Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.3 Cyfradd sefydlog neu gyfradd amrywiadwy?

Mae hi nawr yn amser gwneud penderfyniad am eich morgais – a ddylech chi gael cynnyrch morgais â chyfradd sefydlog neu gyfradd amrywiadwy? Dros oes arferol morgais o 25 mlynedd, mae hwn yn benderfyniad y gallwch chi ddewis ei wneud sawl gwaith, gan newid o forgais cyfradd sefydlog i gyfradd amrywiadwy, neu i'r gwrthwyneb, wrth i chi chwilio am y cynnyrch mwyaf addas i chi bob amser.

Wrth i gyfraddau morgais gynyddu'n gyflym yn 2022, aeth y dewis rhwng cyfradd sefydlog a chyfradd amrywiadwy ar forgais yn llawer llai eglur. Wrth i gyfraddau llog godi, efallai y byddai cyfradd sefydlog yn ddewis amlwg. Ond bydd y cyfraddau sefydlog hyn eisoes wedi ystyried unrhyw gynnydd mewn cyfraddau amrywiadwy a ddisgwylir yn y dyfodol. Os nad ydych yn siwr, siaradwch â threfnydd morgeisi am hyn.

Gwyliwch Fideo 2 ac edrych ar y gwahanol nodweddion sydd gan forgeisi o ran cyfraddau llog, y ffioedd cysylltiedig â nhw, a manteision ac anfanteision gwahanol gynhyrchion. Fe welwch chi fod modd cael sawl math o gynnyrch cyfradd amrywiadwy sydd ychydig yn wahanol.

Ar ôl gwylio'r fideo, mae ambell gwestiwn i chi eu hateb isod.

Cafodd yr adnodd hwn ei greu a’i recordio’n wreiddiol yn Saesneg ar gyfer Academi Arian MSE ac mae ar gael yma [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .

Download this video clip.Video player: Fideo 2 Deall morgeisi
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Fideo 2 Deall morgeisi
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Gweithgaredd 3 Morgeisi cyfradd sefydlog: buddion a risgiau

Timing: Dylech ganiatáu tua 5 munud

Beth yw manteision ac anfanteision morgeisi cyfradd sefydlog?

Rhowch eich sylwadau yn y blwch isod a’u cadw i ddatgelu'r drafodaeth.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Discussion

Mae morgeisi cyfradd sefydlog yn rhoi sicrwydd ynghylch eich taliadau morgais misol oherwydd ni fydd y rhain yn codi yn ystod tymor y gyfradd sefydlog. Mae’r rhain yn ddewis synhwyrol i aelwydydd sydd â chyllidebau tynn a chapasiti cyfyngedig i fforddio cynnydd yn y costau morgais, neu i’r rheini y mae’n well ganddynt gael sicrwydd ynghylch faint bydd eu morgais yn ei gostio.

Sylwch fod cynnyrch cyfradd sefydlog yn para 2 i 5 mlynedd fel arfer; does dim llawer o alw am forgeisi cyfradd sefydlog 10 mlynedd. Dydy cyfraddau sefydlog am gyfnodau hirach erioed wedi cydio yn y DU. Felly, y tebygolrwydd yw mai dim ond am ran gyntaf cyfnod eich morgais y bydd unrhyw gynnig cyfradd sefydlog yn para, nid y cyfnod cyfan, oni bai eich bod ym mlynyddoedd olaf eich morgais ac yn ailforgeisio am y tro olaf.

Mae morgeisi cyfradd sefydlog yn aml yn cynnwys ffi ‘trefnu’ ymlaen llaw (ond mae hyn yn wir am dracwyr a morgeisi disgownt hefyd). Dydy’r rheini sydd ar forgeisi cyfradd sefydlog ddim yn elwa pan mae cyfraddau llog yn gostwng. Hefyd, bydd rhaid i chi dalu ffi ad-dalu cynnar fel arfer os byddwch chi’n ad-dalu’r morgais cyn diwedd ei gyfnod cyfradd sefydlog. Ar ddiwedd y cyfnod cyfradd sefydlog, bydd y morgais fel arfer yn dychwelyd i gyfradd amrywiadwy safonol oni bai fod camau’n cael eu cymryd i symud i gynnyrch morgais arall.

Beth yw manteision ac anfanteision morgeisi cyfradd amrywiadwy (gan gynnwys ‘tracwyr’ a ‘morgeisi disgownt’)?

Rhowch eich sylwadau yn y blwch isod a’u cadw i ddatgelu'r drafodaeth.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Discussion

Bydd morgeisi cyfradd amrywiadwy yn symud i fyny neu i lawr wrth i gyfraddau llog yn yr economi newid – yn enwedig pan mae Banc Lloegr yn symud ei ‘Gyfradd Banc’. Mae’r rheini sydd â’r morgeisi hyn yn elwa pan fydd cyfraddau llog yn gostwng ac ar eu colled pan fydd cyfraddau’n codi. Gall y diffyg sicrwydd hwn achosi problemau gyda chyllidebau aelwydydd. Ar y llaw arall, does dim ffioedd ad-dalu cynnar fel arfer os ydych chi’n ad-dalu eich morgais yn gynnar.

Iawn, mae’n amser cwblhau cwis byr i weld faint rydych chi wedi’i ddysgu hyd yma. Bydd yr adran wedyn yn edrych ar opsiynau eraill a allai fod ar gael i chi er mwyn teilwra eich cynnyrch morgais.