3.2 Dewis symlrwydd yn hytrach na gwerth gorau
Ydych chi’n edrych yn fanwl ar y manylion wrth gymharu cost cynnyrch amgen? Rhowch gynnig ar y gweithgaredd hwn.
Gweithgaredd 3 Dewis y benthyciad cost isel
Rydych yn prynu hwfer sy’n costio £100. Ond mae angen i chi fenthyg yr arian i’w brynu. Cynigir cyfres o ddewisiadau i chi fenthyg yr arian. Pa fenthyciad fyddech chi’n ei ddewis?
- Benthyciad 1: talu £120 yn ôl ar ddiwedd y flwyddyn.
- Benthyciad 2: talu £115 yn ôl ar ddiwedd y flwyddyn.
- Benthyciad 3: talu ffi trefnu o £10 ac yna ad-daliadau misol cyfartal; y gyfradd llog yw 5% y flwyddyn.
- Benthyciad 4: talu ffi trefnu o £5 ac yna ad-daliadau misol cyfartal; y gyfradd llog yw 8% y flwyddyn.
- Benthyciad 5: talu rhandaliadau misol cyfartal ar gyfradd llog o 7% y flwyddyn, ynghyd â thâl terfynol o £3.
Answer
Pa fenthyciad wnaethoch chi ei ddewis? Efallai y cewch eich synnu o ddarganfod mai Benthyciadau 4 a 5 yw’r benthyciadau rhataf. Y broblem yw nad yw pobl yn hoffi cymhlethdod ac felly’n aml yn dewis cynnyrch â phrisiau uwch lle mae’r prisio’n symlach. Er mwyn cymharu, dyma gyfanswm costau pob opsiwn benthyca:
- Mae Benthyciad 2 yn costio £115
- Mae Benthyciad 3 yn costio £112.70
- Mae Benthyciad 4 yn costio £109.40
- Mae Benthyciad 5 yn costio £106.80
- Mae Benthyciad 1 yn costio £120
Wrth i’r opsiynau ddod yn fwy cymhleth, mae dibynadwyedd ein penderfyniadau’n dirywio’n gyflym ac rydym yn fwy tebygol o fynd am yr opsiynau symlaf.
Hefyd, dydyn ni ddim yn cael llawer o ymarfer yn gwneud hyn. Dydy ein penderfyniadau ariannol mawr – fel prynu cartref neu gar – ddim yn digwydd yn aml iawn. Felly, does dim llawer o gyfle i ymarfer, ac o ganlyniad mae llawer o gyfle i anghofio’r hyn rydym wedi’i ddysgu y tro diwethaf i ni wneud penderfyniad ariannol mawr.
Nodyn technegol
I egluro sut y ceir yr atebion i Fenthyciadau 3, 4 a 5, dangosir cyfrifiad manwl ar gyfer Benthyciad 3 isod.
Gallwch ddefnyddio’r un fethodoleg i gael yr atebion ar gyfer Benthyciadau 4 a 5.
Ym mhob achos, ad-delir y benthyciad o £100 mewn 12 rhandaliad cyfartal, gyda’r rhain yn cael eu gwneud ar ddiwedd pob un o ddeuddeg mis y flwyddyn.
Sylwch fod y broses yn cynnwys peth ‘talgrynnu’, felly efallai y bydd eich atebion yn wahanol o ychydig geiniogau i’r rhai uchod.
Mis | Benthyciad o/s | Llog misol am 5% y flwyddyn |
---|---|---|
1 | £100.00 | £0.42 |
2 | £91.67 | £0.35 |
3 | £83.34 | £0.35 |
4 | £75.01 | £0.31 |
5 | £66.68 | £0.28 |
6 | £58.35 | £0.24 |
7 | £50.02 | £0.21 |
8 | £41.69 | £0.18 |
9 | £33.36 | £0.14 |
10 | £25.03 | £0.11 |
11 | £16.70 | £0.07 |
12 | £8.37 | £0.04 |
Cyfanswm Llog | £2.70 | |
Ffi ymlaen llaw | £10.00 | |
Cyfanswm yr ad-daliadau (gan gynnwys y benthyciad gwreiddiol o £100) | £112.70 |