Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

7.1 Cyfradd Ganrannol Flynyddol (APR): y cymharydd allweddol ar gyfer penderfyniadau benthyca

Rydych chi wedi gweld bod yn rhaid i fenthycwyr arian ad-dalu’r prif swm a’r llog i’r rhoddwr benthyciadau. Yn ogystal â hyn, ceir costau ychwanegol yn aml. Daw rhai o ffioedd ‘trefniant’ a ffioedd cyfryngwr (brocer) pan fyddwch yn cael benthyciad yn y lle cyntaf ac mae eraill, mewn rhai amgylchiadau, yn codi os byddwch yn ad-dalu’r benthyciad cyn diwedd y cyfnod.

Mae’r ddelwedd yn llun o glorian yn cydbwyso benthyciad a char a chartref teuluol.
Ffigur 8 Mae APR yn bwysig wrth ystyried gwahanol ffyrdd o fenthyca

O ystyried yr holl wahanol daliadau posibl hyn, a’r gwahaniaethau posibl o ran amseru ad-daliadau, mae’n bwysig cael ffordd dda o gymharu cyfanswm cost dyled ar wahanol gynhyrchion dyled. Yn ffodus, mae ffordd o sicrhau cymhariaeth ‘tebyg am debyg’ ac o asesu pa gynnyrch dyled sydd fwyaf priodol. Gelwir hyn yn Gyfradd Ganrannol Flynyddol (APR) y llog. Mae hyn yn ystyried nid yn unig y gyfradd llog a godir ar arian a fenthycir ond hefyd pa bryd, a pha mor aml, y telir llog yn ystod pob blwyddyn. Mae’r APR hefyd yn ystyried unrhyw daliadau gorfodol eraill sy’n rhan o gytundeb benthyciad dan gontract.

Er ei fod yn ddefnyddiol gyda benthyciadau a chardiau credyd, nid yw APR yn anffaeledig fel cymharydd. O ran morgeisi, er enghraifft, mae’n cymryd yn ganiataol eich bod yn glynu wrth y darparwr morgais hwnnw am y tymor llawn ac yn talu’r gyfradd amrywiadwy safonol pan ddaw cyfradd gyflwyniadol i ben. Y realiti yw nad yw llawer o bobl byth yn talu’r gyfradd safonol honno – gan eu bod yn tueddu i newid morgais cyn iddi gael ei chodi – felly does fawr i’w ennill o gymharu cost morgais dros 20 mlynedd neu fwy.

Sylwch nad yw APR yn cynnwys:

  • taliadau dewisol, megis yswiriant adeiladau, nad yw’n ofynnol fel rhan o becyn morgais (er nad oes angen i chi ei gael gan ddarparwr eich morgais).
  • ffioedd ‘dibynnol’, fel taliadau ad-dalu cynnar, sy’n dibynnu ar amgylchiadau penodol ac a fyddai ond yn daladwy mewn sefyllfaoedd nad ydynt yn berthnasol i bob rhoddwr benthyciadau.

Yn gyffredinol, mae APR isel yn golygu costau is i’r sawl sy’n benthyca. Byddwch yn gweld yr APR yn cael ei nodi ar bosteri a hysbysebion eraill ar gyfer cynhyrchion dyled, gan helpu defnyddwyr i gymharu rhyngddynt.