Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.2 Ad-daliad neu log yn unig

Y dewis mawr cyntaf ar gyfer morgais yw sut i’w ad-dalu. Yr opsiynau yw morgais ‘ad-dalu’ neu forgais ‘llog yn unig’. Y dyddiau hyn, dim ond morgais ad-dalu mae llawer o fenthycwyr yn ei gynnig, sy’n gwneud y dewis yn hawdd!

Braslun o dŷ gyda symbol canran y tu mewn iddo.
Ffigur 3 Beth yw cost llog ar forgais?

Gyda morgais ad-dalu, caiff y cyfalaf neu’r prif swm (swm gwreiddiol y ddyled) ei dalu mewn camau drwy gydol oes y benthyciad. Edrychwch ar Dabl 1 isod i weld patrwm y taliadau ar forgais ad-dalu. Y strwythur arferol yw benthyciad â balans yn lleihau lle caiff swm penodedig ei dalu bob mis drwy gydol cyfnod y morgais oni bai fod y gyfradd llog yn newid.

Tabl 1 Taliadau blynyddol ar gyfer morgais ad-dalu (£)
Yn ystod blwyddyn Llog a dalwyd Cyfalaf a ad-dalwyd Cyfanswm y taliad morgais
1 3957 2379 6336
5 3546 2790 6336
10 2930 3406 6336
15 2177 4159 6336
20 1412 4924 6336
25 142 6194 6336

Fel y gwelwch o’r tabl, llog yw’r rhan fwyaf o'r ad-daliadau morgais blynyddol i ddechrau, oherwydd bod swm mor fawr i dalu llog arno. Dim ond cyfran fach o’ch ad-daliadau sy’n cyfrannu tuag at ad-dalu’r cyfalaf. Pan fyddwch chi’n nesáu at ddiwedd cyfnod y morgais, bydd eich ad-daliadau’n cyfrannu tuag at ad-dalu'r cyfalaf yn bennaf, oherwydd mae’r benthyciad yn llawer llai erbyn hynny, sy’n golygu ei fod yn cronni llawer llai o log.

Un canlyniad yw y gallai benthyciwr sy’n dymuno ad-dalu’n gynnar synnu faint o’r prif swm sydd ar ôl. Mae Tabl 1 yn dangos morgais ad-dalu o £100,000 sy’n daladwy dros 25 mlynedd, ar gyfradd morgais o 4%. Ar gyfer yr enghraifft hon, cymerir bod cyfradd y morgais yn aros yr un fath drwy gydol oes y morgais.

Gyda morgais llog yn unig, nid yw’r prif swm sy’n weddill yn newid drwy gydol oes y benthyciad a dim ond taliadau llog a wneir i’r benthyciwr tan ddiwedd cyfnod y benthyciad. Ar ddiwedd y cyfnod rhaid i’r sawl sydd wedi benthyca fod â’r modd i ad-dalu’r prif swm i’r benthyciwr (y swm sy’n ddyledus).

Gyda morgeisi llog yn unig, llwyddir i ad-dalu’r prif swm fel arfer drwy roi arian mewn cynllun cynilo neu fuddsoddi (megis ISA neu ymddiriedolaethau unedau) gydol oes y morgais. I bennu faint i’w gynilo bob mis, rhagwelir y bydd y buddsoddiad yn tyfu ar gyfradd dybiedig er mwyn cynhyrchu cyfandaliad sy’n ddigon mawr i ad-dalu’r prif swm yn llawn ar aeddfedrwydd y morgais.

Gweithgaredd 2 Defnyddio cynlluniau buddsoddi i ad-dalu morgais

Timing: Dylech ganiatáu tua 5 munud

Beth allai fynd o’i le wrth ddefnyddio cynllun buddsoddi i gasglu’r cyllid i ad-dalu morgais?

Rhowch eich sylwadau yn y blwch isod a’u cadw i ddatgelu'r drafodaeth.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Discussion

Y risg yw y bydd y cynllun buddsoddi yn cronni cyllid annigonol i ad-dalu’r morgais. Mewn achosion o’r fath, mae’n rhaid i’r benthyciwr ddod o hyd i arian arall i gwblhau ei ad-daliad neu fenthyca arian am gyfnod hirach. Mae’r risg yn golygu bod morgeisi llog yn unig yn amhoblogaidd y dyddiau hyn a dydy llawer o fenthycwyr ddim yn eu cynnig. Mae angen argyhoeddi benthycwyr bod cynllun credadwy a chadarn ar waith i ad-dalu’r morgais ar ddiwedd ei gyfnod.

Caiff y rheini sydd â morgeisi llog yn unig eu cynghori’n gryf gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) i wirio a yw eu cynlluniau buddsoddi ar y trywydd iawn i ad-dalu eu morgais. Beth bynnag fo'r sefyllfa, i’r rheini sydd â chynlluniau o’r fath wedi’u sefydlu flynyddoedd yn ôl, pan oedd morgeisi llog yn unig yn fwy cyffredin, mae’n debygol iawn y bydd eu benthyciwr yn cysylltu â nhw i ofyn sut maent yn bwriadu ad-dalu eu morgais ar ddiwedd cyfnod y morgais llog yn unig!

Fel y nodir uchod, efallai nad oes gennych chi ddewis ond cael morgais ad-dalu. Fodd bynnag, bydd y dewis nesaf ynghylch eich cynnyrch morgais yn un y bydd rhaid i chi ei wneud heb os: ydych chi eisiau morgais cyfradd sefydlog neu gyfradd amrywiadwy?