Sesiwn 5: Cynilo a buddsoddi
Cyflwyniad
Croeso i’r sesiwn hon ar gynilion a buddsoddiadau, a gynhyrchwyd gan y Brifysgol Agored mewn cydweithrediad â MoneySavingExpert.com.
Transcript: Fideo 1 Cyflwyniad i Sesiwn 5
Gwrandewch ar neges Martin Lewis yn Gymraeg isod.
Transcript: Clip Sain 1 Cyflwyniad i Sesiwn 5
Mae’r sesiwn yn edrych ar sbectrwm cyfrifon cynilo a chynnyrch buddsoddi. Mae’n dechrau drwy edrych ar bwysigrwydd cyfrifon cynilo a’r llu o wahanol gynnyrch sydd ar gael.
Byddwch wedyn yn edrych ar y gwahanol fathau o gynnyrch buddsoddi fel cyfranddaliadau (neu ‘ecwiti’), bondiau, eiddo a nwyddau (fel aur ac arian). Byddwch hefyd yn edrych ar fath cymharol newydd o fuddsoddiad: benthyca ‘cymar-i-gymar’.
Erbyn diwedd y sesiwn, fe ddylech chi allu:
- deall prif nodweddion gwahanol gynnyrch cynilo
- gallu nodi’r cynnyrch cynilo sy’n cyd-fynd â’ch rhesymau dros gynilo
- deall y gwahanol fathau o fuddsoddiadau, fel cronfeydd, cyfranddaliadau a bondiau
- cydnabod y mân risgiau sy’n gysylltiedig â chyfrifon cynilo a’r risgiau sylweddol posibl (ond canlyniadau gwerth chweil o bosibl hefyd) sy’n gysylltiedig â buddsoddi
- gwybod ble i fynd i gael help wrth ystyried buddsoddiadau.
Cofiwch fod y sesiwn hon yn ymdrin ag un o’r agweddau mwyaf peryglus ar gyllid personol: buddsoddi. O’r herwydd, dylid ystyried yr wybodaeth yma fel canllaw addysgol yn unig. Cyn gwneud penderfyniadau buddsoddi – rhai mawr yn sicr – dylech ofyn am gyngor o ystyried y risg o golled ariannol bosibl y gallech fod yn gosod eich hun yn ei llwybr.
Mae’r Sesiwn hon yn un o gyfres sy’n creu cwrs Academi Arian MSE a bu’n bosibl ei wireddu drwy gyfraniadau ariannol a chynnwys gan MoneySavingExpert.com.