Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Sesiwn 2: Cyllidebu a threthi

Cyflwyniad

Download this video clip.Video player: Fideo 1 Cyflwyniad i Sesiwn 2
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Fideo 1 Cyflwyniad i Sesiwn 2
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Gwrandewch ar neges Martin Lewis yn Gymraeg isod.

Download this audio clip.Audio player: Clip Sain 1 Cyflwyniad i Sesiwn 2
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Clip Sain 1 Cyflwyniad i Sesiwn 2
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Dyma’r ail sesiwn mewn cwrs ar reoli arian sydd wedi'i gynhyrchu gan y Brifysgol Agored mewn cydweithrediad â MoneySavingExpert.com.

Yn y sesiwn hon ar gyllidebu a threthi, byddwch chi’n dysgu am yr incwm rydych chi’n ei gael – eich incwm net – a sut mae didynnu treth incwm a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) o’ch incwm gros yn effeithio arno.

Wedyn, byddwch yn edrych ar nodweddion eich gwariant cyn dechrau llunio eich cyllideb.

Cael rheolaeth dda dros gyllideb eich cartref yw sylfaen rheoli ariannol da. Ac yn sicr, mae bod yn ymwybodol o ble y gallwch arbed arian yn dod yn bwysicach fyth yn sgil y twf cyflym yn chwyddiant prisiau a welwyd yn 2022 o ganlyniad i filiau ynni uwch a chostau cynyddol llawer o nwyddau, gan gynnwys bwyd.

Ar ôl astudio'r sesiwn hon, dylech allu gwneud y canlynol:

  • deall sut mae treth incwm ac Yswiriant Gwladol yn effeithio ar enillion
  • deall gwariant aelwyd
  • llunio cyllideb
  • deall y prif agweddau ar reoli cyllideb.

Mae’r Sesiwn hon yn un o gyfres sy’n creu cwrs Academi Arian MSE a bu’n bosibl ei wireddu drwy gyfraniadau ariannol a chynnwys gan MoneySavingExpert.com.