3 Dewisiadau morgais: morgeisi gwrthbwyso, hyblyg a chludadwy
Rydyn ni wedi mynd i’r afael â manteision ac anfanteision morgeisi cyfradd sefydlog a chyfradd amrywiadwy (gan gynnwys tracwyr). Ond, mae eich benthyciwr yn debygol o gynnig dewisiadau pellach am eich cynnyrch morgais. Gall y rhain, i bob pwrpas, deilwra eich morgais i fodloni eich amgylchiadau ariannol a hyd yn oed eich ffordd o fyw.
Gwrandewch ar Glip Sain 1 i gael gwybod mwy am nodweddion arbennig morgeisi.
Cafodd yr adnodd hwn ei greu a’i recordio’n wreiddiol yn Saesneg ar gyfer Academi Arian MSE ac mae ar gael yma [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .
Transcript: Clip Sain 2 Dewisiadau morgais
Rydych chi wedi edrych ar fanteision ac anfanteision morgeisi cyfradd sefydlog a chyfradd amrywiadwy - y ddau gategori sylfaenol ar gyfer cynnyrch morgeisi. Rydych chi wedi edrych ar ‘forgeisi disgownt’ hefyd. Serch hynny, mae rhagor o opsiynau y gallech chi fanteisio arnynt i sicrhau bod y morgais rydych chi’n ei ddewis yn diwallu eich anghenion.
Mae morgeisi gwrthbwyso yn ddiddorol. Os oes gennych arian dros ben - dywedwch yn eich cyfrif cyfredol neu yn eich cyfrif cynilo - gallwch symud hwnnw i fenthyciwr y morgais a'i dynnu o'r swm sy'n ddyledus gennych ar eich morgais cyn cyfrifo llog misol y morgais. Felly, os yw'r gyfradd llog a dderbynnir ar y cyfrif cynilo yn is na'r gyfradd a godir ar y morgais - ac y mae fel arfer - gall hon fod yn fargen dda. Mewn gwirionedd, mae eich cynilion yn ennill llog ar y gyfradd morgais. Fel arfer, gallwch ddal i dynnu'ch cynilion allan - er enghraifft ar gyfer gwyliau neu ansicrwydd bywyd - yna, wrth gwrs, mae'r llog a godir ar y morgais yn cynyddu oherwydd eich bod yn gwrthbwyso llai o'r ddyled.
Mae’r gyfradd llog ar forgais gwrthbwyso fel arfer ychydig yn uwch na’r llog y byddai benthycwyr eraill yn ei godi. Mae a yw'n fargen dda ai peidio yn dibynnu mewn gwirionedd ar faint o gynilion y gallwch chi eu gwrthbwyso. Efallai y byddwch eisiau ystyried morgais hyblyg. Morgais cyfradd amrywiadwy lle gallwch ddewis amrywio eich taliadau misol ac weithiau fenthyg arian yr ydych eisoes wedi'i dalu'n ôl. Yn amlwg, byddai gallu lleihau eich taliadau yn gallu bod yn ddefnyddiol os ydych chi'n mynd drwy gyfnod anodd yn ariannol. Ond mae hyblygrwydd yn dda y ffordd arall hefyd.
Mae'r rhan fwyaf o forgeisi y dyddiau hyn yn gadael i chi dalu mwy os dymunwch. Mae hyn yn golygu eich bod yn talu eich morgais yn gynt ac yn talu llai o log i gyd. Fodd bynnag, mae rhai pobl yn poeni, gyda’r rhyddid i leihau taliadau mewn cyfnodau anodd, na fyddant yn gwthio eu taliadau’n ôl ddigon mewn cyfnodau da. Fel pan fyddwch chi ar wyliau, dydych chi ddim eisiau mynd yn ôl i weithio. Gyda morgais cyfradd sefydlog neu amrywiadwy, byddwch yn talu beth bynnag y mae'r benthyciwr yn dweud wrthych am ei dalu bob mis - ac mae’r diffyg hyblygrwydd yna weithiau'n ddefnyddiol, os ydych chi eisiau yn ddisgybledig am ad-dalu.
Mae angen i chi ei wirio un peth arall hefyd. Ydy’ch morgais yn ‘gludadwy’? Mae hyn yn golygu, os byddwch chi’n gwerthu’ch eiddo ac yn symud i eiddo newydd rydych chi’n ei brynu, eich bod yn gallu mynd â’ch morgais presennol gyda chi i’ch helpu i ariannu eich pryniant newydd. Mae hyn yn gwneud y pryniant nesaf yn symlach – ond, cofiwch, efallai y bydd angen i chi ychwanegu at y morgais er mwyn cyrraedd y pris gofyn. I’r gwrthwyneb, os nad yw’ch morgais yn gludadwy, byddai’n rhaid i chi ad-dalu'r morgais ar eich eiddo presennol a chael morgais cwbl newydd i’ch galluogi chi i brynu eich cartref newydd – a allai olygu bod angen i chi dalu’r tâl ad-dalu cynnar i allu dod allan o’r morgais.
Mae’r adran nesaf yn edrych mewn rhagor o fanylder ar sut gallwch chi fod yn rhagweithiol wrth reoli’r morgais rydych chi wedi'i ddewis.