10 Eich cyllideb eich hun
Rydych chi wedi edrych ar sut mae llunio cyllideb. Nawr rhowch gynnig arni eich hun. Gallwch chi naill ai ychwanegu eich atebion at y tabl isod neu lawrlwytho a llenwi fersiwn Word o’r grid cyllidebu [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Gallwch chi gwblhau a mireinio hwn ar ôl i chi orffen y cwrs, yn enwedig oherwydd efallai y bydd angen i chi dreulio amser yn chwilota drwy ddogfennau ariannol i gael yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
Bydd dolen yn cael ei darparu ar ddiwedd y sesiwn os oes angen rhagor o arweiniad ar lunio cyllideb arnoch chi.
Talwch sylw gofalus i'r categorïau incwm a gwariant.
Un o brif fuddion cyllideb yw’r hyn gallwch chi ddysgu ohoni. Ar ôl i chi lunio eich cyllideb, gwnewch y gweithgaredd isod.
Gweithgaredd 4 Ystyried ac adolygu eich cyllideb
Rhan 1 Ystyried eich cyllideb
Mis Presennol | Blwyddyn Gyfan | |
Balans o'r cyfnod blaenorol | ||
Incwm | ||
Incwm (ar ôl yr holl ddidyniadau fel treth) | ||
Incwm pensiwn (ar ôl treth) | ||
Incwm buddsoddi (llog ac ati) | ||
Incwm arall | ||
Arian o werthu asedau | ||
Cyfanswm Incwm (A) | ||
Gwariant Hanfodol | ||
Costau morgais neu rent | ||
Treth Gyngor | ||
Costau dŵr | ||
Cyfleustodau (nwy, trydan, tanwydd arall) | ||
Siopa bwyd (bwyd a diod) | ||
Gwariant o ddydd o ddydd (cinio yn y gwaith ac ati) | ||
Gwariant ar deithio hanfodol a cheir | ||
Premiymau yswiriant | ||
Costau ffôn a rhyngrwyd (gan gynnwys ffonau symudol) | ||
Costau teledu (gan gynnwys trwydded deledu) | ||
Dillad | ||
Costau trin gwallt | ||
Costau meddygol (deintydd ac ati) | ||
Cynnal a chadw'r cartref a’r ardd | ||
Cyfanswm Gwariant Hanfodol (B) | ||
Gwariant Arall (Dymunol/ddim yn hanfodol) | ||
Gwyliau/teithio dewisol | ||
Cymdeithasu a bwyta allan | ||
Aelodaeth clybiau | ||
Anrhegion | ||
Gwariant arall (heb ei nodi uchod) | ||
Arian wedi'i neilltuo ar gyfer cynilion a chronfeydd wrth gefn | ||
Cyfanswm Gwariant Arall (C) | ||
Alldro (= balans ar gyfer dechrau’r cyfnod nesaf) = Cyfanswm A tynnu (B+C) |
Rhan 2 Adolygu eich cyllideb
Atebwch y cwestiynau canlynol:
- Oes gennych chi incwm dros ben, neu a ydych chi’n gwario mwy nag yr ydych chi’n ei ennill?
- A yw’r misoedd yn debyg wrth gyllidebu?
- Beth yw’r rheswm am beidio â chyfrannu at gyfrif cynilo neu neilltuo arian ar gyfer ‘treuliau annisgwyl’ fel rhan o’ch gwariant misol.
Answer
- Os oes gennych chi incwm mwy na’ch gwariant, mae hyn yn newyddion da. Mae’n eich galluogi chi i gynilo er mwyn gallu cyfrannu arian tuag at gyfnodau lle mae gwariant yn fwy na'r incwm. Os yw’ch gwariant yn fwy na’ch incwm, bydd angen i chi leihau eich gwariant, neu ddod o hyd i ffordd o dalu am y diffyg (eich cyfrif cynilo?).
- Na, mae pob mis yn wahanol. Dylid disgwyl i wariant fod ar ei uchaf ar adegau allweddol o'r flwyddyn – mewn gŵyl flynyddol rydych chi’n ei dathlu gyda’ch cymuned, fel y Nadolig, neu pan fyddwch chi’n mynd ar wyliau. Mae incwm yn aml yn sefydlog, ond gallai gynyddu os cewch chi fonws, neu os yw’ch gwaith yn dymhorol neu’ch bod yn cael goramser yn ystod rhai misoedd o'r flwyddyn.
- Mae hon yn ffordd dda o sefydlu arferion cynilo yn eich bywyd ariannol bob dydd. Mae’n gwneud yn siŵr bod gennych chi adnoddau ychwanegol i’w defnyddio pan fyddwch chi’n prynu pethau drud, neu ar adegau eraill pan mae eich sefyllfa ariannol dan bwysau.