7.2 Gosod cyfraddau llog a rôl Banc Lloegr
I ddeall beth sy’n pennu lefel y cyfraddau llog a godir pan fyddwch yn benthyg arian, yn gyntaf mae angen i chi ddeall sut y pennir cyfraddau llog ‘swyddogol’. Nawr, byddwch yn darllen Andy Haldane, cyn Prif Economegydd Banc Lloegr, yn sôn am y ffactorau sy’n cael eu hystyried wrth bennu cyfraddau llog swyddogol. Mae pennu cyfraddau llog yn agwedd allweddol ar bolisi ariannol – ac fe’i defnyddir i helpu i reoli’r economi.
Mae’r ddogfen Gymraeg hon wedi cael ei chreu gan ddefnyddio trawsgrifiad o’r cwrs Saesneg: Academi Arian. Gallwch wylio fideo gwreiddiol Andy Haldane, yn Saesneg, yma [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .
Trawsgrifiad Fideo 2 Banc Lloegr a chyfraddau llog
Y gyfradd a bennir gan Bwyllgor Polisi Ariannol (MPC) y Banc, a elwir yn ‘Cyfradd Banc’ yw’r gyfradd y bydd Banc Lloegr yn rhoi benthyciadau arni i’r sefydliadau ariannol. Mae hyn, yn ei dro, yn pennu lefel ‘cyfraddau sylfaen’ banciau – y lefel isaf y bydd y banciau fel arfer yn rhoi benthyg arian arni. O ganlyniad, mae’r Gyfradd Banc (a elwir hefyd yn ‘gyfradd swyddogol’) i bob pwrpas yn pennu lefel gyffredinol y cyfraddau llog ar gyfer yr economi gyfan.
Mae MPC Banc Lloegr yn cwrdd wyth gwaith y flwyddyn i ystyried polisi a gosod ei Gyfradd B yng ngoleuni amodau economaidd – yn enwedig y rhagolygon ar gyfer chwyddiant prisiau (cyfradd y cynnydd ym mhris cynnyrch defnyddwyr fel nwyddau groser, dillad, nwyddau cartref a thanwydd).
Y prif amcan yw i’r MPC osod cyfraddau llog ar lefel sy’n gyson â chwyddiant prisiau oddeutu 2% y flwyddyn. Er enghraifft, os yw’r MPC yn credu y bydd chwyddiant yn codi dros 2% y flwyddyn, gallai gynyddu cyfraddau llog er mwyn annog pobl i beidio ag ymgymryd â dyled – oherwydd os yw pobl yn gwario llai, gallai leihau’r pwysau cynyddol ar brisiau. I’r gwrthwyneb, os yw’r MPC yn credu y bydd chwyddiant yn llawer is na 2% y flwyddyn, efallai y bydd yn gostwng cyfraddau llog (a elwir hefyd yn ‘llacio polisi ariannol’) – ac mae’n bosibl y byddai pobl wedyn yn benthyca ac yn gwario mwy.
Fodd bynnag, ar ôl 2013, addaswyd y dull hwn o bennu Cyfradd Banc i un lle mae’r MPC yn rhoi mwy o sylw i fesurau eraill o weithgarwch economaidd, fel lefel diweithdra. Mae’r eitem a ddarllenwch yn archwilio’r newid pwyslais hwn.
Mae cyfraddau llog swyddogol yn tueddu i fod yn gylchol, gan godi i lefelau brig ac yna disgyn i lefelau isel. Ers 1989, mae’r duedd yn y DU wedi bod i’r cyfraddau llog gyrraedd brig is yn olynol. Gostyngodd y gyfradd llog swyddogol (neu Gyfradd Banc) a bennir gan Fanc Lloegr i 3.5% yn 2003. Yn 2009 cyrhaeddodd y lefel isaf erioed bryd hynny o 0.5% ac fe’i gostyngwyd ymhellach i 0.25% ym mis Awst 2016. Ym mis Rhagfyr 2019, roedd y Gyfradd Banc wedi codi i 0.75%, dim ond i’w thorri eto i 0.1% yn 2020 i helpu i fynd i’r afael â chanlyniadau economaidd pandemig y coronafeirws (Covid-19). Mae'r cynnydd sydyn mewn costau ynni a chostau eraill yn 2022, yn erbyn cefndir y rhyfel yn Wcráin wedi gwneud chwyddiant prisiau lawer yn uwch. Erbyn mis Awst 2022 cafwyd cyfradd chwyddiant MPD flynyddol o 9.9% gyda rhai dadansoddwyr yn rhagweld y bydd yn cyrraedd 18% neu hyd yn oed yn uwch erbyn dechrau 2023. Oherwydd y datblygiad hwn, penderfynodd y Pwyllgor Polisi Cyllidol gynyddu Cyfradd y Banc sawl gwaith. Ym mis Awst 2022, y gyfradd oedd 1.75%, gyda dadansoddwyr yn rhagweld cynnydd pellach.
Cofiwch, fodd bynnag, ar gyfer unigolion y bydd y gyfradd a delir ar gynhyrchion ‘ar lefel uwch’ - na’r Gyfradd Banc a chyfraddau sylfaen banciau – weithiau’n uchel iawn. Mewn geiriau eraill, bydd y gyfradd a delir mewn gwirionedd gan unigolion yn uwch. Bydd yr elw a ychwanegir gan roddwyr benthyciadau yn ystyried y cynnyrch (yn enwedig os yw’r benthyciad yn un sicredig ai peidio) a’r risgiau sy’n gysylltiedig â rhoi’r benthyciad, gan gynnwys teilyngdod credyd y benthyciwr. Felly, er bod bwlch bychan fel arfer o tua 2-3% rhwng Cyfradd Banc a chyfraddau morgeisi, mae bwlch enfawr rhwng Cyfradd Banc ac, er enghraifft, y cyfraddau ar ddyledion cardiau credyd a benthyciadau diwrnod cyflog.
Un ffactor arall i’w ystyried yw'r gwahaniaeth rhwng chwyddiant prisiau a chyfraddau llog – cyfeirir at y gwahaniaeth fel y ‘wir’ gyfradd llog. Pan fydd cyfraddau llog yn uwch na chwyddiant prisiau, yna mae gwir gyfraddau llog yn gadarnhaol. Mae hyn yn newyddion da i gynilwyr a fydd yn gweld grym prynu eu cynilion yn cynyddu. Pan fydd chwyddiant prisiau’n uwch na chyfraddau llog, yna mae gwir gyfraddau llog yn negyddol. Mae hyn yn newyddion drwg i gynilwyr a fydd yn gweld grym prynu eu cynilion yn gostwng.
I unrhyw un sy’n benthyca, mae’r gwrthwyneb yn berthnasol – mae gwir gyfraddau llog cadarnhaol yn newyddion drwg, ond mae gwir gyfraddau llog negyddol yn newyddion da.