Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Glossary

AD
Talfyriad o ‘Adnoddau Dynol’.
Aelodau gweithredol
Pobl sy’n cyfrannu at gynllun pensiwn ar hyn o bryd – yn hytrach na phensiynwyr sy’n tynnu pensiwn o gynllun, neu bobl nad ydynt yn bensiynwyr sydd wedi rhoi'r gorau i wneud cyfraniadau (er enghraifft, pobl sydd wedi rhoi'r gorau i gyfrannu at gynllun galwedigaethol oherwydd eu bod wedi symud i swydd arall).
Blwydd-dal
Incwm sicr a roddir gan gwmni yswiriant yn gyfnewid am werth eich pot pensiwn.
Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG)
Math o dreth incwm sy’n daladwy gan bobl nes maen nhw’n cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth.
Cynllun pensiwn yn y gweithle
Cynllun pensiwn sy’n cael ei ddarparu gan gyflogwr i weithwyr cymwys (sy’n cael eu cofrestru ar y cynllun yn awtomatig oni bai eu bod yn optio allan).
Cynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar sail Enillion (SERPS)
Pensiwn y wladwriaeth sy’n ategu ‘hen’ bensiwn sylfaenol y wladwriaeth.
Hirhoedledd
Disgwyliad oes (ym maes demograffeg) neu fyw i fod yn hen.
ISA
Cyfrif Cynilo Unigol. Cyfrifon di-dreth ar gyfer cynilion a buddsoddiadau yw ISAs.
Prawf modd
Taliadau, fel budd-daliadau gwladol, sy’n ddibynnol ar asesu incwm ymgeisydd neu ei adnoddau eraill.
Sector cyhoeddus
Y rhan o’r economi sydd dan reolaeth y wladwriaeth.
Sector preifat
Y rhan o’r economi nad yw dan reolaeth y wladwriaeth.
Treth Etifeddiant
Treth yn y DU ar arian, eiddo ac asedau eraill sy’n cael eu hetifeddu.