3.2 Cynlluniau galwedigaethol: fel cael codiad cyflog
Nawr mae’n rhaid i bob cyflogwr gofrestru ei weithwyr cymwys – y rheini sy’n 22 oed neu’n hŷn ac yn ennill o leiaf £10,000 y flwyddyn – ar gynllun pensiwn yn y gweithle yn awtomatig. Efallai mai cynllun galwedigaethol y cyflogwr fydd hwn, neu gynllun arall (yn enwedig mewn busnesau bach).
Os nad yw gweithwyr eisiau cael eu cofrestru ar gyfer y cynllun pensiwn yn y gweithle a gynigir gan eu cyflogwyr, rhaid iddynt gymryd camau i optio allan. O ganlyniad i’r trefniant hwn, mae inertia yn arwain at weithwyr yn cael eu cofrestru ar gyfer y cynllun pensiwn (ac yn aros arno). Mae cofrestru awtomatig wedi arwain at gynnydd enfawr yng nghyfran y gweithwyr sy’n rhan o gynlluniau pensiwn – cododd o 47% o weithwyr yn 2012 (pan ddechreuodd cofrestru awtomatig) i 77% yn 2017 (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2019).
Mae cofrestru awtomatig yn fenter bwysig i gael pobl i gyfrannu at gynllun pensiwn, er y bu peth beirniadu ynghylch graddfa’r ffioedd a godir ar y rhai sydd wedi cofrestru ar gynlluniau.
Un o fuddion mawr pensiwn yn y gweithle yw bod rhaid i’r cyflogwr gyfrannu at y pensiwn. O dan y drefn cofrestru awtomatig, mae’n rhaid i'r cyflogwr gyfrannu o leiaf 3% o’ch cyflog (gyda rhai cyfyngiadau), sydd ychydig fel cael codiad cyflog – ond ni fyddwch yn gweld yr arian nes byddwch chi’n dechrau ei dynnu o’ch pensiwn yn nes ymlaen yn eich bywyd. Rhaid i weithwyr gyfrannu o leiaf 5% o'u cyflogau.
Yn ogystal â hyn, fel y gwelsoch yn y fideo yn gynharach, byddwch yn cael rhyddhad treth incwm ar eich cyfraniadau i'ch pensiwn. Mae hyn yn berthnasol i gynlluniau â buddion wedi’u diffinio a chynlluniau â chyfraniadau wedi’u diffinio (neu brynu arian). Yn nes ymlaen yn y sesiwn hon, byddwch yn dysgu mwy am y rheolau treth sy’n berthnasol i bensiynau.