Cyflwyniad a chanllawiau
Mae’r cwrs hwn sydd am ddim ac sydd â bathodyn, Mathemateg pob dydd 2, yn gyflwyniad i Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn mathemateg. Mae wedi ei ddylunio i’ch ysbrydoli chi i wella’ch sgiliau mathemateg ac i’ch helpu i gofio unrhyw feysydd a aeth yn angof. Bydd gweithio drwy’r enghreifftiau a gweithgareddau rhyngweithiol yn y cwrs hwn yn eich helpu chi i redeg cartref neu symud ymlaen yn eich gyrfa, ymysg pethau eraill.
Gallwch weithio drwy’r cwrs wrth eich pwysau. Er mwyn cwblhau’r cwrs, bydd arnoch angen cyfrifiannell, llyfr nodiadau ac ysgrifbin.
Mae’r cwrs yn cynnwys pedair sesiwn, ac oddeutu 48 awr yw cyfanswm yr amser astudio. Mae’r sesiynau’n trafod y topigau canlynol: rhifau, mesur, siapiau a gofod, a data. Bydd digonedd o enghreifftiau i’ch helpu chi wrth ichi symud ymlaen, ynghyd â chyfleoedd i ymarfer eich dealltwriaeth.
Mae’r cwisiau rhyngweithiol rheolaidd yn rhan o’r arfer hwn, ac mae’r cwis ar ddiwedd y cwrs yn gyfle ichi ennill bathodyn sy’n dangos eich sgiliau newydd. Gallwch ddarllen mwy am sut i astudio’r cwrs ac am fathodynnau yn yr adrannau nesaf.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn byddwch yn gallu:
- deall problemau ymarferol, nad yw rhai ohonynt yn arferol
- adnabod y sgiliau mathemateg mae eu hangen arnoch i fynd i’r afael â phroblem
- defnyddio mathemateg mewn ffordd drefnus i ddod o hyd i’r datrysiad rydych yn ei geisio
- defnyddio gweithdrefnau gwirio priodol ar bob cam
- esbonio’r broses a ddefnyddioch i gael ateb a thynnu casgliadau syml ohoni.
Symud o gwmpas y cwrs
Y ffordd hawsaf i lywio o gwmpas y cwrs yw ar y dudalen ‘Cynnydd fy nghwrs’. Gallwch fynd yn ôl i’r dudalen honno ar unrhyw adeg drwy glicio ‘Nôl i’r cwrs’ yn y ddewislen.
Mae hefyd yn arfer da, os byddwch yn defnyddio dolen ar dudalen o’r cwrs (gan gynnwys dolenni i’r cwisiau), i’w hagor mewn ffenestr neu dab newydd. Gallwch wedyn fynd yn ôl yn hawdd i’r dudalen flaenorol heb orfod defnyddio’r botwm ‘Yn ôl’ ar eich porwr.