Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.1 Cynlluniau galwedigaethol: symud i bensiynau cyflog cyfartalog

Lle bônt yn dal ar agor, mae cynlluniau â buddion wedi'u diffinio yn symud yn fwyfwy oddi wrth gynlluniau ‘cyflog terfynol’ tuag at y rheini sydd wedi’u cysylltu ag enillion aelod o’r cynllun mewn ffordd wahanol. Un enghraifft gyffredin yw pensiynau seiliedig ar ‘enillion cyfartalog gyrfa wedi’u hailbrisio’ (CARE). Mae hyn wedi bod yn berthnasol i weithwyr yn y sector cyhoeddus yn enwedig. Mae hyn yn golygu bod y pensiwn yn seiliedig ar gyflog cyfartalog dros yr holl flynyddoedd yn y cynllun, ar ôl addasu cyflog pob blwyddyn am chwyddiant rhwng yr amser y cafodd ei ennill a’r unigolyn yn ymddeol neu’n gadael y cynllun. Mae’r mesur hwn yn disodli’r cyflog terfynol wrth gyfrifo’r pensiwn sy’n daladwy.

Histogram bloc yw’r ffigur, sy’n dangos y cyferbyniad rhwng cyflog terfynol a cyflog cyfartalog gyrfa ar gyfer y rheini sydd â gwahanol lwybrau gyrfa yn y proffesiwn addysgu. I rywun sy’n aros yn athro drwy gydol ei yrfa, does dim llawer o wahaniaeth rhwng pensiwn cyflog terfynol a phensiwn cyfartaledd gyrfa. I rywun sy’n cael ei ddyrchafu o fod yn athro i fod yn bennaeth – sy’n golygu cynnydd mwy sylweddol mewn cyflog – mae pensiwn cyfartaledd gyrfa yn is na phensiwn cyflog terfynol.
Ffigur 4 Cyflogau a phensiynau, yn seiliedig ar yrfa 40 mlynedd (Cliciwch i ehangu [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] )

Gweithgaredd 4 Cynlluniau enillion cyfartalog gyrfa wedi’u hailbrisio (CARE) a’r gost i’r llywodraeth

Timing: Dylech ganiatáu tua 5 munud

Sut ydych chi’n meddwl y bydd symud o gynlluniau cyflog terfynol i gynlluniau CARE i weithwyr y sector cyhoeddus yn gallu helpu i leihau’r gost mae’r llywodraeth yn ei hysgwyddo yn sgil darparu pensiynau?

Pa weithwyr allai elwa a pha rai allai golli o newid o’r fath? Er mwyn eich helpu i ddod o hyd i enillwyr a chollwyr, cymerwch broffesiwn fel addysgu fel enghraifft.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Discussion

Bydd defnyddio cyflog cyfartalog gyrfa i bennu pensiwn taladwy blynyddol yn lleihau'r gost i’r llywodraeth oherwydd, hyd yn oed gydag addasiadau chwyddiant, mae cyflog cyfartalog gyrfa fel arfer yn llai na’r cyflog ym mlwyddyn olaf cyflogaeth.

Gallai gweithwyr y mae eu cyflog yn tueddu i fod ar ei uchaf yng nghanol gyrfa elwa o newid, tra byddai gweithwyr y mae eu cyflog yn tueddu i gyrraedd uchafbwynt tua diwedd eu gyrfa ar eu colled. Felly, yn yr enghraifft o athrawon, byddai person a gyrhaeddodd swydd pennaeth ar ei golled o safbwynt cymharol o ganlyniad i’r newid hwn.

Mae’r rhan fwyaf o weithwyr yn debygol o fod ar eu colled drwy symud i gynlluniau cyfartaledd gyrfa – ond o safbwynt cymharol, y rheini a fydd fwyaf ar eu colled fydd y rheini sydd wedi cael y cynnydd mwyaf yn eu cyflog yn ystod eu gyrfa, o ganlyniad i ddyrchafiadau a dringo’r ysgol yrfa.