4 Gall eich personoliaeth effeithio’n ddifrifol ar eich gwariant
Ydych chi erioed wedi meddwl am faint mae eich personoliaeth a’ch agwedd tuag at gymryd risg yn effeithio ar eich gwariant a phenderfyniadau ariannol eraill?
Nawr byddwch yn darllen wrth i Mark Fenton-O’Creevy, Athro Seicoleg Sefydliadol yn Ysgol Fusnes y Brifysgol Agored ac arbenigwr ym maes cyllid ymddygiad, gyflwyno’r ffordd y mae rhagfarnau ymddygiadol yn effeithio ar benderfyniadau ariannol personol.
Rhybudd cyn i chi ddarllen: mae’r cynnwys yn cynnwys manylion rhywun sy’n cael anaf difrifol i’w ben.
Trawsgrifiad Fideo 2 Mark Fenton-O’Creevy [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]
Mae’r ddogfen Gymraeg hon wedi cael ei chreu gan ddefnyddio trawsgrifiad o’r cwrs Saesneg: Academi Arian. Gallwch wylio fideo gwreiddiol Mark Fenton-O’Creevy, yn Saesneg,
yma.
Gweithgaredd 6 Prynu byrbwyll
Fel y clywsoch gan Mark Fenton-O’Creevy, mae rhesymau da pam ein bod weithiau’n gwneud penderfyniadau gwael ynghylch gwario arian, hyd yn oed os ydym yn eithaf craff am y rhan fwyaf o bethau eraill mewn bywyd.
Ydych chi’n ystyried eich hun yn siopwr byrbwyll?
Yn eich barn chi, beth yw’r ffactorau sy’n sbarduno’r ymddygiad hwn? Os nad ydych chi’n siopa’n fyrbwyll, meddyliwch am y darlleniad gan Mark Fenton-O’Creevy a’r hyn y gallech fod wedi’i ddysgu am y rhesymau dros siopa’n fyrbwyll ynddo.
Answer
Mae’r rhan fwyaf ohonom wedi prynu’n fyrbwyll ar ryw adeg yn ein bywydau.
Efallai y bydd y rheini ohonom sy’n gwario arian yn fyrbwyll fel mater o drefn yn gwneud hyn i geisio rheoli eu hemosiynau. Efallai fod y grymoedd sy’n ein gyrru yn dod o’r meddwl yn hytrach na dim ond bod yn ganlyniad i bobl yn ildio i rymoedd (allanol) marchnata gan adwerthwyr.