4.1 Symud i gynnig arall
Mae tua 4 o bob 10 trafodyn morgais yn ymwneud â phobl yn ailforgeisio eu heiddo presennol heb symud tŷ ar yr un pryd. Mae symud tŷ yn debygol iawn o sbarduno cynnig morgais newydd hefyd – yn sicr pan nad yw’r morgais yn gludadwy o un eiddo i’r llall. Ond swm yr ailforgeisio sy’n amlygu’r ffaith ei bod weithiau’n gwneud synnwyr newid i gynnig morgais newydd, ac efallai symud at fenthyciwr newydd hefyd.
Un peth sy’n peri i rywun ailforgeisio yw pan mae cynnig morgais yn dod i ben. Mae’n arferol i gyfradd morgais newid yn ddiofyn i Gyfradd Amrywiadwy Safonol (SVR) y benthyciwr oni bai fod y sawl sy’n benthyca ganddo’n gweithredu. Yn gyffredin, dylid gweithredu oherwydd mae morgeisi SVR yn tueddu i fod yn ddrud – yn sicr o’u cymharu â morgeisi cyfradd sefydlog, disgownt neu ‘draciwr’.
Dylai'r holl fenthycwyr ar Gyfraddau Amrywiadwy Safonol ystyried a ydynt yn gallu dod o hyd i rywbeth gwell. Ni ddylai morgais gael ei ystyried yn gynnyrch mae’n rhaid i chi aros gydag ef nes daw'r cyfnod i ben, a bod yr arian wedi cael ei ad-dalu i’r benthyciwr. Gan mai hwn yw alldaliad rheolaidd mwyaf y rhan fwyaf o aelwydydd, dylid manteisio ar bob cyfle i newid i gynllun newydd os yw’n gwneud synnwyr yn ariannol. Oherwydd bod cyfraddau llog yn newid dros amser, mae cyfleoedd yn debygol o godi i leihau cost eich morgais.