Glossary
- Archddyfarniad
- Gorchymyn llys a wnaed yn yr Alban yn erbyn y rheini sy’n methu ag ad-dalu arian sy’n ddyledus ganddynt. Gweler hefyd Dyfarniad y Llys Sirol (CCJ).
- Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA)
- Corff rheoleiddio gwasanaethau ariannol y DU sy’n gyfrifol am ddiogelu defnyddwyr.
- Banciau
- Cwmnïau sy’n eiddo i gyfranddalwyr, y mae eu prif weithgareddau busnes yn golygu benthyca arian a’i roi ar fenthyg i unigolion a busnesau, a chynnig gwasanaethau cyfrifon banc.
- Brocer
- Cyfryngwr ariannol sy’n trefnu cynhyrchion ariannol i gwsmeriaid.
- Compowndio (llog)
- Y broses o gael llog ar log blaenorol a enillwyd (ar gyfrifon cynilo) neu dalu llog ar log blaenorol a dalwyd (ar fenthyciadau).
- Cyfradd ddisgownt
- Gostyngiad yn y gyfradd llog arferol am gyfnod penodol ar ddechrau benthyciad neu forgais. Defnyddir hyn i wneud yr ad-daliadau cynnar yn fwy fforddiadwy ac felly i wneud y cynnyrch yn ddeniadol i fenthycwyr.
- Cyfradd llog
- Y tâl ar swm yr arian a fenthycir (neu a delir ar swm yr arian mewn cynilion). Fel arfer, mynegir hyn fel swm canran (%) ar gyfer pob blwyddyn (neu ‘y flwyddyn’ neu ‘y.f.’) ee, 3 % y flwyddyn.
- Cyfradd sefydlog
- Pan fydd y llog a godir ar fenthyciad neu forgais wedi’i bennu am oes gyfan y cynnyrch neu am gyfnod cychwynnol diffiniedig.
- Cymdeithasau adeiladu
- Sefydliadau cydfuddiannol – sy’n golygu mai eu cwsmeriaid sy’n berchen arnynt – eu prif fusnes yw cynnig cyfrifon cynilo a morgeisi. Mae cynhyrchion ariannol eraill fel cyfrifon cyfredol yn cael eu cynnig hefyd gan y cymdeithasau mwy.
- Chwyddiant prisiau
- Cynnydd yn lefel gyffredinol prisiau adwerthu yn yr economi. Prisiau adwerthu yw’r rheini sy’n cael eu talu gan aelwydydd.
- Dyfarniad Llys Sirol (CCJ)
- Gorchymyn llys a wnaed yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn erbyn y rheini sy’n methu ag ad-dalu arian sy’n ddyledus ganddynt. Gweler hefyd Archddyfarniad.
- Dyled
- Arian wedi’i fenthyca.
- Dyled ansicredig
- Dyled nad yw’n gysylltiedig ag ased a bennir drwy gontract (ee, eiddo). Os na fydd y benthyciwr yn ad-dalu’r arian a fenthyciwyd, yna nid oes gan roddwr y benthyciad hawl i gael ei ddigolledu drwy droi at yr asedau a allai fod wedi’u prynu gyda’r arian a fenthyciwyd.
- Dyled bersonol
- Arian a fenthyciwyd sy’n ddyledus gan unigolion ac aelwydydd.
- Dyled sicredig
- Dyled sy’n gysylltiedig ag ased a bennir drwy gontract (ee, eiddo). Os na fydd y benthyciwr yn ad-dalu’r arian a fenthyciwyd, yna gall rhoddwr y benthyciad ddefnyddio’r ased i adennill y dyledion sy’n weddill.
- Elw
- Gwarged enillion gwerthiannau dros y costau sy’n gysylltiedig â’r nwyddau neu’r gwasanaethau a werthir.
- Enwol
- Heb ei addasu i ystyried chwyddiant prisiau. Gweler Gwir.
- Ffioedd ad-dalu cynnar
- Ffi y bydd y sawl sy’n benthyca arian i chi yn ei chodi os byddwch chi’n gadael eich morgais cyn y cyfnod penodedig. Mae fel arfer yn berthnasol i forgeisi cyfradd sefydlog, ond gall fod yn un o nodweddion morgeisi traciwr hefyd.
- Gorddrafft
- Balans negyddol ar gyfrif banc (neu 'gyfrif cyfredol').
- Gwir
- Wedi’i addasu i ystyried chwyddiant prisiau. Gweler Enwol.
- Morgais
- Benthyciad i brynu eiddo neu dir.
- Polisi ariannol
- Defnyddio cyfraddau llog a rheolaeth dros y cyflenwad arian i helpu i reoli’r economi ac, yn benodol, cyfradd chwyddiant prisiau.
- Rhentu-i-brynu
- Contract talu ar gyfer prynu nwyddau’r cartref. Fel arfer, mae hyn yn golygu taliadau misol dros flwyddyn neu ychydig flynyddoedd. Yn ystod y cyfnod hwn, mae’r benthyciwr yn cadw’r nwyddau, ond ddim ond pan fydd yr holl daliadau dan y contract wedi’u gwneud y sicrheir perchnogaeth.
- Treth Gyngor
- Treth flynyddol a godir gan awdurdodau lleol ar sail gwerth yr eiddo y maent yn byw ynddo.
- Triliwn
- Mil biliwn.