Sesiwn 4: Deall morgeisi
Cyflwyniad
Croeso i Sesiwn 4 y cwrs am ddim yma gan y Brifysgol Agored. Yn y sesiwn hon, byddwch yn canolbwyntio ar forgeisi – sef benthyciadau a ddefnyddir i brynu cartrefi.
Transcript: Fideo 1 Cyflwyniad i Sesiwn 4
Gwrandewch ar neges Martin Lewis yn Gymraeg isod.
Transcript: Clip Sain 1 Cyflwyniad i Sesiwn 4
Mae’r sesiwn hon yn edrych ar y cynnyrch morgeisi sydd ar gael ym marchnad y DU – eu cyfraddau llog a’u nodweddion eraill – ac yn archwilio'r ffactorau sy’n cyfrannu at wneud dewisiadau da o blith yr amrywiaeth o gynnyrch. Mae’n esbonio pam a sut gall morgeisi gael eu rheoli’n weithredol gan fenthycwyr drwy opsiynau fel gordalu, gwrthbwyso ac ailforgeisio.
Ar ôl y lefelau isaf erioed yn hanesyddol yn ystod pandemig COVID-19, mae cyfraddau llog yma yn y DU ac mewn gwledydd eraill dros y byd i gyd wedi cynyddu'n gyflym ers 2021 mewn ymateb i gynnydd sydyn yn chwyddiant prisiau. Mae hyn, yn anochel, wedi arwain at gyfraddau morgais cynyddol hefyd.
Mae’r sesiwn hefyd yn edrych ar y morgeisi o safbwynt y benthycwyr, gan gynnwys y ffactorau sy’n effeithio ar eu penderfyniadau ynghylch benthyca arian ar gyfer morgais.
Drwy gwblhau’r sesiwn, byddwch yn dod i ddeall mwy am y farchnad forgeisi, ond hefyd yn dod yn fwy hyderus wrth wneud penderfyniadau doeth am un o feysydd pwysicaf cyllid personol.
Erbyn diwedd y sesiwn, fe ddylech chi fod yn:
- deall sut mae banciau a benthycwyr eraill fel cymdeithasau adeiladu yn gwneud penderfyniadau am ddarparu morgeisi
- gwybod am y gwahanol fathau o gynnyrch morgais sydd ar gael a'r cyfraddau llog sy’n berthnasol iddynt
- gwybod am fuddion rheoli’ch morgais yn rhagweithiol – er enghraifft, drwy symud o un cynnyrch i un arall o bryd i’w gilydd
- deall y costau amrywiol sy’n gysylltiedig â phrynu eiddo
- gwybod pa risgiau sy’n gysylltiedig â chael morgais a sut mae rheoli'r rhain.
Bydd yr adran gyntaf yn edrych ar y ffactorau sy’n pennu faint y bydd benthycwyr yn ei ddarparu pan fyddwch chi’n gwneud cais am forgais.
Mae’r Sesiwn hon yn un o gyfres sy’n creu cwrs Academi Arian MSE a bu’n bosibl ei wireddu drwy gyfraniadau ariannol a chynnwys gan MoneySavingExpert.com.