4 Cwis hanner amser
Faint o dreth incwm a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) fyddai’n cael eu talu gan rywun a oedd yn ennill £56,000 yn 2021/22?
Y lwfans personol di-dreth ar gyfer y flwyddyn oedd £12,570 a chyfradd y dreth ar incwm uwchben hyn (a hyd at £50,270) oedd 20%. Uwchben y lefel hon, roedd y gyfradd dreth uwch o 40% yn dechrau bod yn berthnasol.
Roedd cyfraniadau YG yn daladwy ar 12% o enillion dros £9,568 ac ar 2% ar gyfer enillion dros £50,270
Mae gwybodaeth am dreth incwm i’w gweld yn Adran 2 ac mae manylion cyfraniadau YG ar gael yn Adran 3.
Os byddai o gymorth i chi, ewch ati i ganfod eich ateb gan ddefnyddio’r broses ganlynol.
Cwis hanner amser
Incwm o gyflogaeth neu bensiwn | £56,000 | |
Llai lwfans personol | ||
Yn gadael tâl trethadwy o | ||
Cyfradd sylfaenol % | ar | |
Cyfradd uwch % | ar | |
Y dreth sydd i'w thalu yn y flwyddyn 2021/22 | ||
Incwm o gyflogaeth | £56,000 | |
Trothwy ar gyfer talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) | ||
Cyfraniadau YG % | ar | |
Cyfraniadau YG % | ar | |
Y cyfraniadau YG sydd i'w talu yn y flwyddyn 2021/22 |
Ateb
Incwm o gyflogaeth neu bensiwn | £56,000 | |
Llai lwfans personol | £12,570 | |
Yn gadael tâl trethadwy o | £43,430 | |
Cyfradd sylfaenol % | ar £37,700 | £7,540 |
Cyfradd uwch % | ar £5,730 | £2,292 |
Y dreth sydd i'w thalu yn y flwyddyn 2021/22 | £9,832 | |
Incwm o gyflogaeth | £56,000 | |
Trothwy ar gyfer talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) | £9,568 | |
Cyfraniadau YG % | ar £40,702 | £4,884.24 |
Cyfraniadau YG % | ar £5,730 | £114.60 |
Y cyfraniadau YG sydd i'w talu yn y flwyddyn 2021/22 | £4,998.84 |
Sylwch nad yw cyfraniadau YG yn cael eu talu ar bensiynau.