3.4 Gall gohirio’r penderfyniad fod yn benderfyniad (gwael)
Yn olaf, gwendid cyffredin wrth wneud penderfyniadau yw inertia – sy’n golygu ei bod bob amser yn haws peidio â gwneud penderfyniad yn hytrach na gwneud un a chanfod eich bod wedi dewis yn anghywir. Rhowch gynnig ar y gweithgaredd hwn.
Gweithgaredd 5 Etifeddu arian
Dychmygwch eich bod yn etifeddu £20,000. Daw’r etifeddiaeth i chi ar ffurf £5,000 mewn arian parod a £15,000 mewn cyfranddaliadau. A fyddech chi’n:
- Defnyddio’r arian parod i brynu mwy o gyfranddaliadau?
- Gwneud dim newidiadau?
- Gwerthu rhai cyfranddaliadau i gynyddu’r swm o arian?
Answer
Wnaethoch chi ddewis ‘dim newidiadau’? Os gwnaethoch chi, nid yw’n anarferol. Y rheswm am hynny yw bod gan bob un ohonom duedd tuag at inertia. Mae hynny’n golygu ein bod yn tueddu i deimlo’n anghyfforddus am wneud newidiadau ac yn aml yn glynu wrth drefniadau presennol hyd yn oed pan nad dyna’r opsiwn gorau o bosibl.
Er mwyn helpu pobl i ddelio â’r broblem o inertia o ran penderfyniadau ariannol, mae gwneuthurwyr polisi wedi datblygu diddordeb mawr yn y syniad o roi ‘pwniad’ i ni. Dyma ffordd o strwythuro dewisiadau ariannol sy’n golygu, er bod pobl yn dal yn rhydd i ddewis, eu bod yn cael eu llywio i gyfeiriad sy’n debygol o fod y gorau iddyn nhw. Enghraifft ddiweddar yw cyflwyno cynlluniau pensiwn yn y gweithle. Yma, mae gweithwyr yn cael eu cofrestru’n awtomatig ar y cynlluniau pensiwn oni bai eu bod yn cymryd camau i ‘optio allan’ Felly, yn yr achos hwn mae inertia – peidio â gweithredu – yn golygu bod gweithwyr yn dod yn aelodau o gynllun pensiwn ac yn dechrau cronni eu cynilion eu hunain ar gyfer eu hymddeoliad.
Os gwnaethoch chi ddewis ‘dim newidiadau’, efallai eich bod hefyd wedi bod yn dangos eich archwaeth o ran risg hefyd, ac mae’n well gennych gadw’r portffolio fel y mae yn hytrach na chymryd mwy o risg drwy fuddsoddi mwy mewn cyfranddaliadau.
Fel rydych chi wedi’i ddysgu yn yr adran hon, mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol o rai rhagfarnau a cheisio eu goresgyn pan fyddwn ni’n ceisio gwneud y penderfyniad ariannol gorau. Ond nid mater o fod yn rhesymegol yn unig yw hyn – mae gan bob un ohonom bwysau emosiynol a allai ddylanwadu arnom i wario, neu ddewis un cynnyrch penodol dros un arall. Yn yr adran nesaf, byddwch yn edrych yn fanylach ar y pwysau emosiynol hyn.