3 Cynlluniau pensiwn galwedigaethol
Fel mae’r term yn ei awgrymu, mae cynlluniau pensiwn galwedigaethol yn cael eu cynnig i staff gan eu cyflogwyr.
Mae dau fath o gynllun galwedigaethol:
- Cynlluniau cyfraniadau wedi’u diffinio (a elwir hefyd yn gynlluniau prynu arian). Y cynlluniau hyn yw’r rhai mwyaf cyffredin y dyddiau hyn. Gyda’r rhain, bydd beth rydych chi’n ei gael o’ch pensiwn yn dibynnu ar faint y gronfa bensiwn (neu’r ‘pot’) y byddwch chi’n ei chronni.
- Cynlluniau pensiwn â buddion wedi'u diffinio. Does dim llawer o’r rhain ar agor i bobl newydd sy’n ymuno nawr, oherwydd maen nhw’n ddrud i gwmnïau eu rhedeg. Gyda chynlluniau pensiwn â buddion wedi'u diffinio, mae maint eich pensiwn blynyddol wedi'i gysylltu â’ch cyflog fel arfer – er enghraifft, y cyflog yn eich blwyddyn olaf cyn ymddeol, neu’ch cyflog cyfartalog yn ystod eich cyfnod fel aelod o’r cynllun. Dylai’r rheini sy’n ddigon ffodus i fod ag un eisoes gydnabod bod y rhain yn bensiynau euraidd, oherwydd y rhain sy’n tueddu i dalu’r mwyaf o arian.
Os ydych chi’n dechrau pensiwn nawr, mae’n debygol iawn y bydd rhaid i chi fynd am gynllun â chyfraniadau wedi’u diffinio. A dweud y gwir, mae aelodaeth cynlluniau o'r fath wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, oherwydd bod dim modd i aelodau newydd ymuno â chynlluniau buddion wedi'u diffinio, ac yn sgil y polisi ‘cofrestru awtomatig’ ar gyfer cynlluniau pensiwn (byddwch yn edrych ar gofrestru awtomatig yn nes ymlaen yn y sesiwn hon). Yn 2018 roedd naw gwaith yn fwy o weithwyr yn aelodau gweithredol o gynlluniau â chyfraniadau wedi'u diffinio yn y sector preifat na nifer y rheini mewn cynlluniau â buddion wedi’u diffinio (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2019b).
Gwyliwch Fideo 2 i ddysgu am y gwahaniaethau rhwng y ddau gynllun, wedyn rhowch gynnig ar y gweithgaredd isod.
Cafodd yr adnodd hwn ei greu a’i recordio’n wreiddiol yn Saesneg ar gyfer Academi Arian MSE ac mae ar gael yma [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .

Transcript: Fideo 2 Deall cynlluniau pensiwn
Gweithgaredd 3 Pwy sy’n ysgwyddo’r risg gyda phensiynau?
Ar ôl gwylio Fideo 2, pwy, yn eich barn chi, sy’n ysgwyddo'r risg gyda phensiwn sy’n cael ei ddarparu o dan:
- cynllun â buddion wedi'u diffinio?
- cynllun â chyfraniadau wedi’u diffinio?
Discussion
Gyda chynllun â buddion wedi’u diffinio, mae’r cyflogwr yn gwneud addewid ynghylch swm y pensiwn y bydd gweithiwr yn ei gael. Caiff hyn ei bennu drwy hafaliad cysylltiedig ag enillion y gweithiwr a nifer y blynyddoedd mae wedi bod yn aelod o’r cynllun. Felly, y cyflogwr sy’n ysgwyddo’r risg.
Gyda chynlluniau â chyfraniadau wedi’u diffinio, mae’r risg yn cael ei hysgwyddo gan y gweithiwr. Dydy’r cyflogwr ddim yn gwneud unrhyw addewid penodol o ran pensiwn. Bydd y pensiwn y mae modd ei gael yn gysylltiedig â maint cronfa bensiwn y gweithiwr pan mae’n ymddeol – rhywbeth nad oes modd ei raagweld gyda sicrwydd.
Mae cynlluniau â chyfraniadau wedi’u diffinio hefyd yn llai costus i gyflogwyr oherwydd bod y rhan fwyaf yn talu llawer llai i’r math hwn o gynllun nag y byddent yn ei wneud i gynllun â buddion wedi’u diffinio. Mae hyn yn golygu gostyngiad yn yr arian sy’n mynd i gronfa bensiwn unigolyn, sy’n lleihau’r pensiwn sy’n deillio o hynny yn y pen draw.