Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.1 Faint mae pensiwn y wladwriaeth yn ymestyn?

Ffotograff o ddyn hŷn yn cael torri ei wallt mewn siop barbwr yw'r ffigur.
Ffigur 3 Fel pensiynwr, gallech chi fod â hawl i gael llawer o wasanaethau am brisiau llai.

Yn 2022/23, asesiad llywodraeth y DU o’r isafswm incwm wythnosol sy’n ofynnol gan bensiynwyr yw £182.60 ar gyfer person sengl a £278.72 ar gyfer cwpl (boed yn briod ai peidio) (Age UK, 2022). O ganlyniad i hynny, ar y mwyaf, dim ond tri chwarter yr incwm lleiaf a ystyrir yn angenrheidiol i bensiynwr sengl oedd ‘hen’ bensiwn y wladwriaeth. Felly, bydd angen i unrhyw un sy’n dibynnu’n llwyr ar ‘hen’ bensiwn y wladwriaeth hawlio ychwanegiad ar sail prawf modd. Gall budd-daliadau ymddeol sy’n seiliedig ar brawf modd atal cynilo ar gyfer ymddeol oherwydd mae cronni pensiwn preifat bach yn lleihau swm y budd-daliadau y gellir eu hawlio.

Bwriad newid i gynllun cyfradd safonol o fis Ebrill 2016 ymlaen, sy’n uwch na phensiwn sylfaenol y wladwriaeth o dan yr ‘hen’ gynllun, yw sicrhau bod llai o bensiynwyr y wladwriaeth yn cael llai o incwm nag y mae ei angen arnynt. O ganlyniad, bydd angen i lai o bensiynwyr hawlio budd-daliadau prawf modd a bydd llai o ddatgymhelliad i gynilo ar gyfer ymddeol.

Os yw’r rheini sydd ar bensiwn y wladwriaeth yn gweld bod eu hincwm yn llai na’r safonau isaf a nodir uchod, y cam nesaf yw hawlio credyd pensiwn. Yn anffodus, dydy llawer iawn o bobl sydd â hawl i gredyd pensiwn ddim yn ei hawlio, sy’n golygu eu bod yn colli allan ar yr incwm ychwanegol mae’n ei ddarparu, yn ogystal â mynediad at fuddion gwladol eraill sy’n dod yn ei sgil. Mae dolen i fwy o wybodaeth am gredyd pensiwn i'w gweld ar ddiwedd y sesiwn hon.

Gweithgaredd 2 Faint o bensiwn y wladwriaeth ydych chi’n disgwyl ei gael?

Timing: Dylech ganiatáu tua 10 munud

Edrychwch ar eich cofnod o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Faint o flynyddoedd ydych chi’n disgwyl y byddwch wedi’u cronni erbyn yr amser mae gennych chi hawl i gael pensiwn y wladwriaeth? Mae gwefan y llywodraeth YouGov [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] yn gallu’ch helpu chi i wirio eich blynyddoedd o gyfraniadau, ac mae’r gyfrifiannell hon gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol a Phensiynau yn gwneud yr un fath.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Discussion

Mae’r hawl i gael pensiwn y wladwriaeth yn gysylltiedig â'ch cofnod o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG). Ar hyn o bryd, mae angen 35 mlynedd o gyfraniadau i gael pensiwn llawn y wladwriaeth o dan y cynllun ‘newydd’ a ddechreuodd yn 2016. Sylwch y rhoddir credydau am gyfnodau penodol heb fod mewn gwaith, megis bod yn sâl, yn ddi-waith neu ofalu am blant.

Cofiwch ystyried y blynyddoedd y gallech chi fod wedi’ch ‘esgusodi’ o gyfraniadau tuag at bensiwn y wladwriaeth. Mae hyn fel arfer yn berthnasol i'r rheini mewn cynlluniau pensiwn galwedigaethol a ddarperir gan gyflogwyr.

Hyd yn oed os ydych chi’n cael pensiwn ‘cyfradd safonol’ llawn y wladwriaeth, dim ond incwm blynyddol o £9,628 yw hwn ar hyn o bryd (2022/23). Dydy hyn yn amlwg ddim yn ddigon i gael ymddeoliad cyfforddus.

Gyda gobaith, bydd gennych chi gynllun pensiwn personol neu alwedigaethol i ychwanegu at yr hyn y bydd y wladwriaeth yn ei ddarparu. Byddwch yn dechrau edrych ar y rhain nesaf, gan ddechrau gyda chynlluniau galwedigaethol.