5.1 Cynllunio eich pensiwn: y costau a’r risgiau
Gyda phensiwn personol, bydd angen i chi benderfynu faint i’w dalu i mewn i’ch cronfa. Mae'n bwysig cael y penderfyniad hwn yn iawn oherwydd os byddwch yn talu gormod i mewn, bydd eich pensiwn yn rhy fach. Talwch ormod i mewn, a gallech gyfyngu ar eich gwariant presennol a'ch safon byw, ond ni allwch fod yn sicr o'r swm cywir. Ond egwyddor sylfaenol yw rhoi cymaint ag y gallwch chi ei fforddio ynddo, a dechrau mor gynnar â phosibl.
Hefyd, cofiwch mai un math o gynilion ymddeol yw pensiwn, ac y gallech chi wneud elw mawr drwy ddefnyddio dulliau eraill.
Faint i'w dalu i mewn?
Mae rheol gyffredinol sy’n cael ei defnyddio gan lawer yn y diwydiant i nodi faint mae’n werth ei fuddsoddi i helpu i gael ymddeoliad cyfforddus, ond, yn yr un modd â phopeth arall, pan fyddwch yn buddsoddi arian ar gyfer y tymor hir, does dim sicrwydd mai hwn fydd y dewis cywir yn y pen draw.
Y rheol yw: cymryd yr oedran rydych chi’n dechrau casglu ar gyfer eich pensiwn, a’i haneru. Wedyn, rhowch y ganran hon o’ch cyflog cyn trethi i mewn i'ch pensiwn bob mis nes byddwch chi’n ymddeol.
Felly, yn unol â’r ‘rheol’ hon, dylai rhywun sy’n dechrau’n 32 oed gyfrannu 16% o’i gyflog am weddill ei gyfnod yn y gwaith. Er bod 16% o’ch cyflog yn ymddangos yn ymrwymiad enfawr, mae'r ffigur hwn yn cynnwys cyfraniad eich cyflogwr.
Y nod yw y bydd y pensiwn, pan fydd yn dechrau, yn darparu incwm rheolaidd, a delir yn fisol fel arfer, nes bydd yr unigolyn yn marw. Po hiraf y byddwch chi’n byw, y nifer mwyaf o fisoedd o bensiwn y bydd angen eu talu allan. Felly, mae cynllunio pensiwn yn golygu bod angen amcangyfrif disgwyliad oes hefyd.
Y costau ...
Wrth fuddsoddi ar gyfer y tymor hir, beth sydd hefyd yn cyfrif yw'r elw ar fuddsoddiad ar ôl i’r holl gostau gael eu didynnu. Gallai cronfa fuddsoddi sy’n cynnig cyfle i gael elw uwch ond sydd â ffioedd uchel fod yn ddewis gwael o’i chymharu â chronfa fuddsoddi lai uchelgeisiol gyda ffioedd cymharol fach.
Dylech hefyd ystyried chwyddiant wrth i gynnydd mewn prisiau leihau grym gwario arian. Er mwyn diogelu rhag hyn, byddai angen i chi fuddsoddi arian ychwanegol i wneud iawn am effaith chwyddiant, dros y blynyddoedd pan fydd y cynilion yn cronni ac ar ôl i’r pensiwn ddechrau.
Lle caiff yr arian ei fuddsoddi?
Gallwch ddewis mynd ati’n weithredol i reoli sut mae’ch arian yn cael ei fuddsoddi mewn rhai mathau o bensiynau, fel SIPP (pensiynau buddsoddi personol) neu ganiatáu i ddarparwr y pensiwn ddewis ble i’w fuddsoddi ar sail eich agwedd tuag at risg. Mae rhai pensiynau yn y gweithle yn mynd gam ymhellach ac mae ganddynt gronfa ddiofyn sy’n tueddu i fod yn un risg ganolig, felly does dim rhaid i chi wneud unrhyw ddewisiadau.
... a'r risgiau
Mae cynlluniau â chyfraniadau wedi’u diffinio (neu brynu arian) yn arwain at unigolion yn ysgwyddo’r risgiau hyd at yr adeg y mae’r pensiwn yn dechrau. Mae hyn yn golygu y gall gwahanol bobl sy'n cynilo'r un swm gael pensiynau gwahanol iawn, a gall pensiwn person fod yn wahanol iawn yn dibynnu ar ba bryd y mae’n ymddeol.
Gweithgaredd 5 Ydych chi’n talu digon i mewn?
Mae'r ‘rheol gyffredinol’ a nodir uchod yn rhoi syniad da i chi o faint dylech chi fod yn ei gyfrannu at eich cynllun pensiwn. Rhowch gynnig ar y rheol ar gyfer eich sefyllfa chi ac edrych ar faint rydych chi’n ei gyfrannu ar hyn o bryd – bydd eich slip cyflog yn helpu os ydych chi mewn cynllun galwedigaethol. Ydych chi’n cyfrannu llai, mwy neu’r un faint â'r lefel a argymhellir?
Discussion
Os ydych chi’n cyfrannu digon (neu fwy), mae hynny’n newyddion da. Os ydych chi’n brin yng nghyswllt y ‘rheol gyffredinol’ – ac yn enwedig os ydych chi’n brin iawn – mae angen i chi adolygu eich cynllun pensiwn o ddifrif a cheisio cyfrannu mwy.