9 Llunio eich cyllideb
Mae’n amser dechrau llunio eich cyllideb. Cyn gwneud hynny, gwyliwch y fideo byr yma sy’n nodi'r camau syml i'w cymryd.
Cafodd yr adnodd hwn ei greu a’i recordio’n wreiddiol yn Saesneg ar gyfer Academi Arian MSE ac mae ar gael yma [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .
Transcript: Fideo 2 Llunio eich cyllideb
Er bod angen i chi lunio cyllideb sy’n gweithio i chi, mae ambell reol bwysig y dylech chi feddwl amdanynt cyn dechrau.
- Gwnewch yn siŵr bod y gorwel amser yn ddigon hir i gynnwys eich holl incwm a gwariant. Drwy weithio gyda chyllideb wythnosol neu fisol, gallech chi anghofio am wariant ar wyliau, anrhegion neu yswiriant blynyddol.
- Dechreuwch eich cyllideb gyda’ch incwm cyn symud ymlaen at eich gwariant. Dim ond incwm sy’n sicr, neu’n debygol o leiaf, y dylech chi ei gynnwys. Drwy wneud hyn, mae unrhyw beth ychwanegol yn syrpréis neis.
- Ewch ati i ddadansoddi eich gwariant i’r graddau mwyaf posibl. Bydd hyn yn eich helpu chi i weld ble yn union mae’ch arian yn mynd os ydych chi’n canfod bod angen i chi ffrwyno eich gwariant.
- Os nad ydych chi’n siŵr faint bydd rhywbeth yn ei gostio (ee, eich bil ffôn), mae’n well goramcan a bod ag arian dros ben na thanamcan a bod heb ddigon o arian.
- Rhannwch eich gwariant i’r categorïau ‘hanfodol’, ‘dymunol’ a ‘ddim yn hanfodol’ – yn yr un modd â’r gweithgaredd a wnaethoch chi yn yr adran flaenorol. Mae hyn yn eich helpu chi os oes angen i chi leihau eich gwariant, oherwydd gallwch chi ddechrau drwy wario llai ar bethau sydd ddim yn hanfodol.
- Dylech gymryd gofal arbennig i asesu'ch costau ynni, gan ystyried y cymorth y gallwch ei gael o bosibl gan y Llywodraeth. Hyd yn oed gyda chymorth o'r fath, bydd biliau ynni defnyddwyr yn uwch nag mewn blynyddoedd blaenorol.
- Ychwanegwch swm ar gyfer gwariant annisgwyl, ee, gwario ar ddisodli nwyddau sydd wedi torri yn y cartref. Mae cael cronfa argyfwng ar gyfer gwariant annisgwyl yn golygu bod dim angen i chi droi at fesurau munud olaf mewn panig (fel benthyca neu wario ar gerdyn credyd).
Mae’n gwneud synnwyr cael cyllideb flynyddol, ond ei ddadansoddi fesul mis hefyd.
Bydd y gyllideb flynyddol yn rhoi darlun lefel uchel o’ch cyllid i chi, ac yn dangos a ydych chi’n gwario mwy nag y gallwch chi ei fforddio yn ystod y flwyddyn (newyddion drwg!), neu’n gwario llai nag y gallwch chi ei fforddio sy’n golygu eich bod yn gallu cynilo rhywfaint (newyddion da!).
Bydd y gyllideb fisol yn eich helpu chi i reoli eich arian o ddydd i ddydd, gan ddangos a yw hwn yn fis lle rydych chi’n gwario’n drwm (ee, mis Rhagfyr, lle mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwario ar y Nadolig) neu’n fis lle rydych chi’n gwario llai (ee, mis Chwefror; mis byr lle dydy pobl ddim yn tueddu i fynd ar wyliau, dydy’r Dreth Gyngor ddim fel arfer yn daladwy, ac mae biliau'r Nadolig wedi cael eu talu). Bydd y cipluniau misol yma hefyd yn amlygu pryd bydd angen i chi ddefnyddio eich cynilion i gefnogi mis o wario trwm, neu roi arian mewn cynilion pan mae’r gwariant misol yn gymharol isel.