Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

8 Chwyldro pensiynau 2015: rhyddhau mynediad at botiau pensiwn

Yn Natganiad Cyllideb 2014, datgelodd George Osborne, y Canghellor bryd hynny, gynigion ar gyfer diwygio pensiynau sydd wedi newid yr opsiynau ariannol ar gyfer y rhai sy’n nesáu at ymddeol. Daeth y cynigion hyn i rym ym mis Ebrill 2015 ac maent wedi arwain at lacio’r cyfyngiadau ar fynediad at botiau pensiwn.

Ffotograff o George Osborne, Canghellor y Trysorlys 2010-2016 yw’r ddelwedd.
Ffigur 11 George Osborne, Canghellor y Trysorlys 2010-2016 yw’r ddelwedd.

Dyma brif nodweddion y chwyldro pensiynau:

Mae Deddf Trethu Pensiynau 2014 yn rhoi mwy o ryddid i'r rheini mewn cynlluniau 'cyfraniadau wedi’u diffinio', sy’n 55 oed neu’n hŷn, gael gafael ar eu cronfeydd (neu eu 'potiau') pensiwn personol . Yn syml, mae gennych chi fwy o opsiynau nawr:

  • Mae gan y rheini sy’n ymddeol gyda phensiynau â chyfraniadau wedi’u diffinio opsiynau gwahanol i brynu blwydd-dal gyda’u pensiwn, ond mae modd iddyn nhw wneud hynny o hyd. Pan fydd unigolyn yn ymddeol, gall hyd at 25% o'r gronfa gael ei dynnu allan fel cyfandaliad di-dreth (oedd hefyd yn berthnasol cyn 2015) ond mae modd prynu blwydd-dal gyda’r gweddill o hyd.
  • Yr hyn sy’n newydd yw eich bod yn gallu cael gafael ar y gronfa ar ffurf arian parod i wneud beth bynnag a fynnwch gydag ef. Gallai hynny olygu buddsoddi mewn amryw o asedau (fel eiddo), talu morgais neu ddyledion eraill, neu ariannu eich defnydd presennol. Mae 25% o'r arian a dynnir o’r gronfa yn ddi-dreth. Mae’r gweddill yn drethadwy fel incwm ac felly gallai hynny ddenu treth o hyd at 45% (ar gyfer incwm trethadwy dros £150,000) ar hyn o bryd.
  • Gallwch chi adael yr arian wedi'i fuddsoddi a thynnu i lawr yn nes ymlaen.
  • Hefyd, mae mwy o hyblygrwydd i drosglwyddo pensiwn i ddibynyddion ar ôl marwolaeth. I’r rheini sy’n marw cyn eu bod yn 75 oed, mae modd trosglwyddo incwm o’u hasedau pensiwn i’r buddiolwyr yn ddi-dreth, ar yr amod y gwneir hyn cyn pen dwy flynedd i’r farwolaeth. Dim ond i gyfandaliadau o 'bot' pensiwn yr oedd yr ymdriniaeth treth hon yn berthnasol o'r blaen. I’r rheini sy’n marw’n 75 oed neu’n hŷn, mae’r cyfraddau treth arferol yn berthnasol. Gellid dadlau bod y diwygiad hwn yn dileu tâl treth gormodol annheg ar botiau pensiwn y mae’r ymadawedig wedi treulio’i fywyd yn cyfrannu atynt. Barn wahanol yw bod hyn yn ffordd o osgoi treth etifeddu, gyda’r rheini sydd wedi ymddeol yn manteisio ar gynilion a buddsoddiadau eraill, gan adael eu cronfeydd pensiwn heb eu cyffwrdd.

Un peth pwysig i'w gofio, pa bynnag opsiwn a ddewisir, yw bod incwm pensiwn – gan gynnwys pensiwn y wladwriaeth – yn agored i dreth incwm. Y newyddion da, serch hynny, yw nad yw Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) yn daladwy.

Er y dylid croesawu’r hyblygrwydd ychwanegol y mae’r diwygiadau hyn yn ei gynnig i bensiynwyr, ni ellir peidio â thynnu sylw at rai pryderon.

Yn gyntaf, mae’n ymddangos mai un ysgogiad dros y rhyddid mwy yma, yn rhannol, yw’r gred bod blwydd-daliadau’n werth gwael ac, ymhlyg yn hynny, y gallai ffyrdd eraill o fuddsoddi arian pensiwn fod yn well i bensiynwyr. Eto i gyd, er y bu rhai problemau yn amlwg o ran y ffordd yr oedd rhai cwmnïau yswiriant yn gwerthu cynnyrch blwydd-dal, mae’n annheg dweud bod pob un yn werth gwael. Mae’r cyfraddau blwydd-dal isel sydd ar gael heddiw yn adlewyrchu hirhoedledd cynyddol a’r cyfraddau llog isel cyfredol yn syml iawn. Ar hyn o bryd (ym Medi 2022) – ac yn ddibynnol ar nodweddion y cynnyrch – pan fydd unigolyn yn 65 oed, caiff blwydd-dal rhwng £4000 a £6300 y flwyddyn ei dalu am bob £100,000 mewn cronfa bensiwn â chyfraniadau wedi’u diffinio. Mae’r ffigurau hyn yn berthnasol i berson sengl. Ar gyfer bywyd deuol (h.y. i gwpl) mae blwydd-daliadau rhwng £3900 a £5800 fesul £100,000 o gronfa bensiwn..

Yn ail, mae pryderon y bydd llawer o bensiynwyr yn gwario cyfran fawr o’u pot pensiwn ac na fyddant yn buddsoddi’r arian i ddarparu’r ffrwd incwm angenrheidiol ar ôl ymddeol. O ganlyniad, y risg yw y bydd rhai pensiynwyr, o fewn ychydig flynyddoedd, yn canfod eu hunain yn brin o’r incwm sydd ei angen ar gyfer ymddeoliad cyfforddus.

Yn olaf, mae pryder nad oes gan y diwydiant pensiynau’r adnoddau i ddelio â’r cyngor sydd ei angen o ganlyniad i’r rhyddid ehangach sydd ar gael i bensiynwyr a’r rheini sy’n nesáu at ymddeoliad.

Noder, fel y nodwyd yn gynharach, fod disgwyl i'r oedran isaf ar gyfer cael gafael ar bensiynau preifat – ac felly ar gyfer yr opsiynau a nodir uchod – godi o 55 oed i 57 oed yn 2028.

Gweithgaredd 7 Manteision ac anfanteision y chwyldro

Timing: Dylech ganiatáu tua 5 munud

Beth yw eich barn chi ar y rhyddidau pensiwn newydd? Ydy'r manteision yn gwrthbwyso'r risgiau yn eich barn chi?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Discussion

Er ei bod yn debyg mai'r peth cywir i’w wneud yw rhoi hawl i bobl ddefnyddio eu pensiwn fel y mynnant, mae risg, i leiafrif bach o leiaf, y bydd y cronfeydd pensiwn hyn yn cael eu gwagio’n gyflym, gan adael pensiynwyr gydag ansawdd bywyd gwael yn nes ymlaen yn eu hymddeoliad.

Mae rheoleiddwyr gwasanaethau ariannol yn monitro’n agos i weld sut mae’r rhyddidau newydd yn cael eu defnyddio. Yn sicr, mae tystiolaeth bod pobl wedi cael mynediad at ‘botiau’ pensiwn ar raddfa eang ers 2015, ond mae tystiolaeth hefyd fod yr arian sy’n cael ei dynnu allan yn cael ei ddefnyddio at ddibenion synhwyrol – fel talu gweddill morgais, neu brynu eiddo arall i’w osod a chreu incwm drwy rent.