11 Lleihau eich gwariant
P’un a ydych chi wedi llunio cyllideb neu beidio, mae’n gyffredin i nifer o aelwydydd fod â mwy o arian yn mynd allan o'r ochr gwario nag sy’n dod i mewn i’r ochr incwm.
Fodd bynnag, mae llawer o gamau y gallwch chi eu cymryd i leihau eich gwariant a mantoli eich incwm. Mae llawer o’r rhain yn ffyrdd 'di-boen’ o arbed arian, yn syml drwy dalu llai am yr un nwyddau neu wasanaethau.
Dyma ambell ffordd syml o leihau eich gwariant heb newid eich ffordd o fyw yn radical.
- Gallai talu rhai biliau drwy ddebyd uniongyrchol arbed arian i chi, er enghraifft biliau cyfleustodau. Ond gwiriwch hyn yn ofalus gan y gallai rhai biliau – megis yswiriant cartref a char – gostio mwy os cânt eu talu’n fisol drwy ddebyd uniongyrchol.
- Ystyriwch ailforgeisio os ydych chi ar gyfradd amrywiadwy safonol eich benthyciwr, neu os yw’ch cynnig presennol ar fin dod i ben. Mae arbed 1% ar forgais o £100,000 yn arbed tua £80 y mis (byddwch chi’n edrych ar ailforgeisio yn y sesiwn ar forgeisi yn nes ymlaen yn y cwrs).
- Edrychwch ar y farchnad i weld pryd mae’n amser adnewyddu premiymau yswiriant. Maen nhw’n cael eu cynyddu bob blwyddyn yn aml, gan ddibynnu ar gwsmeriaid nad ydynt yn trafferthu newid i gwmni arall. Hefyd, gwnewch yn siŵr nad ydych yn talu am unrhyw 'elfennau ychwanegol' nad oeddech yn gofyn amdanynt nac yn dymuno eu cael.
- Os ydych chi’n talu llog uchel ar eich cardiau credyd, edrychwch i weld a ydych chi’n gallu trosglwyddo eich balans i gerdyn newydd ar 0% – gallwch chi wneud hyn am ffi fechan fel arfer.
- Yn aml, gyda biliau'r cartref fel biliau ffôn, band eang a theledu, gellir arbed eithaf tipyn o arian drwy fanteisio ar gynigion neu newid cyflenwyr. Cyn yr argyfwng ynni presennol, newid i gynnig sefydlog rhad oedd y ffordd orau i gwsmeriaid ynni arbed arian. Ond, ers 2022, mae hyn wedi newid ac mae Llywodraeth y DU wedi ymyrryd i geisio helpu i ddiogelu defnyddwyr rhag prisiau cynyddol. I gael y diweddaraf, gweler cymorth ynni penodol MoneySavingExpert.
- Cymerwch yr amser i gadarnhau faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio a sut y gallwch leihau hynny. Er enghraifft, dylid diffodd goleuadau mewn ystafelloedd gwag, diffodd cyfarpar sydd ddim yn cael eu defnyddio wrth y plwg neu'r prif switsh, troi'r thermostat i lawr i arbed arian ar filiau ynni a dim ond defnyddio'r peiriant golchi dillad pan fydd modd ei lenwi'n gyfan gwbl. Bydd y mesurau hyn yn helpu'r amgylchedd hefyd.
- Ystyriwch gael mesurydd dŵr, yn enwedig os nad ydych chi’n defnyddio llawer o ddŵr, neu os oes llai o bobl yn byw yn y tŷ na nifer yr ystafelloedd gwely sydd gennych chi.
- Os ydych chi’n talu am aelodaeth campfa ond ddim yn mynd yn aml, holwch i weld a allwch chi dalu fesul ymweliad yn lle. Fel arall, a allwch chi wneud ymarfer corff yn y cartref neu fynd i redeg yn eich ardal leol?
- Meddyliwch a yw eitem â brand yn werth am arian go iawn, neu a allwch chi fyw gyda phrynu brand y siop ei hun, neu eitem heb frand.
- Ewch ati i leihau nifer y prydau bwyd tecawê rydych chi’n yn eu cael – gallai cael un yr wythnos yn hytrach na dau yn arbed dros £250 y flwyddyn i chi, ac mae’n siŵr y byddai’n iachach hefyd.
- Chwiliwch i weld a allwch chi gael tariff ffôn symudol rhatach. Ewch i weld beth sydd ar gael ar y farchnad a bod yn barod i newid cyflenwr. Os nad ydych chi eisiau symud, ffoniwch eich cyflenwr ffôn symudol a gofyn a yw’n fodlon cynnig yr un telerau â’r cynnig rydych chi wedi dod o hyd iddo.
- Mae prynu mewn swmp ar gyfer eitemau fel lensys cyffwrdd yn arbed llawer o arian.
- Rhowch y gorau i gael coffi o’r siop goffi leol bob bore. Mae’n llawer rhatach gwneud coffi gartref.
- Gall mynd â bocs bwyd i'r gwaith arbed cannoedd o bunnoedd y flwyddyn ar gostau cinio.
- Prynwch ffrwythau a llysiau ffres yn eu tymor. Holwch i weld a yw marchnad leol yn rhatach na’r archfarchnad.
- Diffoddwch y goleuadau, peidiwch â gadael botymau modd segur ymlaen a throwch y thermostat i lawr i arbed symiau mawr ar filiau ynni (a helpu'r amgylchedd).
- Gwnewch restr siopa a chadw ati, yn hytrach na chael eich temtio gan eitemau ar y silffoedd yn yr archfarchnad. Ceisiwch ddefnyddio cwponau arian i ffwrdd o bapurau a chylchgronau lle bo modd.
- Meddyliwch yn ofalus am brynu gwarantau estynedig. Mae’r rhain fel arfer yn werth gwael am arian, felly mae’n well neilltuo arian rhag ofn bydd problem yn codi.
Er mwyn canolbwyntio ar sut i dorri’ch gwariant, lluniwch dabl cynghrair o'ch gwariant anhanfodol, gan ddechrau â'r eitemau y byddech chi'n lleiaf bodlon cyfyngu'ch gwariant arnyn nhw a gorffen â'r eitem lle y byddech yn fwyaf parod i gwtogi'ch gwariant neu ei ddileu'n gyfan gwbl. Yna, bydd gennych chi gynllun ar waith i addasu'ch cyllideb os bydd gwariant ar hanfodion yn golygu bod yn rhaid i chi wneud arbedion – dechreuwch ar waelod y tabl cynghrair hwnnw a gweithio i fyny.
Ac os ydych chi’n ei chael yn anodd cadw caead ar wahanol agweddau ar eich gwariant, gallwch chi orfodi eich hun i fod yn fwy disgybledig drwy ddefnyddio'r dechneg ‘cadw mi gei’. Mae hyn yn golygu sefydlu cyfres o gyfrifon banc ar gyfer pob categori mawr o wariant – er enghraifft, gwyliau, cymdeithasu, dillad ac ati. Wedyn, gallwch chi neilltuo eich incwm i bob cyfrif yn unol â chynllun eich cyllideb. Os gwnewch chi gadw at y ddisgyblaeth o beidio â gwario mwy ar bob categori gwario nag sydd yn y cyfrif wedi'i neilltuo, bydd eich cyllideb gyffredinol wedi’i mantoli bob amser. Mae fel y dull adnabyddus o ddefnyddio jariau jam i rannu’ch incwm rhwng categorïau gwario – oni bai fod eich arian yn saffach mewn cyfrifon a gallech chi ennill rhywfaint o log hefyd!
Nesaf, mae’n amser am y cwis diwedd sesiwn – pob hwyl gyda hwn!
Ar ôl y cwis, mae’n amser crynhoi'r hyn rydych chi wedi’i ddysgu yn y sesiwn hon, a rhoi gwybod i chi ble i fynd i gael rhagor o wybodaeth am gyllidebu a threthi.