Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Glossary

Bond Premiwm
Bond loteri sy’n cael ei gyflwyno gan lywodraeth y DU drwy ei hasiantaeth Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I).
CThEM
(Term llawn: Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.) Y corff yn y DU sy’n gyfrifol am gasglu refeniw trethi.
Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG)
Didyniadau o enillion yn y DU. Mae cofnod o’r cyfraniadau yn helpu i bennu a oes gan unigolyn hawl i rai o fudd-daliadau’r wladwriaeth, fel Pensiwn y Wladwriaeth.
Cyllideb
Cynllun ariannol ar gyfer cyfnod yn y dyfodol – mis neu flwyddyn fel arfer – sy’n nodi incwm a gwariant disgwyliedig.
Incwm gros
Incwm cyn unrhyw ddidyniadau, gan gynnwys treth incwm, Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) a chyfraniadau pensiwn.
Incwm net
Incwm ar ôl tynnu'r holl ddidyniadau o incwm gros.
ISA
Cyfrif Cynilo Unigol. Cyfrif cynilo lle mae'r llog neu enillion eraill yn ddi-dreth.
Marks and Spencer
Cadwyn o siopau adrannol yn y DU.
Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI)
Dull o fesur prisiau defnyddwyr yn y DU a'r brif sail ar gyfer mesur chwyddiant prisiau.
Treth Gyngor
Treth a godir gan awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Mae’r dreth yn seiliedig ar brisiadau eiddo.
Treth incwm
Treth ar enillion yn y DU.
Treth raddoledig
Treth lle mae’r swm a delir fel cyfran o incwm gros yn cynyddu wrth i incwm gynyddu (fel arfer drwy godiadau yn y gyfradd trethiant ymylol, ee, o 20% o gyflog gros i 40% o gyflog gros).