3.2 Sut mae rhoi hwb i’ch teilyngdod credyd
Mae nifer enfawr o ffyrdd i chi gymryd rheolaeth dros eich ffeil credyd ac felly eich gallu i gael credyd yn y dyfodol.
Yn gyntaf – fel y soniwyd yn gynharach – edrychwch ar eich adroddiadau credyd o leiaf unwaith y flwyddyn.
Mae hwn yn gam hollbwysig. Os yw’r wybodaeth a gedwir ar yr adroddiadau’n anghywir, gallech gael ceisiadau am gredyd wedi’u gwrthod o ganlyniad i wallau. Yn ddelfrydol, dylech gael mynediad at yr wybodaeth ar adroddiadau’r ‘Tair Asiantaeth Fawr’ – Experian, Equifax a TransUnion. Efallai y cewch eich synnu o weld yr amrywiadau yn yr wybodaeth a gedwir amdanoch rhwng yr asiantaethau hyn. Os oes gwallau, gwnewch yn siŵr eu bod yn cael eu cywiro.
Yn benodol, darllenwch eich adroddiadau credyd cyn unrhyw geisiadau mawr (er enghraifft, cyn gwneud cais am forgais) ac os byddwch yn gwneud cais am gredyd a hwnnw’n cael ei wrthod.
Wrth gwrs, mae gwrthod yn golygu eich bod wedi gwneud cais, ac mae pob cais yn rhoi marc ar eich ffeil. Nid yw ambell un yn broblem fel arfer, ond gall llawer o geisiadau wneud i chi ymddangos yn llai deniadol i roddwyr benthyciadau gan y gall wneud i chi ymddangos yn rhywun sy’n dibynnu ar gredyd. Felly, gwnewch yn siŵr bod camgymeriadau’n cael eu cywiro ar unwaith gan y gallent olygu eich bod yn cael eich gwrthod yn barhaus, ac mae eisiau i chi roi terfyn ar y cylch dieflig hwnnw.
Yn ogystal â gwirio eich adroddiadau, gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru ar y gofrestr etholiadol neu, os nad ydych yn gymwys i bleidleisio yn y DU, bod gennych brawf o breswyliad. Caiff y gofrestr etholiadol ei diweddaru’n flynyddol. Mae parhau wedi cofrestru yn hanfodol oherwydd os nad ydych chi ar y gofrestr, mae'n annhebygol y bydd unrhyw sefydliad am roi benthyg arian i chi.
Nesaf, holwch i weld a ydych chi’n gysylltiedig â rhywun yn ariannol, oherwydd gall eu sgôr credyd effeithio ar eich un chi.
Dydy bod yn ‘gysylltiedig’ ddim yn golygu a ydych chi’n byw gyda’ch gilydd neu’n briod, ond yn syml a oes gennych chi gynnyrch ariannol ar y cyd fel cyfrif banc neu forgais ar y cyd (ond nid cerdyn credyd ‘ar y cyd’ gan nad oes y fath beth – os oes gan rywun arall gerdyn ar eich cyfrif chi, mae’n dal i fod yn gyfrif unigol).
Os oes gennych gysylltiad ariannol â rhywun ar unrhyw gynnyrch, mae hynny’n golygu bod eu hanes yn cael ei ystyried fel rhan o’r broses o asesu a ydych am gael eich derbyn ai peidio. Gall hyd yn oed gyfrif biliau ar y cyd gyda rhai sy’n rhannu fflat â chi olygu eich bod yn cael eich cyd-sgorio.
Felly, os oes gan eich partner neu rhywun sy’n rhannu fflat â chi hanes gwael, cadwch eich arian ar wahân yn llwyr.
Os ydych chi wedi gwahanu gyda rhywun rydych chi wedi bod ag arian ar y cyd ag ef (neu os ydych chi newydd symud allan o fod yn rhannu fflat), ar ôl i'ch sefyllfa ariannol beidio â bod yn gysylltiedig mwyach, ysgrifennwch at yr asiantaethau gwirio credyd a gofynnwch am hysbysiad o anghytuno. Gallwch hefyd ddod o hyd i'r ffurflenni ar-lein.
Os nad ydych chi erioed wedi bod yn gysylltiedig â rhywun yn ariannol, mae angen i chi fod yn ymwybodol o’r risgiau hyn oherwydd efallai y byddwch chi’n dod yn gysylltiedig yn y dyfodol.