Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Sesiwn 1: Gwneud penderfyniadau gwario da

Cyflwyniad

Download this video clip.Video player: Fideo 1 Cyflwyniad i Sesiwn 1
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Fideo 1 Cyflwyniad i Sesiwn 1
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Gwrandewch ar neges Martin Lewis yn Gymraeg isod.

Download this audio clip.Audio player: Clip Sain 1 Cyflwyniad i Sesiwn 1
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Clip Sain 1 Cyflwyniad i Sesiwn 1
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Croeso i sesiwn gyntaf Academi Arian MoneySavingExpert.

Yn y sesiwn hon canolbwyntir ar wariant.

Mae gwario arian yn rhywbeth rydyn ni’n ei wneud bron bob dydd, boed hynny’n brynu brechdan amser cinio, taith i brynu dillad i chi eich hun neu i’r teulu, neu siopa ar-lein. Mae llawer ohonom yn mwynhau hyn, boed y profiad siopa ei hun, neu’r edrych ymlaen at defnyddio’r eitem yr ydym yn ei phrynu.

Fodd bynnag, rydyn ni’n wynebu amrywiaeth o ddylanwadau o ran sut yr ydyn ni’n gwario ein harian.

Daw rhai o’r dylanwadau hyn yn uniongyrchol o’n personoliaethau a’n harferion. Mae rhai’n cael eu gyrru gan gymdeithas – er enghraifft, gwario arian i greu argraff ar bobl eraill, neu fel arwydd o ffordd o fyw benodol. Neu, efallai y bydd dylanwad uniongyrchol arnom, boed hynny’n ymwybodol ai peidio, gan yr adwerthwr wrth farchnata cynnyrch penodol i ni.

Byddwch yn dechrau’r sesiwn hon drwy edrych ar y dylanwadau hyn. Yna, byddwch yn edrych ar sut y gall model gwneud penderfyniadau syml eich helpu i sicrhau eich bod yn gwneud penderfyniadau rhesymegol wrth ddewis prynu rhywbeth, yn hytrach na chael eich dylanwadu gan y pwysau mewnol ac allanol hyn.

Byddwch wedyn yn cael eich arwain drwy sut i gymhwyso’r model hwn i un categori o wariant y mae bron pob aelwyd yn ymwneud ag ef – prynu cynnyrch yswiriant. Mae’r amrywiaeth o wahanol fathau o yswiriant, y llu o ddarparwyr yswiriant a’r cymhlethdodau o ran y cynnyrch yn gwneud hwn yn faes delfrydol ar gyfer y cymorth y gall y model pedwar cam ei ddarparu.

Nesaf, byddwch yn edrych ar siopa ar-lein ac ar sut i wneud penderfyniadau da ar-lein. Hefyd, cewch wybod sut mae adnabod y cliwiau i’r sgamiau sydd ar y rhyngrwyd a’r camau y gallwch chi eu cymryd i leihau’r siawns o gael eich sgamio ar-lein.

I’ch helpu i ddilyn y cwrs, byddwch yn dechrau drwy archwilio eich personoliaeth ariannol. Beth yw eich nodweddion ariannol? A oes unrhyw rai o’r rhain yn arferion drwg? Bydd deall sut rydych chi’n delio â rheoli arian ar hyn o bryd yn helpu nid yn unig gyda’r sesiwn hon ond gyda’r cwrs cyfan.

Mae'r argyfwng costau byw presennol sy'n codi o ganlyniad i'r cynnydd sydyn mewn prisiau ynni a hefyd gost gynyddol hanfodion eraill wedi ei gwneud hi’n bwysicach fyth eich bod yn deall beth sy'n dylanwadu ar eich gwariant a sut i reoli'ch penderfyniadau ariannol.

Ar ôl astudio'r sesiwn hon, dylech allu gwneud y canlynol:

  • deall peth o’r pwysau ymddygiadol, cymdeithasol a marchnata sy’n effeithio ar wariant
  • defnyddio dull gweithredu pedwar cam i wneud penderfyniadau gwario effeithiol
  • deall y ffactorau sy’n effeithio ar gost cynnyrch yswiriant
  • defnyddio'r model pedwar cam wrth ddewis cynnyrch yswiriant
  • adnabod sgamiau wrth siopa ar-lein
  • bod yn siopwr craff ar y rhyngrwyd.

Cyn i chi ddechrau, byddai’r Brifysgol Agored yn gwerthfawrogi ychydig funudau o’ch amser i ddweud wrthym amdanoch chi eich hun a’ch disgwyliadau ar gyfer y cwrs yn ein harolwg dewisol arolwg dechrau’r cwrs [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Bydd cymryd rhan yn gwbl gyfrinachol ac ni fyddwn yn trosglwyddo eich manylion i eraill.

Mae’r Sesiwn hon yn un o gyfres sy’n creu cwrs Academi Arian MSE a bu’n bosibl ei wireddu drwy gyfraniadau ariannol a chynnwys gan MoneySavingExpert.com.