6 Pam mae angen i mi gyllidebu?
Felly sut mae pennu cyllideb yn eich helpu i reoli arian eich aelwyd?
- Mae'n eich helpu i reoli gwariant drwy gymharu eich incwm â'ch gwariant.
- Mae’n eich helpu i wneud yn siŵr bod gennych ddigon o incwm i dalu biliau nawr ac yn y dyfodol heb orfod benthyca arian.
- Mae’n dangos i chi faint o incwm ‘dros ben’ mae’n rhaid i chi ei gynilo neu ei wario ar bleserau (fel esgidiau newydd neu wyliau ychwanegol).
- Mae’n gwneud yn siŵr eich bod yn canolbwyntio i weld a allech chi wneud gwell penderfyniadau o ran y ffordd rydych chi’n gwario eich arian.
- Mae’n caniatáu i chi gynllunio sut rydych chi’n cyflawni eich nodau gwario a’ch targedau ariannol, fel cynilo.
Mae cynnal ymarfer cyllidebu unwaith yn ddefnyddiol i’ch helpu i ganfod a yw eich gwariant dan reolaeth, ond mae cyllidebu yn fwyaf effeithiol pan fyddwch yn ei ddefnyddio fel rhan o broses barhaus.
Nawr eich bod yn deall effaith treth incwm a chyfraniadau YG ar eich enillion, gallwch ddechrau’r broses o lunio cyllideb.
I lunio cyllideb, dechreuwch drwy edrych ar eich llif arian. Mae hyn yn golygu mesur eich incwm a’ch gwariant yn rheolaidd. Byddwch chi’n edrych ar yr ochr incwm yn gyntaf.