5 Costau eraill cysylltiedig â phrynu eiddo
Nid cael y morgais a gallu ei ad-dalu yw'r unig bethau i’w hystyried. Mae llawer o gostau ychwanegol y byddwch chi’n eu hwynebu wrth fynd ati i brynu eich cartref newydd.
I ddangos i chi sut gallai’r costau hyn gronni, gadewch i ni dybio eich bod yn prynu eiddo am £220,000 yn Lloegr – sy’n agos at gost gyfartalog eiddo yn y DU.
Pa gostau ydych chi’n eu hwynebu os nad ydych chi’n brynwr tro cyntaf ac os mai’r eiddo fydd eich cartref (eich ‘prif breswylfa’)?
- Ffi trefnu morgais (cyffredin ymysg morgeisi cyfradd sefydlog a disgownt, a rhai cynhyrchion eraill): £500, dyweder.
- Costau cyfreithiol gan gynnwys chwiliadau lleol a ffi’r Gofrestrfa Tir: £800.
- Arolwg a phrisiad: £350.
- Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT) £1,900.
- Costau symud: dyweder, £700.
- CYFANSWM TERFYNOL: £4,250.
Efallai y codir ffi gan frocer y morgais hefyd os ydych wedi defnyddio un i'ch helpu i ddewis a threfnu'r morgais. Mae rhai costau yn codi o gael morgais – y ffi trefnu yn benodol – yn gallu cael eu hychwanegu at y morgais, yn amodol ar gymeradwyaeth y benthyciwr. Fodd bynnag, bydd rhaid talu'r costau eraill ymlaen llaw.
Y costau eraill sy’n gysylltiedig â thrafodion eiddo yw’r ffioedd sy’n daladwy i’r asiant eiddo (os defnyddir un) a'r ffi i gael Tystysgrif Perfformiad Ynni mewn perthynas ag eiddo. Mae’r costau hyn, fodd bynnag, yn cael eu hysgwyddo gan y sawl sy’n gwerthu’r eiddo yn hytrach na'r prynwr.
Mae Blwch 1 yn esbonio Treth Dir y Dreth Stamp mewn rhagor o fanylder.
Blwch 1 Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT)
Dyma oedd cyfraddau ymylol Treth Dir y Dreth Stamp ar eiddo preswyl a brynir yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yn 2022/23:
- hyd at £125,000, 0%
- £125,001 - £250,000, 2%
- £250,001 - £925,000, 5%
- £925,001 - £1.5 miliwn, 10%
- dros £1.5 miliwn, 12%.
Sylwch fod prynwyr tro cyntaf wedi’u heithrio rhag talu Treth Dir y Dreth Stamp ar gyfer eiddo hyd at £300,000, ac ar gyfradd is o 5% ar gyfer swm mwy na £300,000 hyd at uchafswm o £500,000. Dydy pryniannau dros £500,000 ddim yn gymwys ar gyfer rhyddhad Treth Dir y Dreth Stamp. Hefyd, nodwch fod gordal o 3% yn gymwys os nad yw’r eiddo yn cael ei brynu fel ‘prif breswylfa’.
Yng Nghymru y dreth gyfatebol i dreth dir y dreth stamp yw Treth Trafodiadau Tir (LTT) ac yn yr Alban y dreth gyfatebol yw Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (LBTT). Mae gan Senedd Cymru a Senedd yr Alban y pŵer i osod eu cyfraddau eu hunain ar gyfer y trethi cyfatebol hyn, ac maent yn gwneud hynny.
Mae'r adran nesaf yn adolygu’r amrywiaeth o risgiau a heriau sy’n gysylltiedig â morgais. Bydd yn edrych ar sut mae angen ymgorffori ffyrdd o ymdopi â chostau morgais yn nulliau rheoli arian ehangach aelwydydd.