa yn sgil y rhyngrwyd yn cael ei ddangos gan berfformiad ariannol y prif adwerthwyr. Mae’r rheini sydd â siopau gwe mawr ac effeithiol iawn yn tueddu i sicrhau canlyniadau ariannol gwell ar adeg pan fo siopa confensiynol ar y stryd fawr dan gwmwl cynyddol.
Ond byddwch yn ofalus, gan fod rhai risgiau wrth i chi fasnachu ar-lein. Mae siopa ar-lein yn gallu ein gwneud yn agored i’r perygl y cawn ein twyllo gan wefannau twyllodrus sy’n cymryd arnynt bod yn adwerthwyr ar-lein go iawn. Rhowch gynnig ar y gweithgaredd hwn.
Gweithgaredd 12 Canfod gwefan amheus
A oes unrhyw beth yn gwneud i chi i fod yn amheus o’r wefan hon?
Pa nodweddion fyddai’n gwneud i chi amau’r adwerthwr ar-lein hwn?
Answer
Wel, beth wnaeth godi eich amheuon? Efallai eich bod wedi sylwi ar rai o’r canlynol, neu bob un ohonynt.
- Mae'r wefan hon yn gofyn am fanylion, fel cyfrinair, y dylid eu casglu dros safle diogel yn unig. Ond mae cyfeiriad y wefan (URL) yn dechrau gyda ‘http://’. Bydd cyfeiriad gwefan diogel yn dechrau gyda ‘https://’.
- Arwydd arall o wefan ddiogel yw symbol clo. Dylai ymddangos ychydig cyn cyfeiriad y wefan neu weithiau yn y bar ar waelod sgrin eich cyfrifiadur. Os yw’n ymddangos, fel yma, yng nghorff y wefan yn unig, mae hyn yn arwydd y gallai fod yn ffug.
- Enw a logo sy’n debyg iawn i wefan go iawn. Fe’i lluniwyd i’ch twyllo i feddwl eich bod ar y wefan go iawn neu ar wefan cwmni cysylltiedig.
- Cymhellion i gofrestru ar unwaith, fel nad oes gennych chi amser i feddwl yn ofalus am yr hyn y gofynnir i chi ei wneud.
- Hysbysebion go iawn gan sefydliadau go iawn sydd â’r nod o dawelu eich meddwl bod y wefan yn un ddibynadwy.
- Casglu manylion banc neu gerdyn dros wefan anniogel ac heb fod yn gysylltiedig ag unrhyw bryniant. Dyma holl bwrpas y twyllwyr: dwyn manylion eich cerdyn ac yna mynd i siopa ar eich traul chi.
- Nid yw ffonau clyfar yn cael eu gwerthu am £30. Os yw cynnig yn swnio’n rhy dda i fod yn wir, yna dyna ydyw, fel arfer.
Efallai y byddwch hefyd yn sylwi nad oes manylion cyswllt ar y wefan, felly does dim ffordd o gael gwybod mwy neu gwyno os aiff pethau o chwith.