Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1 Sut mae gwariant yn newid yn nes ymlaen mewn bywyd?

Mae deall faint o incwm fydd ei angen arnoch chi ar ôl ymddeol yn golygu bod angen i chi gael amcan da o faint rydych chi’n disgwyl ei wario. Efallai fod hyn yn ymddangos yn rhywbeth anymarferol oherwydd bod eich dyddiad ymddeol sawl blwyddyn, neu hyd yn oed ddegawdau, i ffwrdd. Yn ystod y blynyddoedd hyn, bydd prisiau nwyddau a gwasanaethau yn newid. Fodd bynnag, mae’n bosibl blaengynllunio drwy ddefnyddio prisiau cyfredol nwyddau a gwasanaethau, os tybir y bydd yr incwm pensiwn a gewch yn y dyfodol yn codi yn unol â chwyddiant prisiau yn fras.

Ffotograff o gwpl (iau) wedi ymddeol yw’r ffigur – dyn a menyw yn gwenu ac yn mwynhau eu hunain wrth gerdded o gwmpas harbwr. Mae cychod i'w gweld yn y cefndir.
Ffigur 1 Beth yw’ch cynlluniau ar gyfer eich ymddeoliad?

Pan fyddwch chi’n amcangyfrif gwariant, mae angen i chi benderfynu a ydych chi’n edrych ar yr unigolyn neu’r aelwyd. Perygl seilio eich cynllun ymddeol ar yr aelwyd yw bod llawer o aelwydydd yn newid dros amser, er enghraifft, wrth i gyplau wahanu, wrth i blant dyfu i fyny, wrth i aelodau o’r teulu a ffrindiau benderfynu rhannu cartref neu adael, neu wrth i bobl farw.

Yn draddodiadol, mae partneriaid wedi defnyddio dull yr aelwyd. Fodd bynnag, mae’r cynlluniau ar gyfer ymddeoliad sy’n deillio o hynny wedi bod yn annigonol wrth wynebu marwolaeth, ysgariad neu wahanu. Dyma un o’r prif resymau pam mae menywod yn cyfrif am gyfran mor uchel o’r pensiynwyr tlotaf heddiw.

Mantais cynllun ymddeol ar sail yr unigolyn yw bod gan bob aelod o’r aelwyd eu trefniadau pensiwn eu hunain, y maent yn eu cadw hyd yn oed os bydd cyfansoddiad eu haelwyd yn newid.

Gellir amcangyfrif gwariant ar ôl ymddeol o lefel a phatrwm gwariant presennol yr unigolyn neu’r aelwyd. Ac eto, fel y gwelwch yn y rhestr isod, mae rhai rhesymau da dros gredu y gall gwariant ar ôl ymddeol fod yn wahanol i wariant wrth weithio, ac y gall anghenion gwario yn fuan ar ôl ymddeol fod yn wahanol i’r rhai yn ddiweddarach.

  • Erbyn iddynt ymddeol, bydd y rhan fwyaf o berchnogion tai – ond dim pob un – wedi gorffen talu unrhyw forgais, felly efallai y bydd y swm y mae’r pensiynwyr hyn yn ei wario ar dai yn gostwng.
  • Mae pensiynwyr yn aml yn treulio mwy o amser gartref, felly gallai biliau nwy a thrydan godi.
  • Bydd arbedion ar gostau cysylltiedig â gwaith megis cyfraniadau pensiwn a chymudo.
  • Efallai y bydd mwy o deithio i weld ffrindiau a pherthnasau, ond mae pensiynwyr yn aml yn gymwys i gael teithio rhatach neu deithio am ddim, yn enwedig ar drafnidiaeth gyhoeddus.
  • Efallai y bydd pensiynwyr yn gwario mwy ar wyliau, yn enwedig ar ôl ymddeol yn gynnar, ond efallai y byddant yn arbed arian drwy fynd i ffwrdd yn ystod cyfnodau tawelach.

Yn ddiweddarach yn ystod eu hymddeoliad, efallai y bydd yn rhaid i bensiynwyr wario llawer mwy ar eitemau sy’n gysylltiedig ag iechyd megis cymorth gyda gofal personol.

Gweithgaredd 1 Gwario yn ystod ymddeoliad

Timing: Dylech ganiatáu tua 5 munud.

Meddyliwch am eich gwariant cyfredol eich hun. Sut gallai eich gwariant chi newid pan fyddwch chi’n cyrraedd oed ymddeol (neu, os ydych chi eisoes wedi ymddeol, dros y deng mlynedd nesaf)?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Discussion

Gallai eich gwariant newid oherwydd rheidrwydd a dewis, fel y gwelsoch yn y rhestr. Un peth i’w gofio yw mai amcangyfrifon yn unig yw’r rhain – ni all neb fod yn sicr o’r gwariant y bydd angen iddynt ei wneud ar ôl ymddeol, oherwydd gall amgylchiadau personol ar y pryd fod yn wahanol i’r rhai a ragwelir ymlaen llaw.

Gallwch chi hefyd ddefnyddio’r grid cyllid mae modd ei lawrlwytho [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]   i ddechrau adeiladu eich gwariant a’ch incwm disgwyliedig yn ystod eich ymddeoliad. Cyfrifwch eich gwariant presennol yn gyntaf, wedyn ei addasu ar gyfer eich bywyd ar ôl ymddeol gan ddefnyddio’r rhestr uchod i’ch arwain.

A chithau wedi paratoi eich rhagolygon gwario, y cam nesaf yw edrych i weld pa drefniadau pensiwn sydd gennych chi ar waith eisoes, faint o incwm y disgwylir i’r rhain ei gynhyrchu erbyn yr oed ymddeol o'ch dewis, ac a yw’r incwm arfaethedig yma’n ddigon i dalu am eich gwariant disgwyliedig.

Yn yr adran nesaf, byddwch yn dechrau amcangyfrif eich incwm pensiwn drwy edrych ar faint o bensiwn y wladwriaeth rydych chi’n disgwyl ei gael.