Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3 Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG)

Yr ail ddidyniad pwysig o’ch incwm gros yw Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG). Rydych chi fel gweithiwr a’ch cyflogwr/cyflogwyr yn talu Yswiriant Gwladol.

Yn hanesyddol, Yswiriant Gwladol oedd y sail ar gyfer talu budd-daliadau nawdd cymdeithasol sy’n gysylltiedig â diweithdra, salwch ac ymddeol. Cafodd ei gyflwyno yn gyntaf yn 1911 ac fe dyfodd yn raddol, yn enwedig yn y 1940au yn sgil lansio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac ehangu i gynlluniau budd-daliadau gwladol.

Brig llythyr gan CThEM yn ymwneud ag Yswiriant Gwladol yw’r ddelwedd. Mae’r llythyr yn gorwedd ar fysellfwrdd cyfrifiadur.
Ffigur 3 mae Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) fel treth arall

Cyfraniadau YG gan weithwyr a chyflogwyr yw’r ail gyfraniad mwyaf at dderbyniadau llywodraeth y DU – bron i chwarter y cyfanswm. Yn ystod y degawdau diwethaf, mae'r gyfran hon wedi cynyddu oherwydd mae llywodraethau wedi ffafrio defnyddio cyfraniadau YG yn hytrach na threth incwm i godi refeniw ychwanegol – efallai oherwydd bod pobl ddim yn meddwl am y cyfraniadau hyn fel treth!

Y ffordd mae YG yn gweithio yw – mae CThEM yn rhoi rhif cyfrif Yswiriant Gwladol i bawb yn y DU pan maen nhw’n troi’n 16 oed. Caiff eich cyfraniadau YG eu cofnodi o dan y rhif hwn bob blwyddyn.

Mae lefel eich cyfraniadau a nifer y blynyddoedd rydych chi wedi bod yn talu YG yn effeithio ar eich hawl i fudd-daliadau penodol, a lefel y budd-daliadau hynny mewn rhai achosion. Mae pensiwn y wladwriaeth yn enghraifft dda oherwydd mae nawr yn ofynnol bod gennych chi werth 35 blynedd o gyfraniadau YG i gael swm llawn pensiwn y wladwriaeth.

Yn yr un modd â threth incwm, mae'r rheolau a'r rheoliadau sy'n berthnasol i Yswiriant Gwladol yn newid yn rheolaidd. Yn 2022/23 (o fis Gorffennaf 2022), roedd trothwy incwm is o £12,570 y flwyddyn a therfyn enillion uwch o £50,270. Ar incwm rhwng y terfynau hyn, roedd Yswiriant Gwladol o 13.25% yn cael ei godi ar weithwyr fel arfer. Os oeddech chi’n ennill mwy na £50,000, roeddech chi’n talu cyfraniadau YG ar 3.25% yn fwy na hynny.

Tabl 1 Bandiau ar gyfer Cyfraniadau YG Dosbarth 1 yn 2021/22 a 2022/23
Cyfradd 2021/22 Cyfradd 2022/23 (o fis Gorffennaf 2022)
0% £0–£9,568 0% £0–£12,570
12% £9,568–£50,270 13.25% £12,570–£50,270
2% £50,270+ 3.25% £50,270+

Os ydych chi’n hunangyflogedig, rydych chi’n talu gwahanol gyfraniadau YG. Yma, mae’r cyfraniadau YG sy’n daladwy yn seiliedig ar yr elw blynyddol a wneir. Yn 2022/23 (o fis Gorffennaf 2022) codwyd cyfraniadau YG ‘Dosbarth 4’ ar gyfradd o 10.25% ar elw rhwng £12,570 a £50,270. Uwchben £50,270, roedd y gyfradd yn 3.25%. Hefyd, roedd y rheini a oedd yn gwneud elw o fwy na £12,570 yn talu cyfraniadau YG ‘Dosbarth 2’ ar gyfradd o £3.15 yr wythnos.

Nesaf, defnyddiwch yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu am dreth incwm a chyfraniadau YG i roi cynnig ar rai cyfrifiadau.