Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.1 Oes angen i mi lenwi ffurflenni treth incwm?

Dau ddarn £1 ar ben slip cyflog yw’r ddelwedd.
Ffigur 5 Casglu’r ffigurau angenrheidiol ar gyfer y ffurflen dreth

Os oes angen i chi lenwi ffurflen dreth, mae’r ffurflen rydych chi’n ei llenwi yn eich galluogi chi i asesu faint o dreth incwm sy’n ddyledus – sef pam y defnyddir y term ‘hunanasesu’ wrth sôn am ffurflenni treth incwm. Bydd CThEM, fodd bynnag, yn gwirio’r manylion. Y dyddiau hyn, gallwch chi lenwi’r ffurflen ar-lein, sy’n gwneud y broses asesu yn eithaf hawdd.

Os yw’ch unig incwm chi’n dod o fod yn gyflogedig, a dim o unrhyw ffynhonnell arall, a bod eich incwm trethadwy yn llai na £100,000 y flwyddyn, does dim angen i chi lenwi ffurflen hunanasesu.

Dyma rai o’r rhesymau cyffredin dros fod angen gwneud hunanasesiad ar gyfer treth:

  • gwneud arian o waith llawrydd neu hunangyflogedig
  • cael incwm o dramor
  • gosod eiddo neu ystafelloedd yn eich cartref
  • gwneud elw o werthu eiddo neu fuddsoddiadau.

Mae dolen i’r rhestr lawn o amgylchiadau lle mae galw am ffurflen dreth wedi'i darparu ar ddiwedd y sesiwn hon, yn ogystal â rhywfaint o ganllawiau ar lenwi ffurflen dreth hunanasesu.

Os oes rhaid i chi lenwi ffurflen hunanasesu, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hynny hyd yn oed os nad ydych chi’n meddwl bod treth yn ddyledus.

Os ydych chi’n llenwi'r ffurflen ar-lein, mae gennych chi tan 31 Ionawr ar ôl diwedd y flwyddyn dreth (rhaid cyflwyno ffurflenni papur erbyn 31 Hydref). Mae angen i chi gofrestru ar gyfer cyflwyniad ar-lein cyn mynd at CThEM. Mae dolen ar gyfer hyn wedi'i darparu ar ddiwedd y sesiwn. Os na fyddwch chi’n llenwi eich ffurflen hunanasesu ar-lein ac yn ei chyflwyno ar amser, bydd CThEM yn rhoi dirwy i chi.

Mae’n rhaid i unrhyw dreth ddyledus gael ei thalu a chyrraedd cyfrif CThEM cyn 31 Ionawr ar ôl diwedd y flwyddyn dreth – felly byddai angen talu'r symiau sy’n ddyledus ar gyfer blwyddyn dreth 2022/23 erbyn 31 Ionawr 2024. Bydd peidio â thalu ar amser yn golygu bod eich cyfrif treth yn dechrau cronni llog ar gyfradd dirwy – sef 2% y flwyddyn i ddechrau ond yn codi i 4% y flwyddyn os yw treth yn hwyr o fwy na 30 diwrnod.

Os yw’ch trefniadau talu treth yn awgrymu y bydd treth yn ddyledus ar ôl pob blwyddyn dreth, a hynny’n barhaus, bydd CThEM yn creu cyfrif treth ar eich cyfer a byddwch yn talu’ch treth mewn dau randaliad – y cyntaf erbyn 31 Ionawr yn ystod y flwyddyn dreth a'r ail erbyn y 31ain o'r mis Gorffennaf canlynol. Mae hyn yn lleihau’r amser mae’n rhaid i CThEM aros i gael y refeniw trethi sy’n ddyledus.

Os yw’ch ffurflen flynyddol yn dangos bod ad-daliad y ddyledus i chi o ganlyniad i ordalu treth, byddwch chi’n cael hwn pan fydd CThEM wedi prosesu eich ffurflen.

Un pwynt olaf am dreth: mae cyfrifiadau treth yn dilyn fformiwla, dydyn nhw ddim yn bersonol. Dim ond y dreth sy’n ddyledus yn fathemategol mae’n rhaid i chi ei thalu. Os oes ad-daliad yn ddyledus i chi, fe fyddwch chi’n ei gael.

Nawr eich bod chi wedi astudio sut mae incwm yn cael ei drethu, byddwch yn symud ymlaen at sut i lunio eich cyllideb nesaf.