10 Crynodeb o Sesiwn 3
Yn y sesiwn hon, rydych wedi astudio’r gwahanol ffyrdd y gellir benthyca arian a’r gwahanol sefydliadau yn y DU sy’n weithredol yn y busnes rhoi benthyciadau.
Yr ydych hefyd wedi archwilio’r broses sgorio credyd yn eithaf manwl, ac wedi edrych ar y pethau y gallwch eu gwneud i gynyddu eich sgôr credyd ac agor y drws i’r bargeinion gorau i fenthyca arian. Yn sicr, un peth y dylech ei wneud ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yw gwirio eich cofnodion credyd!
Yr ydych hefyd wedi edrych ar sut mae lefelau cyfraddau llog ar gynhyrchion dyled yn cael eu pennu – a thrwy hynny adolygu’r ystyriaethau economaidd ehangach sy’n effeithio ar lefel gyffredinol y cyfraddau llog, gan gynnwys y rôl allweddol a chwaraeir yma gan Fanc Lloegr.
Dylech hefyd fod wedi dysgu bod benthyca arian yn weithgaredd arferol i’r rhan fwyaf o aelwydydd – fel arall, sut y byddai’r rhan fwyaf ohonom yn prynu eiddo, yn gwneud gwelliannau i’n cartref neu’n prynu car newydd? Dylech hefyd fod wedi dysgu sut i wneud penderfyniadau benthyca da ac osgoi’r rhai y byddech yn gresynu atynt yn ôl pob tebyg.
Ond os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch dyledion a'ch bod yn ei chael yn anodd talu'r ad-daliadau sy'n ddyledus, mae rhai awgrymiadau allweddol a fydd yn eich helpu.
- Yn gyntaf oll, agorwch ddeialog gyda'ch rhoddwr benthyciad. Ni fyddant am i chi beidio â thalu (hy, methu ad-dalu) yr arian yr ydych wedi'i fenthyg. Mae’r rheoleiddwyr gwasanaethau ariannol hefyd yn mynnu bod rhoddwyr benthyciadau yn darparu cymorth pan fydd benthycwyr yn mynd i drafferthion
- Byddwch yn barod i ofyn am gymorth gan yr asiantaethau yma yn y DU sy’n darparu cyngor am ddim – er enghraifft Cyngor ar Bopeth [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] a StepChange.
- Byddwch yn gyfrifol am eich sefyllfa ariannol gyffredinol drwy bennu neu adolygu cyllideb eich cartref. Gallai rhai arbedion ar wariant nad yw’n hanfodol roi cyfle i chi ddal i fyny â’ch ad-daliadau benthyciad ac osgoi amharu ar eich sgôr credyd. Darparwyd canllawiau ar sut i adeiladu a rheoli cyllideb aelwyd yn Sesiwn 2 ar gyllidebu a threthu ac mae ar gael drwy wefan MoneySavingExpert.
Mae rhagor o gymorth ac arweiniad ar gael o’r ffynonellau canlynol. Agorwch y dolenni mewn ffenestr neu dab newydd ac yna dewch yn ôl yma ar ôl i chi orffen.
- Dilynwch y ddolen hon i ddysgu mwy am sut mae cyfraddau llog yn cael eu pennu ac am y rôl allweddol a chwaraeir wrth reoli’r economi gan Fanc Lloegr.
- Os hoffech wybod mwy am adroddiadau credyd a sgorio credyd Experian, ewch i MoneySavingExpert’s Credit Club.
- Os oes gennych chi ddiddordeb, edrychwch ar Equifax a TransUnion.
- Os hoffech chi gael y newyddion diweddaraf am y cardiau credyd gyda’r 0% a’r bargeinion trosglwyddo credyd gorau, ewch i MoneySavingExpert.com.
- Os hoffech wybod mwy am y dewisiadau eraill heblaw mathau drud o fenthyca, edrychwch ar gyhoeddiad yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) ‘Alternatives to High Cost Credit’.
Yr ydych hanner ffordd drwy’r cwrs erbyn hyn. Byddai’r Brifysgol Agored yn gwerthfawrogi eich adborth a’ch awgrymiadau ar gyfer gwella yn y dyfodol yn ein harolwg diwedd cwrs dewisol, a byddwch hefyd yn cael cyfle i’w lenwi ar ddiwedd y cwrs. Bydd cymryd rhan yn gwbl gyfrinachol ac ni fyddwn yn pasio eich manylion ymlaen i unrhyw un arall.
Dechrau arni gyda Sesiwn 4: Deall morgeisi.