Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2 Pensiynau’r wladwriaeth

Talwyd pensiynau ymddeol y wladwriaeth am y tro cyntaf yn y DU ym 1908. Cafodd y rhain eu gwella yn Neddf Yswiriant Gwladol 1946 a gyflwynodd bensiynau gwladol cyffredinol cyfradd unffurf (o 1948 ymlaen).

Delwedd o bobl yn dal placardiau mewn protest.
Ffigur 2 Faint o bensiwn y wladwriaeth fyddwch chi’n ei gael... a phryd byddwch chi’n ei gael?

Er bod datblygiadau amrywiol wedi cael eu gwneud ers hynny, un agwedd ar bolisi yw cyfyngu gwariant cyhoeddus ar bensiynau’r wladwriaeth, o ystyried mai dyma’r eitem unigol fwyaf o wariant y llywodraeth.

Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cynyddu’n raddol yr oedran pryd y caiff pobl dderbyn eu pensiwn gwladol, i gyrraedd 67 mlwydd oed yn 2028 a 68 mlwydd oed ganol y 2030au, gyda chynnydd pellach yn debygol. Un o nodau’r symudiadau hyn yw na ddylid treulio mwy na thraean o fywyd oedolyn ar gyfartaledd ar ôl ymddeol. Felly po hiraf y mae’r boblogaeth yn byw ar gyfartaledd, yr uchaf fydd oedran pensiwn y wladwriaeth.

Mae dau gynllun pensiwn y wladwriaeth ar waith yn y DU. Yr ‘hen’ gynllun ar gyfer y rheini a gyrhaeddodd oedran pensiwn y wladwriaeth cyn mis Ebrill 2016, a’r cynllun pensiwn newydd, ‘cyfradd unffurf’ fel y’i gelwir, ar gyfer y rheini sy’n cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth o fis Ebrill 2016 ymlaen.

Yr hen gynllun (cyn mis Ebrill 2016)

Mae dwy ran i'r 'hen’ gynllun:

  • Pensiwn sylfaenol y wladwriaeth sy’n cael ei dalu ar gyfradd safonol (£141.85 yr wythnos i berson sengl yn 2022/23). Efallai y bydd y rheini nad oes ganddynt hawl i hen bensiwn (‘sylfaenol’) y wladwriaeth, neu sydd â hawl i lai na’r swm llawn, yn cael £85 ychwanegol yr wythnos, yn amodol ar gofnod Cyfraniadau Yswiriant Gwladol eu gŵr/gwraig/partner sifil.
  • Pensiwn ychwanegol y wladwriaeth (neu ail bensiwn y wladwriaeth). Mae hwn wedi’i gyfyngu i weithwyr yn bennaf. Cafodd ei gyflwyno am y tro cyntaf yn 1978, pan oedd yn cael ei alw’n Gynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar sail Enillion (SERPS).

Y cynllun newydd (o Ebrill 2016 ymlaen)

O fis Ebrill 2016 ymlaen, ar gyfer y rhai sydd newydd gyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth (SPA) mae pensiynau sylfaenol ac ychwanegol y wladwriaeth wedi cael eu disodli gan un pensiwn cyfradd unffurf (yn 2022/23, £185.15 yr wythnos ar gyfer person sengl). Fel yr esbonnir isod, dydy pensiwn newydd y wladwriaeth ddim yn un ‘cyfradd safonol’ mewn gwirionedd, oherwydd ni fydd pawb yn cael y swm llawn.

Mae hyn oherwydd bod yr hawl i gael pensiwn sylfaenol y wladwriaeth yn dibynnu ar dalu, neu gael eich credydu â Chyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) (a delir gan weithwyr a'r hunangyflogedig) yn ystod bywyd gwaith. Rhoddir credydau am gyfnodau penodol heb fod mewn gwaith, megis bod yn sâl, yn ddi-waith neu ofalu am blant.

Mae llawer o bobl wedi cael eu ‘hesgusodi’ o bensiwn ychwanegol y wladwriaeth, sy’n golygu bod y rhan hon o’u pensiwn gwladol wedi cael ei disodli gan gynllun pensiwn personol neu gynllun gweithle yn gyfnewid am Gyfraniadau Yswiriant Gwladol wedi’u lleihau neu eu had-dalu. Mae hyn yn lleihau faint o bensiwn y wladwriaeth mae ganddynt hawl iddo.

Roedd angen i bobl a oedd yn cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010 gael Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) ar gyfer oddeutu naw rhan o ddeg o’u bywyd gwaith er mwyn cael ‘hen’ bensiwn sylfaenol y wladwriaeth yn llawn. Cafodd hyn ei newid i gofnod o 30 mlynedd o gyfraniadau wedyn.

Ar gyfer pensiwn ‘newydd’ y wladwriaeth, mae’r cofnod cyfraniadau gofynnol i gael y swm llawn yn 35 mlynedd. Rydych chi’n cael pensiwn llai os yw’ch cofnod o gyfraniadau YG a dalwyd yn fyrrach na hynny. Mae hefyd angen i chi fod wedi talu o leiaf 10 mlynedd o gyfraniadau i gael unrhyw bensiwn y wladwriaeth o gwbl.

O 2011 ymlaen, mae pensiwn sylfaenol y wladwriaeth wedi cynyddu bob blwyddyn gyda’r uchaf o un ai chwyddiant enillion, chwyddiant prisiau neu 2.5%. Ar yr amod bod y polisi hwn, sy’n cael ei alw’n ‘glo triphlyg’ yn cael ei gadw – a bod rhywfaint o amheuaeth ynghylch hyn – dylai’r pensiwn sylfaenol gadw ei werth mewn perthynas ag enillion, neu godi ychydig yn gyflymach hyd yn oed.

Un dewis sydd gan y rheini sydd ar fin cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth yw gohirio’r dyddiad maent yn dechrau cael y pensiwn. Am bob naw wythnos y caiff ei ohirio, mae faint o bensiwn y wladwriaeth a delir yn codi 1%. Gallai hwn fod yn opsiwn deniadol i’r rheini sy’n bwriadu parhau i weithio y tu hwnt i oedran pensiwn y wladwriaeth.