7 Ochr incwm y gyllideb
Mae pedwar mater i’w hystyried wrth fesur ochr incwm cyllideb.
Yn gyntaf, dylai’r gyllideb gofnodi incwm yn y cyfnod perthnasol, megis mis neu flwyddyn. Ar gyfer y rhan fwyaf o bobl, bydd hyn yn cynrychioli eu hincwm net (gyda threth incwm, cyfraniadau YG a chyfraniadau pensiwn wedi’u tynnu ohono). Os oes gennych chi incwm nad yw’n cael ei drethu, bydd angen i chi gynnwys treth, cyfraniadau YG ac unrhyw gyfraniadau pensiwn yn eich treuliau pan fyddwch chi’n llenwi ochr ‘alldaliadau’ y gyllideb.
Nesaf, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys eich holl ffynonellau incwm, a allai gynnwys unrhyw un neu bob un o’r rhain: incwm o gyflogaeth, hunangyflogaeth, cynilion a buddsoddiadau, pensiynau a budd-daliadau nawdd cymdeithasol. Dylai unrhyw incwm ychwanegol – er enghraifft, yr arian a geir o werthu eitemau – gael ei gofnodi o dan y categori ‘arall’.
Nesaf, mae angen i chi wybod pryd rydych chi’n cael y gwahanol ffynonellau incwm hyn. Er enghraifft, gall aelwyd dderbyn cyfuniad o fudd-daliadau wythnosol a thâl misol. Er mwyn safoni’r gwahanol amlderau incwm hyn ar gyfer cyllideb fisol, y dechneg yw cyfrifo incwm blynyddol cyfatebol yn gyntaf (er enghraifft, drwy luosi incwm wythnosol â 52) ac yna amcangyfrif incwm misol sy’n cyfateb drwy rannu’r ffigur hwn â 12.
Yn olaf, a ydych chi’n cyllidebu ar eich cyfer chi eich hun, neu’r teulu cyfan? Os yw ar gyfer mwy nag un person, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys incwm unrhyw aelodau o'r teulu sy’n cyfrannu at gyllideb y teulu.
Gweithgaredd 2 Incwm neu beidio?
Weithiau gall pobl ddrysu rhwng incwm a chyfoeth. Llif arian parod y gallwch chi ei wario yw incwm. Dyma beth rydych chi’n ei roi yn eich cyllideb o dan incwm.
Mae cyfoeth yn aml yn cael ei alw’n 'asedau’, ac mae gan eich cyfoeth werth – efallai gwerth sylweddol – ond nid yw’n darparu llif arian parod i’w wario oni bai ei fod yn cael ei werthu.
Edrychwch ar y rhestr isod a nodi'r beth sy’n incwm a beth sy’n asedau ar ffurf cyfoeth.
Y prif beth wrth nodi incwm yw a yw’n dod ar ffurf arian parod y gallwch ei wario. Dim ond os ydynt yn cael eu gwerthu y gall cyfoeth neu asedau gynhyrchu arian.
O safbwynt cyllidebu, mae’n hollbwysig gwahaniaethu rhwng incwm rheolaidd ac incwm sy’n sicr i bob pwrpas – fel eich cyflog misol – a ffynonellau afreolaidd ac ansicr o incwm (er enghraifft, gwerthu eiddo ar-lein am arian parod). Bydd yr ail fath yn fwy anodd ei amcangyfrif ac efallai na fydd modd cael gafael arno, er enghraifft, os na allwch chi werthu eitem.