Glossary
- Actiwarïaid
- Gweithwyr proffesiynol sy’n arbenigo mewn dadansoddi yswiriant.
- Defnydd amlwg
- Defnydd rhodresgar o nwyddau neu arddangos cyfoeth sydd â’r bwriad o greu atyniad ac ennill bri gan eraill.
- Defnydd anamlwg
- Defnydd sy’n gysylltiedig â ffordd o fyw sydd wedi’i fwriadu i adlewyrchu statws diwylliannol unigolyn.
- Dosbarthiadau cymdeithasol
- Trefn anffurfiol o bobl mewn cymdeithas ar sail incwm, addysg, galwedigaeth a ffactorau eraill.
- GDPR
- Rheoliad Cyffredinol yr Undeb Ewropeaidd ar Ddiogelu Data. Rheoliad gan yr Undeb Ewropeaidd sy’n ymdrin â diogelu data ar gyfer y cyhoedd.
- GIG
- Gwasanaeth Iechyd Gwladol y DU.
- Gwarchodaeth ad-daliad
- Gwrthdroi trafodiad i ad-dalu defnyddiwr am brynu nwyddau neu wasanaethau yn dwyllodrus neu y mae anghydfod yn eu cylch.
- Hewristigau
- Llwybrau byr meddyliol i helpu i wneud penderfyniadau a datrys problemau.
- Yswiriant bywyd
- Yswiriant sy’n darparu taliad ar farwolaeth yr unigolyn sydd wedi’i yswirio. Mae yswiriant cyfnod gwastad (neu, yn syml, yswiriant cyfnod) yn darparu yswiriant ar gyfer cyfnod penodol – dyweder, 10 mlynedd. Mae yswiriant oes gyfan, i’r gwrthwyneb, yn darparu yswiriant ar gyfer gweddill oes yr unigolyn sydd wedi’i yswirio.