13 Bod yn siopwr doethach ar-lein
Dyma rai awgrymiadau defnyddiol i ddefnyddwyr sy’n prynu ar-lein, er bod llawer o awgrymiadau ar brynu ar-lein yr un fath ag ar gyfer prynu o siop.
- Gwnewch yn siŵr nad dim ond ymweld ag un wefan fyddwch chi cyn prynu. Efallai fod cynnig gwych ar gael yn rhywle arall – ac yn rhatach.
- Defnyddiwch adwerthwyr a gwasanaethau rydych chi’n gwybod amdanyn nhw – neu rai sydd wedi cael eu hargymell i chi gan ffynhonnell yr ydych yn ymddiried ynddi fel MoneySavingExpert. Os yw'n wefan nad ydych wedi'i ddefnyddio o'r blaen, edrychwch ar adolygiadau ar-lein ar safleoedd fel Trustpilot a Feefo. Ydy cwsmeriaid eraill wedi rhoi gwybod am brofiadau da wrth ddefnyddio’r safle?
- Efallai fod gan gwmni wefan wych, ond dydy hynny ddim yn golygu ei fod yn parchu’r gyfraith.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod cyfeiriad llawn y masnachwr – yn enwedig os yw’r cwmni wedi’i leoli y tu allan i’r DU. Mae prynu o dramor yn hawdd ar y rhyngrwyd felly mae'n bwysig eich bod yn gwybod eich hawliau.
- Peidiwch â thybio bod cwmni ar y rhyngrwyd wedi’i leoli yn y DU ddim ond am fod gan ei gyfeiriad gwe ‘DU’ ynddi – edrychwch ar y cyfeiriad ffisegol a’r rhif ffôn.
- Ystyriwch y costau cludo, postio a phacio. Dylech eu pwyso a'u mesur yn erbyn y costau parcio a theithio y byddai'n rhaid i chi eu talu petaech yn mynd i'r stryd fawr.
- Er bod siopa o wefannau tramor yn gymharol ddiogel, gall fod yn anodd gorfodi eich contract os aiff pethau o chwith. Ystyriwch dalu gyda cherdyn credyd, yn enwedig os yw'r eitem rydych chi'n ei phrynu yn costio mwy na £100, gan eich bod wedyn yn cael gwarchodaeth Adran 75, sy'n golygu y gallwch hawlio gan y cwmni cardiau credyd os bydd unrhyw beth yn mynd o'i le. Prynu am lai na £100? Byddwch yn dal i gael gwarchodaeth ad-daliad.
- Os ydych yn ystyried prynu o wefan dramor, edrychwch ar y costau y byddech yn eu hwynebu os oes rheswm dros ddychwelyd y nwyddau. Gall y costau hyn fod yn uchel iawn.
- Chwiliwch am wefannau sydd â ffordd ddiogel o dalu (a elwir yn gyfleuster amgryptio) – mae’r rhain yn dangos clo clap, fel y nodir yn y gweithgaredd blaenorol, cyn y cyfeiriad gwe neu ar waelod y sgrin pan fyddwch yn llenwi manylion y taliad. Hefyd, gwnewch yn siŵr bod cyfeiriad y wefan yn dechrau gyda ‘https’ yn hytrach na dim ond ‘http’.
- Gwiriwch a oes gan y cwmni ddatganiad preifatrwydd sy'n dweud wrthych beth fydd yn ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn ofynnol dan y GDPR.
- Os ydych yn prynu o safle arwerthu, edrychwch ar enw da'r gwerthwr. Byddwch yn ofalus, bydd rhai masnachwyr yn creu cyfrifon ffug ac yn postio sylwadau da amdanynt eu hunain. Edrychwch i weld faint o drafodion mae’r person sy’n rhoi adborth wedi’u gwneud ar-lein; bydd rhif wrth ymyl ei enw yn dangos hyn.
- Byddwch yn ofalus: os yw’r pris yn rhy dda i fod yn wir, fel arfer dyna ydyw.
(Addaswyd o Callaghan et al., 2012, tt. 109–10)