Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.1 Sut mae eich hanes credyd yn cael ei grynhoi

Nawr, byddwch yn edrych ar sut mae’r asiantaethau gwirio’n llunio sgoriau credyd.

Mae’r ddelwedd yn llun o ‘thermomedr’ sy’n sgorio credyd wedi’i dynnu ar dudalen o lyfr brasluniau. Mae’r thermomedr yn gorwedd yn llorweddol gyda gwahanol fandiau lliw ar gyfer gwahanol sgoriau credyd, o ‘gwael’ i ‘da’. Mae’r sgôr credyd a ddangosir yn un uchel sef 714. Hefyd ar y bwrdd ceir rhai pinnau lliwio, ffôn symudol a gliniadur.
Ffigur 4 Beth allai fod yn eich atal chi rhag cael sgôr credyd uchel?

Nid oes gan yr asiantaethau fynediad at eich holl wybodaeth bersonol, ac nid ydynt yn archwilio’r cyfan ohoni, ond maent yn archwilio’r canlynol:

  • A oes gennych ddyfarniad llys sirol (CCJ) (yn yr Alban, archddyfarniad) neu orchmynion llys eraill yn nodi bod gennych hanes o broblemau dyled?
  • A ydych chi erioed wedi cael eich dyfarnu’n euog o dwyll?
  • A ydych chi erioed wedi dioddef lladrad neu dwyll hunaniaeth?
  • Ydych chi erioed wedi methu talu (pan fydd y wybodaeth yn dangos nad oeddech chi wedi talu ond y dylech fod wedi gwneud hynny)? Fel arfer, bydd methiannau i dalu yn aros ar eich adroddiadau am 6 blynedd. Ydych chi’n dal i fod yn methu talu?
  • Sut ydych chi’n gweithredu eich cyfrifon banc a chardiau credyd? Er enghraifft, ydych chi’n talu eich bil cerdyn credyd yn llawn bob mis? Mae hyn yn ei gwneud yn glir i’r asiantaethau mai chi sy’n rheoli eich sefyllfa ariannol.
  • Sawl cais diweddar am gredyd ydych chi wedi’i wneud? Noder, fodd bynnag, na all yr asiantaethau ganfod a gawsoch eich derbyn neu eich gwrthod pan wnaethoch y ceisiadau hyn. Fodd bynnag, efallai y byddan nhw’n gallu dyfalu’r canlyniad yn seiliedig ar y cynhyrchion sydd gennych yn dilyn hynny.
  • A ydych chi ar y gofrestr etholiadol? Mae hwn yn un darn hanfodol o wybodaeth sydd heb fod yn ariannol a fydd yn effeithio ar eich gallu i fenthyca arian.

Mewn cyferbyniad, dyma rai o'r materion ariannol a materion eraill nad ydynt yn cael eu cofnodi gan yr asiantaethau cyfeirio:

  • eich incwm neu'ch pensiwn (er y gallant wirio bod yr incwm y byddwch yn ei ddatgelu i roddwyr benthyciadau yn cyfateb i'r incwm ar eich datganiad banc)
  • Ceisiadau a wrthodwyd (bydd y cais yn cael ei gofnodi ond nid canlyniad y cais)
  • cofnodion troseddol
  • manylion eich cynilion a'ch buddsoddiadau
  • eich cofnodion meddygol neu'r amser a gymerwyd i ffwrdd o'r gwaith oherwydd salwch
  • eich hil, eich crefydd, eich ethnigrwydd neu unrhyw gysylltiad gwleidyddol (fel aelodaeth o blaid wleidyddol)
  • benthyciadau myfyrwyr – er y gellir ystyried diffygdalu ar daliadau (mae hyn oherwydd, fel y gwelwch yn ddiweddarach, bod benthyciadau myfyrwyr yn wahanol i fenthyciadau confensiynol)
  • eich cofnod o wneud taliadau’r Dreth Gyngor ar amser (oni fo methu â gwneud taliadau wedi arwain at gofnodi dyfarniad gan y Llys Sirol)
  • talu dirwyon yn brydlon am droseddau gyrru a pharcio.

Hefyd, ar unrhyw ffurflen gais, bydd y rhoddwr benthyciadau angen y manylion canlynol fel arfer:

  • Eich oedran.
  • Eich math o gyflogaeth. Gallai hyn gynnwys cadarnhad ynghylch a yw’r swydd yn barhaol neu’n gontract cyfnod penodol. Efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd ddatgelu a ydych wedi cwblhau’r cyfnod prawf sy’n berthnasol yn aml pan fyddwch yn dechrau swydd newydd.
  • Eich cyflog.
  • Eich statws priodasol.
  • Unrhyw ddibynyddion ariannol sydd gennych, ee, plant.
  • Eich cyfeiriad.
  • P'un a yw eich cartref yn eiddo i berchen-feddiannydd neu'n cael ei rentu, neu a ydych yn byw yng nghartref rhywun arall - er enghraifft, tŷ eich rhiant.

Fel y nodwyd yn gynharach, ni fydd y rhoddwyr benthyciadau yn gwneud eu penderfyniadau benthyca ar sail eich sgoriau credyd, er efallai y bydd ganddynt ddiddordeb os bydd eich sgoriau’n newid yn sylweddol – yn enwedig os byddant yn gostwng. Bydd y ffocws ar eich hanes credyd ac, ar yr amod bod hyn yn foddhaol, ar eich gallu i ad-dalu’r arian yr ydych yn ceisio’i fenthyg. Mae’r olaf yn ymwneud â ‘phrofi fforddiadwyedd ’ – rhywbeth y byddwch yn edrych arno’n fanwl yn Sesiwn 4. Gall canlyniad profion fforddiadwyedd olygu, hyd yn oed os derbynnir ceisiadau am fenthyciad neu gerdyn credyd, y gall swm y benthyciad neu’r credyd a roddir fod yn llai na’r disgwyl gan yr ymgeisydd.

Gweithgaredd 3 Creu hanes credyd da: cardiau ailadeiladu credyd

Timing: Caniatewch tua 5 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

Os mai prin yw eich hanes credyd, mae’n werth cael cerdyn arbenigol i ailadeiladu credyd a’i ddefnyddio’n gywir. Pam hynny meddech chi?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Answer

Mae angen i chi adeiladu hanes diweddar da i ddangos y gallwch fod yn gyfrifol gyda chredyd a’i ddefnyddio’n iawn. Y broblem yw, os nad oes gennych lawer o hanes credyd, mae’n anodd cael credyd.

Yr ateb yw cael cerdyn (ail) adeiladu credyd, ond mae'n rhaid i chi ei ddefnyddio'n iawn i wneud iddo weithio neu fe gewch eich taro gan gostau ofnadwy.

Mae darparwyr y cardiau hyn yn codi cyfradd llog uchel iawn ond maent yn derbyn pobl sydd â hanes credyd gwael neu ychydig iawn o hanes o gwbl. Ac eto, ar yr amod eich bod yn gwneud y gwariant arferol y byddech yn ei wneud ar gerdyn debyd ac yn ad-dalu’r cerdyn yn llawn bob mis, drwy ddebyd uniongyrchol yn ddelfrydol, a byth yn tynnu arian parod allan, ni chodir llog arnoch felly nid yw’n broblem.

Ar yr amod nad oes gennych unrhyw faterion eraill ar ôl tua chwe mis, dylai pethau ddechrau gwella. Ar ôl blwyddyn, dylai wneud cryn wahaniaeth i’ch hanes credyd.