6 Yr archfarchnad ddyledion: dod i adnabod y cynhyrchion
Dyma grynodeb o’r mathau mwyaf cyffredin o fenthyca.
Gorddrafftiau: Yn aml, nid yw pobl yn meddwl am hyn fel dyled, ond mae’n ddyled. Mae gorddrafft yn arian y mae banc yn ei roi ar fenthyg i chi ar eich cyfrif cyfredol hyd at derfyn y cytunwyd arno pan fyddwch yn brin o’ch arian eich hun, felly mae’n mynd â’ch balans i diriogaeth negyddol. Felly, os ydych chi mewn dyled o £500, mae'n golygu bod gennych falans ar eich cyfrif cyfredol o lai na £500, ac mae'n rhaid ei dalu'n ôl ar ryw adeg. Mae cost gorddrafftiau wedi codi’n sylweddol ers 2020, gyda chyfraddau llog hyd at 40% yn cael eu codi ar y symiau sydd mewn gorddrafft. Os oes angen i chi fenthyg arian, dylech chwilio am ffynonellau eraill o gredyd.
Cardiau credyd: Rydych yn defnyddio cerdyn i wario hyd at derfyn credyd penodol a bennir gan y benthycwyr, ond mae'n ddyled y mae'n rhaid i chi ei thalu'n ôl, ac fe gewch fil fisol i dalu’r balans. Oni bai eich bod ar gynllun hyrwyddo llog cyfradd sero am gyfnod cyfyngedig, os na fyddwch yn talu'r ddyled bob mis, codir llog arnoch, sy'n amrywio yn ôl darparwr. Hyd yn oed os byddwch yn talu bob mis, mae rhai amgylchiadau lle y mae’n bosibl y codir llog arnoch.
Mae cardiau siop yn fath o gerdyn credyd a ddefnyddir i brynu o siopau penodol. Maent yn tueddu i fod â chyfraddau llog llawer uwch na chardiau credyd.
Cardiau talu: gellir eu defnyddio fel cardiau credyd i brynu a chael hyd at ddau fis o gredyd am ddim rhwng prynu a thalu’r swm sy’n weddill. Mae cardiau talu'n wahanol i gerdyn credyd gan fod yn rhaid i’r benthyciwr dalu'r balans cyfan bob mis. Efallai y bydd yn rhaid talu ffi am y cerdyn.
Benthyciadau: benthyciadau a roddir i unigolion am gyfnodau o rhwng 1 a 10 mlynedd fel arfer. Gallant fod naill ai yn ansicredig neu’n sicredig yn erbyn ased. Nid oes cysylltiad cytundebol rhwng benthyciadau personol ansicredig ac unrhyw asedau y mae’r sawl sy’n benthyca yn eu prynu. Mae’r rhain ar gael gan undebau credyd, banciau, cymdeithasau adeiladu, benthycwyr uniongyrchol a chwmnïau cyllid.
Hurbwrcasu (HP): ffurf ar ddyled sicredig pan wneir ad-daliadau dros gyfnod o amser, hyd at 10 mlynedd fel arfer, i brynu nwyddau penodol.
Morgeisi: benthyciadau i brynu eiddo neu dir, a sicrheir yn erbyn yr asedau hyn. Fel arfer, mae telerau dyled morgeisi hyd at 25 neu 30 mlynedd (er bod rhai’n mynd hyd at 40 mlynedd), ond wrth i chi dalu llog, po hiraf y cyfnod benthyca, y mwyaf o log y byddwch yn ei dalu. Ymdrinnir â’r rhain yn fanylach yn Sesiwn 4 ar ddeall morgeisi. Mae sawl math o forgais, gan gynnwys cynhyrchion morgais rhyddhau ecwiti. Mae hyn yn golygu y gallwch fenthyg arian os oes digon o wahaniaeth rhwng gwerth eich eiddo ar y farchnad ac unrhyw forgais sydd arno ar hyn o bryd.
Mathau eraill (a drud iawn) o gredyd: mae’r rhain yn cynnwys benthyca ar garreg y drws a ‘benthyciad diwrnod cyflog’ ac ni ddylid eu hystyried ond fel dewis olaf o ran benthyca gan y gall y gost fod yn anferth. Math arall o gredyd amgen yw ‘rhentu-i-brynu’ sydd fel hurbwrcasu (gweler uchod) ond sydd hefyd yn ddrud iawn gan ei fod yn ddull cost uchel o brynu nwyddau cartref. Mae’r mathau hyn o fenthyciadau’n tueddu i gael eu marchnata i bobl ar incwm is neu sydd â hanes credyd gwaeth ac maent wedi wynebu gwaharddiadau gan yr awdurdodau oherwydd tactegau gwerthu gwael. Darperir dolen ar ddiwedd y sesiwn hon at ganllaw’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol ar ddewisiadau eraill yn lle’r mathau hyn o fenthyca.
Benthyciadau cymar-i-gymar (Peer2Peer): mae hwn yn fath newydd o fenthyca lle mae gwefannau arbennig yn cysylltu pobl sydd ag arian i fuddsoddi gydag unigolion neu gwmnïau sydd am fenthyca, fel eich bod i bob pwrpas yn benthyca gan unigolion eraill yn hytrach na banc. Mae’r safleoedd, fel Zopa a Ratetter, yn gwneud elw drwy gymryd ffi.
Prynu contract personol (PCP): math cynyddol boblogaidd o gyllido car. Fel arfer, mae’r rhain yn golygu gwneud taliad misol am 2 neu 3 blynedd, ac ar derfyn y cyfnod mae’r swm sy’n weddill i’w dalu wrth brynu’r car yr un fath â’i werth o’i werthu’n ôl. Ar y pwynt hwn, gall defnyddwyr naill ai wneud taliad untro i gwblhau’r pryniant, cyfnewid y car am un newydd (a bargen PCP newydd) neu roi’r car yn ôl (yn amodol ar ddarpariaethau ‘traul’ yn y contract).
Benthyciadau myfyrwyr: defnyddir y rhain i ariannu astudiaethau addysg bellach ac addysg uwch. Fodd bynnag, nid yw’r rhain yn debyg i fenthyciadau cyffredin na mathau eraill o gredyd. Nid oes raid ad-dalu’r benthyciadau ond pan fydd y trothwy incwm ar gyfer ad-daliadau yn cael ei groesi pan fydd cyn-fyfyrwyr mewn cyflogaeth. Mae ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr, i bob pwrpas, yn fath arall o dreth incwm.
Mae Tabl 1 yn rhoi crynodeb o’r ffigurau allweddol ar gyfer cynhyrchion dyled.
Cynnyrch | Sicredig/Ansicredig | Math o log (fel arfer) | Llog a godir (fel arfer) |
---|---|---|---|
Gorddrafft | Ansicredig | Amrywiadwy | Uchel iawn |
Cerdyn credyd | Ansicredig | Amrywiadwy | Uchel |
Cerdyn siop | Ansicredig | Amrywiadwy | Uchel |
Cerdyn talu | Ansicredig | Amrywiadwy – codir tâl dim ond os na thelir yn llawn y swm misol sy’n ddyledus | Uchel (os codir tâl) |
Benthyciadau | Ansicredig fel arfer | Sefydlog | Eithaf isel |
Hurbwrcasu | Sicredig | Sefydlog | Eithaf uchel |
Morgais | Sicredig | Sefydlog neu Amrywiadwy | Fel arfer yr isaf ar gyfer pob math o ddyled |
Credyd cost uchel (ee, benthyciadau diwrnod cyflog) | Ansicredig | Amrywiadwy | Eithriadol o uchel |
Benthyciadau cymar-i-gymar | Ansicredig | Amrywiadwy | O eithaf isel i uchel iawn |
Prynu Contract Personol (PCP) | Sicredig | Sefydlog | O eithaf isel i uchel iawn |